Toglo gwelededd dewislen symudol

Archifau Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd

Ein man gwasanaeth yn Sefydliad y Mecanyddion Castell-nedd.

Beth sydd ar gael?

Neath Antiquarians

Swyddfa cangen Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yng Nghastell-nedd yw Archifau Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd. Mae'n gartref Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd, lle mae ei casgliadau archifau hasnesyddol. Mae ystafell ymchwil lle gellir gweld y dogfennau gwreiddiol, ac mae aelod staff ar gael am gyfarwydd.

Mae amrywiaeth o ffynhonellau yn yr ystafell ymchwil a fydd yn eich helpu i olrhain hanes eich teulu. Mae copiau digidol o gofrestru plwyf lleol, a gwasanaeth rhyngrwydd am ddim i chi gael mynediad i wefannau hanes teulu arlein. Mae llyfrgell o llyfrau am hanes lleol hefyd.

Oriau agor:

Dydd Llun 9.30am-12.30pm, 1.30pm-4.45pm (Ar gau pob gŵyl y banc.)
Dydd Iau 9.30am-12.30pm, 1.30pm-4.45pm

Mae archebu ymlaen llaw yn hollbwysig:

Mae niferoedd yn gyfyngedig, felly mae'n hanfodol archebu lle ymlaen llaw ac archebu'r deg dogfen gyntaf rydych chi am eu gweld ymlaen llaw hefyd. Gellir gofyn am ragor o ddogfennau yn ystod eich ymweliad. I wneud apwyntiad, E-bostiwch ni neu ffoniwch 01792 636589.

Gallwch chwilio'n catalogau arlein i ddod o hyd i gyfeirnodau'r dogfennau y mae eu hangen arnoch. Os nad ydych yn siŵr ynghylch yr hyn y bydd angen i chi ei archwilio, anfonwch e-bost atom i ddweud wrthym am yr hyn rydych am ei ddarganfod, a byddwn yn eich cynghori.

Mae tocyn darllenwyr newydd:

Mae ein hen system docynnau ddarllenydd wedi dod i ben a bydd angen i chi wneud cais am docyn darllenydd newydd, sef y Cerdyn Archifau. Bydd hyn yn rhoi mynediad i chi i wasanaethau archifau eraill ledled y wlad. Gallwch chi wneud cais ar-lein a chasglu'ch tocyn pan ymwelwch: darganfyddwch sut mae'n gweithio.

Pellter cymdeithasol:

Nid yw gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol bellach, ond os y gallwch chi, rydym yn eich cynghori i wysgo un wrth fynd i mewn ac allan o'r ystafell ymchwilio ac wrth siarad i aelodau staff.

Nodwch, oherwydd yr angen i sicrhau pellter cymdeithasol, ni allwn gynnig cymorth un i un wrth ddefnyddio cyfrifiadur.

Ydych chi'n chwilio am edrychiad cyflym neu gopi o fap neu ddogfen?

Am dâl cymedrol, gallwn ni'ch helpu heb angen ymweliad. E-bostiwch ni gyda'ch ymholiad a byddwn ni'n gwneud ein gorau i'ch helpu chi.

Ble rydym ni:

Archifau Hynafiaethwyr Castell-nedd
Sefydliad y Mecanyddion Castell-nedd
4 Church Place
Castell-nedd SA11 3LL
Ffôn: 01639 620139


View Larger Map

Cyrraedd yno

Mae Archifau Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd yn Sefydliad Mecanyddol Castell-nedd yn Church Place, gyferbyn ag Eglwys St Thomas. Mae'r orsaf fysus yng Ngerddi Victoria ychydig funudau i ffwrdd ar droed, ac mae'r orsaf rheilffordd tua 10 munud i ffwrdd ar droed.

Hygyrchedd yr Adeilad

Mae Sefydliad Mecanyddion Castell-nedd yn adeilad hanesyddol, ac mae tri gris yn arwain i fyny at y drws. 
Gellir gwneud trefniadau eraill yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd ar gyfer rhywun mewn cadair olwyn neu rhywun â phroblemau symudedd sy'n methu dod i mewn i'r adeilad. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael trwy apwyntiad blaenllaw yn unig, yn ystod oriau agor arferol. 
Mae'r ffynonellau y gellir eu gweld yn y Ganolfan Ddinesig yn cynnwys dogfennau o gasgliadau Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd, a'r ffynonellau hanes teuluol sydd ar gael yn y man gwasanaeth.

Parcio

Mae gan ganol tref Castell-nedd faes parcio aml-lawr a sawl maes parcio ar lefel stryd, y mae'r un agosaf ar Heol y Dwr. Ni ellir parcio y tu allan i'r adeilad.

Cyfleusterau

Mae toiledau ar gael i ymwelwyr. 
Mae canol tref Castell-nedd gerllaw, gydag amrywiaeth o gaffis, tafarndai a bwytai.

Defnyddio'r archifau

Gwybodaeth i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich ymweliad.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Mawrth 2024