Ffyrdd o arbed ynni
Mae ynni cartref yn cyfrannu 53 - 57% o allyriadau carbon aelwyd bob blwyddyn. Ers 2004 mae costau ynni wedi mwy na dyblu.
Syniadau Syml ar gyfer Arbed Ynni
| Camau syml ar sut i arbed ynni ar gyfer pob cartref | Arbediad costau blynyddol posib | Arbediad CO2e blynyddol a charbon cyfatebol i bellter gyrru |
Offer | Os oes angen i ni gael offer/peiriannau newydd yn lle'r hen rai, y peth gorau bob amser yw ceisio cael y modelau mwyaf effeithlon o ran ynni y gallwn eu fforddio, oherwydd bydd prynu un rhatach, llai effeithlon o ran ynni, yn economi ffug yn y pen draw. | ||
Diffoddwch yr offer o'r modd segur. | Diffoddwch ddyfeisiau o'r modd segur, neu o'r modd gorffwys e.e. teledu, blychau a recordwyr teledu, cyfrifiaduron a monitorau, consolau gemau, microdonnau, hi-fi a seinyddion, peiriannau argraffu, gwefrwyr ffôn | £55 ar gyfartaledd | 45kg CO2e (163 o filltiroedd Abertawe i Fachynlleth ac yn ôl) |
Rhedeg eich peiriant golchi llestri | Rhedwch eich peiriant golchi llestri pan fydd yn llawn i leihau swm y dŵr rydych yn ei ddefnyddio a'r nifer o weithiau rydych chi'n ei ddefnyddio gan unwaith yr wythnos. | £14 | 11kg CO2e (40 o filltiroedd Abertawe i Sain Ffagan) |
Berwch y dŵr sydd ei angen arnoch yn unig | Berwch y dŵr sydd ei angen arnoch yn unig yn eich tegell. Os ydych chi'n gweld eich bod wedi berwi gormod, arllwyswch ef i fflasg i'w ddefnyddio'n ddiweddarach. | £11 | 9kg CO2e (33 o filltiroedd Abertawe i Ferthyr Tudful) |
Gosodwch fylbiau golau light bulbs with LED yn lle'ch hen rai | Disodlwch fylbiau golau gyda rhai LED dros amser. Bydd rhoi bwlb LED yn lle bwlb nodweddiadol 60w yn arbed digon o arian i dalu amdano'i hun mewn dwy flynedd. | £6 fesul pob bwlb gwynias 60w, £55 ar gyfer gosod bylbiau LED newydd yn lle'r holl fylbiau mewn cartref arferol | 4.7kg CO2e fesul pob bwlb gwynias 60w sy'n cael ei ddisodli, 43kg CO2e ar gyfer disodli'r holl fylbiau mewn cartref arferol (17 milltir fesul bwlb, Abertawe i'r Pîl, 156 o filltiroedd ar gyfer yr holl fylbiau yn y Cartref, Abertawe i Winchester) |
Defnyddiwch eich peiriant golchi ar dymheredd is a dim ond pan fydd yn llawn | Defnyddiwch gylchoedd 30 gradd peiriant golchi yn hytrach na thymheredd uwch. Ychwanegwch sgŵp bach o soda pobi at eich dillad gwyn neu ddillad babanod i helpu i'w cadw'n wyn. Golchwch eich dillad pan fydd gennych ddigon i lenwi'r peiriant yn unig i leihau'r nifer o weithiau rydych chi'n defnyddio'r peiriant. | £14 ar gyfer golchi ar 30, £14 ar gyfer lleihau nifer o weithiau rydych chi'n golchi'ch dillad o unwaith yr wythnos | 11kg CO2e ar gyfer golchi ar 30 (40 o filltiroedd Abertawe i San Ffagan) 12kg CO2e ar gyfer golchi'ch dillad unwaith yn llai yr wythnos (43 o filltiroedd Abertawe i Ikea, Caerdydd) |
Sychwch eich dillad yn naturiol pan fydd hynny'n bosib | Peidiwch â defnyddio sychdaflwr ar gyfer eich dillad: sychwch ddillad ar reseli y tu mewn lle bo'n bosib neu y tu allan mewn tywydd cynhesach. Bydd defnyddio rhesel i sychu dilllad y tu mewn yn y gaeaf yn arbed hyd yn oed yn fwy o arian a CO2e. Dylech awyru ystafelloedd lle mae dillad gwlyb yn sychu bob tro. | £60 | 45kg CO2e (163 o filltiroedd - Abertawe i Fachynlleth ac yn ôl) |
| |||
Cadwch eich rhewgell yn llawn
| Dylai oergell fod yn 4-5 *C a dylai rhewgell fod yn -18*C. Mae'r rhain ymysg y peiriannau sy'n defnyddio'r swm mwyaf o drydan o unrhyw offer am eu bod ymlaen ddydd a nos. Mae'n fwy effeithlon os yw'n cael ei chadw o leiaf 2/3 yn llawn, ond peidiwch â'u gorlenwi. Cadwch lygad ar rew sy'n cronni ac ewch ati i'w ddadrewi'n rheolaidd. Gwiriwch fod seliau'r drysau mewn cyflwr da a thynnwch y llwch oddi ar goiliau'r cyddwysydd yn y cefn bob hyn a hyn. | ||
Gwelliannau i adeiladau a gwresogi lleoedd | Bydd ffenestri gwydr dwbl da, waliau, atig, a llawr wedi'i inswleiddio yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r defnydd o ynni, ond gall y rhain fod yn ddrud ac efallai na fyddant yn briodol os ydych yn rhentu. Mae ffyrdd eraill o arbed ynni sy'n rhatach ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'ch biliau a'ch ôl troed carbon. Gwiriwch y radd Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer eich cartref a'i defnyddio fel arweiniad i'ch helpu i wneud gwelliannau. Os ydych chi'n rhentu, gwnewch yr un peth gan y disgwylir i landlordiaid gynnal argymhellion ar gyfer effeithlonrwydd ynni. | ||
Gosodwch eich gwres ar amserydd ac addaswch y tymheredd | Dylid cynhesu cartref iach tua 18-21°C. Efallai y bydd angen i'r tymheredd hwn fod yn uwch ar gyfer yr henoed neu blant ifanc iawn a'r rheini sy'n dioddef o salwch, ond yn gyffredinol os defnyddir hyn fel canllaw, gallem arbed ynni. | £105 os ydych chi'n troi'r thermostat i lawr o 21 - 20 gradd Celsius | 310kg CO2 ar gyfer pob gradd rydych chi'n ei throi i lawr (1,123 o filltiroedd o Abertawe i Aberdeen ac yn ôl) |
Cael gwared ar y bylchau | Sicrhewch fod y bylchau o gwmpas ffenestri, drysau ac estyll yn gwrthsefyll drafftiau drwy osod stribedi sbwng, seliau neu frwsys plastig - a selio bylchau gyda selydd. Gwnewch yn siŵr bod eich drysau'n gwrthsefyll drafftiau drwy hongian llenni neu ddefnyddio rhimyn drafft 'selsig'. | £45 ar gyfer ffenestri a drysau, £50 ar gyfer lloriau | 105kg CO2 ar gyfer ffenestri a drysau (380 o filltiroedd Abertawe i Chichester ac yn ôl), 115kg CO2 ar gyfer lloriau (417 o filltiroedd Abertawe i Sevenoaks, Caint ac yn ôl) |
Tynnwch eich llenni gyda'r cyfnos | Bydd tynnu'ch llenni yn helpu i atal gwres rhag dianc drwy ffenestri. Ar gyfartaledd bydd arbediad o 13-17% ar eich biliau. Os yw eich llenni wedi'u leinio'n thermol neu wedi'u leinio ddwywaith, gallwch arbed rhagor o arian ac felly rhagor o garbon. | ||
Inswleiddio pibellau a thanciau dŵr twym | Mae inswleiddio'ch tanc dŵr twym yn effeithiol yn bwysig: hyd yn oed os oes gennych sbwng chwistrellu tenau neu siaced 25mm rhydd, gallwch elwa o gynyddu'r inswleiddio i Siaced Safonol Brydeinig 80mm o drwch. | £155 i inswleiddio silindr sydd heb ei inswleiddio, £35 i wella inswleiddio silindr a £6 ar gyfer gwaith pibellau | £35 = 115kg CO2 (417 o filltiroedd Abertawe i Sevenoaks, Caint ac yn ôl) |
Inswleiddio'ch atig | Mae 25% o'r gwres a gollir mewn cartref yn cael ei golli drwy'r to. Os ydych yn gwneud yn siŵr bod eich inswleiddio yn yr atig o leiaf 10-14 modfedd o drwch bydd yn lleihau'r gwres sy'n cael ei golli'n sylweddol. Gwiriwch eich atig ac os nad yw wedi'i inswleiddio dylech flaenoriaethu hyn gan fydd hyn yn arbed y swm fwyaf o arian ac ynni i chi. | Hyd at £225 (teras) - £580 (ar wahân) yn seiliedig ar wres canolog nwy. | 520kg CO2 - 1300kg CO2 (1,884 o filltiroedd Abertawe i Thessaloniki, Gwlad Groeg - 4,711 o filltiroedd, Abertawe i Kandaha, Afganistan) |
Cymerwch gawod yn hytrach na bath | Cadwch eich amser cawod i 4 munud. A chyfnewid un bath yr wythnos i gawod. | £70 ar gyfer cael cawodydd sy'n para llai na 4 munud, £12 ar gyfer newid un bath yr wythnos i gawod ar gyfer y cartref teulu arferol | 205kg CO2 ar gyfer cael cawodydd sy'n para llai na 4 munud (743 o filltiroedd Abertawe i Plymouth ac yn ôl ddwywaith), 35kg CO2 ar gyfer newid i un bath yr wythnos (127 o filltiroedd Abertawe i Borthmadog) |
Cynhyrchwyd gyda diolch i'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni