Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth ychwanegol am y cofebion

Rhai gwybodaeth pellach defnyddiol am y cofebion rhyfel a rhestrau anrhydedd sy'n rhan o'r arddangosfa yma

Dyma'r cofebion a cynhwysir yn y prosiect hwn:

Cronfa Wladgarol Aber a Blaengwynfi, rhestr meirwon y rhyfel
Adulam Capel y Bedyddwyr Bonymaen
Eglwys yr Holl Saint, Cilfai: cofeb rhyfel
Eglwys y Bedyddwyr Gymraeg Bethania, London Road, Castell-nedd
Eglwys Bresbyteraidd Bethany, Port Talbot: rhestr anrhydedd
Cofnodion Pwyllgor Cronfa Bechgyn Llansawel ar y Ffrynt
Eglwys Crist, Abertawe: rhestr anrhydedd
Capel Crug Glas, Abertawe, rhestr anrhydedd
Ysgol Dynefwr, Abertawe: rhestr y meirwon
Neuadd Genhadol Ebenezer, Abertawe: rhestr anrhydedd
Ebenezer, Capel yr Annibynwyr, Abertawe: rhestr anrhydedd
Sgowtiaid Morol Cyntaf Abertawe: rhestr anrhydedd
Gwaith Gilbertson, Pontardawe: rhestr anrhydedd
Gorphwysfa Capel y Methodistiaid Calfinaidd, Sgiwen
Cylchgrawn Eglwys Gwyr, rhestr anrhydedd ar y cyd dros blwyfi Gwyr
Brawdoliaeth yr Hafod, rhestr anrhydedd
Capel Annibynnol Henrietta Street, rhestr anrhydedd a chofeb rhyfel
Memorial, Capel y Bedyddwyr, Abertawe: rhestr anrhydedd a chofeb rhyfel
Capel Mynyddbach, dwy restr anrhydedd
Pantygwydr, Capel y Bedyddwyr, Abertawe: rhestr anrhydedd
Eglwys Bresbyteraidd Philadelphia, Treforys: cofeb rhyfel
Ysgol Sirol Port Talbot (Ysgol Gyfun Glan Afan): cofeb rhyfel
Siloh Newydd, Glandwr: rhestr anrhydedd
Eglwys Bresbyteraidd Sant Andreas, Abertawe: rhestr anrhydedd
Eglwys Sant Jwdas, Abertawe: rhestr anrhydedd
Eglwys Sant Luc, Cwmbwrla: rhestr anrhydedd a chofeb rhyfel
Eglwys Sant Marc, Waunwen: rhestr anrhydedd a chofeb rhyfel
Ysgol Ramadeg Abertawe (Ysgol yr Esgob Gore): rhestr anrhydedd a chofeb ddarluniadol
Dosbarth Beibl Ysgol Genedlaethol Abertawe, rhestr anrhydedd
Tabernacle Capel y Bedyddwyr, Cwmrhydyceirw, Treforys
Tabor, Capel yr Annibynwyr, Abergwynfi: rhestr anrhydedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rhestrau Anrhydedd

Unwaith y daeth i'r amlwg y byddai'r Rhyfel Byd Cyntaf yn un hir a gwaedlyd, dechreuodd cymunedau gymryd camau i goffáu ymdrechion pobl leol a oedd yn rhan o ymdrech y rhyfel. Cafodd hyn ei ffurfioli'n rhestrau gwroniaid, a arddangoswyd fel arfer mewn lle amlwg. Roedd y rhan fwyaf yn weithiau celf hynod addurnol wedi'u fframio, gydag enwau'r rhai a oedd yn gwasanaethu wedi'u harddangos ar sgrôl ddychmygol, plac neu biler wedi'u hamgylchynu gan symbolau a oedd yn berthnasol i'w gwlad a'r sefydliad roeddent yn perthyn iddo. Roedd llawer o restrau gwroniaid fel petaent yn canolbwyntio ar y lluoedd arfog yn unig, ond roedd rhai'n cynnwys nyrsys a gweithwyr arfau rhyfel hefyd, gan gydnabod y rôl hanfodol a gyflawnwyd gan fenywod yn ymdrech y rhyfel. Mae llawer o'r rhai a gedwir gennym wedi'u dylunio'n broffesiynol ac yn hardd iawn, ac mae eraill wedi'u llunio gan artistiaid amatur, ond gyda'r un balchder yn y rhai y mae eu henwau wedi'u rhestru.
 

Cofebion Rhyfel

Ar ôl i'r rhyfel ddod i ben, symudodd ffocws y cofio o'r rhai a fu'n gwasanaethu i goffáu enwau'r rhai a fu farw ar gofebion rhyfel. Mae sut cafodd hyn ei wneud yn amrywio o le i le: mae croesau cerrig, senotaffau, pyrth, cerfluniau, placiau a phlinthiau. Mae neuaddau coffa, capeli, sgriniau, llyfrau coffa a ffenestri gwydr lliw. Pa ffurf bynnag sydd i'r gofeb, mae'r rhan ganolog yr un peth: rhestr ffurfiol o enwau'r meirw, wedi'i cherfio mewn pren neu garreg, neu wedi'i bwrw mewn efydd neu bres. Os bydd capel neu eglwys yn cau, mae'r rhain fel arfer yn aros lle y maent am eu bod yn rhan o adeiladwaith yr adeilad. Mae'r ychydig sydd gennym naill ai'n blaciau pres neu'n ffotograffau o gerrig coffa sydd bellach wedi'u cloi mewn adeiladau adfeiliedig neu wedi'u colli gan fod yr adeilad wedi'i ddymchwel.
 

Symbolau ar restrau anrhydedd

Mae sawl rhestr gwroniaid yn cynnwys baneri i gynrychioli'r cynghreiriaid yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Maent yn cynnwys y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Gwlad Belg, Rwsia, Serbia, yr Eidal a Japan. Roedd Baner yr Undeb a baneri Gwlad Belg a Ffrainc yr un peth ag y maent heddiw. Roedd baner yr Eidal yn cynnwys yr un tri lliw cyfarwydd sef gwyrdd, coch a gwyn, ond roedd arfbais arni (coch â  chroes wen) yng nghanol y rhan wen. Roedd baner Serbia'n un drilliw llorweddol yn cynnwys streipiau o goch, glas a gwyn. Cynrychiolir Rwsia gan faner wen gyda sawtyr glas, lluman Llynges Rwsia. Y faner sy'n cynnwys pelydrau coch yn tywynnu o ganol coch yw baner rhyfel Byddin Ymerodrol Japan.
 

Medalau ac addurniadau a grybwyllir ar restrau'r gwroniaid

  • Croix de Guerre ("Croes Rhyfel") -medal filwrol Ffrengig a ddyfarnwyd i bersonél y Lluoedd Arfog, gan gynnwys weithiau filwyr o wledydd a oedd yn gynghreiriaid i Ffrainc.
  • DCM (Medal Ymddygiad Rhagorol)- fe'i dyfarnwyd i filwyr o rengoedd dan swyddogion â chomisiwn ar gyfer "ymddygiad rhagorol, dewr a da yn y maes". Fe'i sefydlwyd ym 1854.
  • MC (Y Groes Filwrol) - fe'i dyfarnwyd i swyddogion â chomisiwn â rheng Capten ac yn is, a swyddogion gwarantedig ar gyfer "gweithred neu weithredoedd o ddewrder canmoladwy yn ystod ymgyrchoedd gweithredol yn erbyn y gelyn ar dir i holl aelodau, o unrhyw  reng, yn ein Lluoedd Arfog".  Fe'i sefydlwyd ym 1914.
  • MM (Y Fedal Filwrol)- fe'i dyfarnwyd am ddewrder ar dir, a "gweithredoedd o ddewrder ac ymlyniad wrth ddyletswydd ym merw'r frwydr".   Fe'i sefydlwyd ym 1916, ond fe'i gwnaed yn ôl-weithredol i 1914.
  • RRC (Y Groes Goch Frenhinol) - fe'i dyfarnwyd i bersonél y gwasanaeth nyrsio am ddewrder neu wasanaeth eithriadol. Fe'i sefydlwyd ym 1883, a'i roi i fenywod yn unig tan 1976.
  • VC (Croes Victoria) - fe'i dyfarnwyd i bob rheng o'r lluoedd arfog a sifiliaid dan reolaeth filwrol am ddewrder "ym mhresenoldeb y gelyn". Dyma'r dyfarniad uchaf yn system anrhydeddau Prydain. Fe'i sefydlwyd ym 1856.
  • DSO (Urdd Gwasanaeth ) - fe'i dyfarnwyd i aelodau o'r Lluoedd Arfog, yn wreiddiol i swyddogion yn unig, ar gyfer "gwasanaethau rhagorol yn ystod ymgyrchoedd gweithredol yn erbyn y gelyn", fel arfer ym merw'r frwydr. Fe'i sefydlwyd ym 1886.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Tachwedd 2023