Brawdoliaeth yr Hafod
Rhestr Anrhydedd
Arferai Brawdoliaeth yr Hafod gynnal cyfres reolaidd o gyfarfodydd a oedd yn cynnwys perfformiadau cerddorol a sgyrsiau ar themâu moesol a chrefyddol. Ym 1922, ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, ffurfiwyd Clwb Pêl-droed Brawdoliaeth yr Hafod a oedd yn cystadlu mewn cynghreiriau lleol ar lefel amatur.
Nid yw'r rhestr gwroniaid a gedwir gan y Gwasanaeth Archifau ond cysgod o'r ddogfen wreiddiol. Mae'n llungopi o gerdyn treuliedig, sy'n mesur 8.5 x 14 cm, ac ymddengys mai llun o'r rhestr gwroniaid wreiddiol ydyw a oedd yn ôl pob tebyg wedi'i harddangos ym mhencadlys Brawdoliaeth yr Hafod. Roedd hwn yn amlwg yn ddarn o gelfwaith hardd ac fe'i llofnodir gan B a G Taylor. Mae baneri'r DU a'i chynghreiriaid yn addurno'r pen uchaf, ac mae torch o'r hyn sy'n edrych fel dail derw'n amgylchynu rhestr o 31 o enwau aelodau'r Frawdoliaeth a gymerodd ran yn y rhyfel. Mae seren wrth ymyl dau o'r enwau, sy'n dangos iddynt farw ar faes y gad.
Rhagor o wybodaeth am y baneri sy'n ymddangos ar y gofeb hon
Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [2MB](Yn agor ffenestr newydd)