Toglo gwelededd dewislen symudol

Eglwys Bresbyteraidd Sant Andreas, Abertawe

Rhestr Anrhydedd

Sefydlwyd Eglwys Bresbyteraidd Sant Andreas ym 1860 gan deuluoedd Albanaidd o Abertawe. Adeiladwyd yr eglwys ar Heol San Helen, adeilad blaenllaw gyda phâr o dyrau ar ymyl gorllewinol tref Abertawe ar y pryd. Daeth yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig ym 1970 a chaeodd ym 1992. Mae'r adeilad yn sefyll o hyd, ac yn gartref bellach i Fosg Abertawe a'r Ganolfan Gymunedol Islamaidd.

Mae Rhestr y Gwroniaid, wedi'i llofnodi gan G Terrill, mewn inc lliw a dyfrlliw ar ddarn o gerdyn 55cm x 80cm. Mae'n ddyluniad lliwgar a dymunol, ac amlygir yr enwau mewn inc coch a du mewn llawysgrifen gothig, a border o ddolffiniaid a thyfiant arddulliedig, wedi'u gosod gydag arwyddluniau'r cynghreiriaid ar ddechrau'r rhyfel. Mae arfbais gyfoes Cyngor Bwrdeistref Sirol Abertawe ar y gwaelod.

Fe'i llofnodir gan G Terrill, a'i dyddio'n 1915 felly mae'n bosib nad yw'r rhestr yn gyflawn. Ceir enwau 49 o ddynion o'r gynulleidfa a ymladdodd yn y rhyfel arni, ac mae enwau'r tri dyn a fu farw'n ddiweddarach wedi'u hamlinellu ac ysgrifennwyd drostynt mewn inc du.

Rhagor o wybodaeth am y baneri sy'n ymddangos ar y gofeb hon

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [633KB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Tachwedd 2023