Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllunio arddangosfa: Ymateb blaengar Abertawe

Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Abertawe ymhlith y cyntaf yng Nghymru i ddarparu tai ar ddull Gardd-ddinas.

An Exhibition is planned
O filas eang Uplands i dai twt yr Hafod, adeiladwyd y rhan fwyaf o dai Abertawe ym 1900 mewn terasau. Roedd gerddi mewn stribedi cul, a'r pwyslais ar linellau syth ac onglau sgwâr. Roedd defnyddio tir yn ddarbodus yn flaenoriaeth, ac nid oedd delfrydau arloeswyr yr Ardd-ddinasoedd eto wedi effeithio ar ddatblygiad y dref.

Roedd Cyngor Abertawe'n pryderu am y stoc tai a bywyd y tlodion, a gwelwyd diddordeb cynnar yn yr egwyddorion cynllunio newydd. Ym 1906, aeth y cynghorwyr Ruthen a Solomon i gynhadledd yr Housing Reform, lle trafodwyd am y tro cyntaf y posibilrwydd o gynnal arddangosfa dai yn Abertawe, yn debyg i Arddangosfa Fythynnod Letchworth 1905. Yma hefyd y daeth Syr Raymond Unwin i gysylltiad â'r cynadleddwyr o Abertawe am y tro cyntaf.

Ffurfiwyd pwyllgor arddangosfa, gydag aelodau o Gyngor Dosbarth Trefol Castell-nedd, Cyngor Tref Casnewydd a Chyngor Masnach Treforys a Bwrdeistref Abertawe. Roedd y tir ym Mayhill eisoes yn eiddo i'r cyngor, gyda'i olygfeydd ysblennydd dros y bae a'r aer glân ymhell o'r gweithfeydd. Dyma leoliad delfrydol ar gyfer arddangosfa. Adeiladwyd ffyrdd dynesu, a nodwyd ardal ar gyfer adeiladu. Gwahoddwyd penseiri i gynllunio ac adeiladu tai ar gyllideb fach i ddangos y gallai tai rhad fod yn eang ac wedi'u cynllunio'n dda. Cyn hir, cafwyd cynlluniau a dechreuodd y gwaith adeiladu.

Darllen am Arddangosfa Fythynnod De Cymru

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Ionawr 2023