Iwtopia: Mudiad y Gardd-ddinasoedd
Sut mae gweledigaeth un dyn wedi effeithio ar ein ffordd o fyw heddiw
Datblygodd cysyniad cynllunio cwbl newydd o Fudiad y Celfyddydau a Chrefftau. Roedd hwn yn fwy na thuedd artistig: yn ei hanfod oedd y syniad y gellid gwella bywydau pobl drwy ddylunio da. Gellid ei gymhwyso ar sawl lefel, o adeiladu tai i gelfi, o ffabrigau i offer cartref. Roedd yn ymateb cwbl ymwybodol i fasgynhyrchu unffurf.
Dyma fudiad y Gardd-ddinasoedd. Dechreuodd ym 1898 pan gyhoeddodd Syr Ebenezer Howard ei lyfr iwtopiaidd Tomorrow: a Peaceful Path to Real Reform, a ailgyhoeddwyd ym 1902 fel Garden Cities of Tomorrow. Awgrymai ei lyfr feddwl newydd ym maes cynllunio gwlad a thref gan gyffwrdd ag ymwybod ei ddarllenwyr. Yn ei ddinas ddelfrydol nid oedd slymiau, strydoedd culion na therasau digymeriad. Roedd gan ei ddatblygiadau fannau gwyrdd ac amrywiaeth, a chynlluniwyd y datblygiadau gan ystyried lles eu preswylwyr yn hytrach na iwtilitariaeth ac elw ariannol.
Troes y ddamcaniaeth yn arfer ar ddechrau'r 20fed ganrif. Adeiladwyd trefi newydd cynlluniedig megis Letchworth a Welwyn Garden City. Ar raddfa lai, adeiladwyd gardd-faestrefi, megis yr un yn Hampstead yn Llundain. Cynlluniwyd yr olaf gan Syr Raymond Unwin, a ddaeth yn flaenllaw yn natblygiad Abertawe.
Addaswyd diwethaf ar 30 Ionawr 2023