Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Gwybodaeth i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich ymweliad.
Tocynnau Darllenydd
Er mwyn gweld dogfennau gwreiddiol o'r casgliadau, bydd rhaid i chi gofrestru am docyn darllenydd Archifau Cymru. Gallwch gael tocyn ar eich ymweliad cyntaf, ond galwch chi gofrestru am docyn darllenydd ymlaen llaw.
Diogelwch yn yr ystafell ymchwilio
Am resymau diogelwch, ni chaniateir cotiau na bagiau yn yr ardal astudio. Mae loceri a rheslau cotiau cloadwy ar gael ar gyfer eich eiddo personol. Gofynnir i'n holl ymchwilwyr i ddilyn rheolau'r ystafell ymchwilio. Maen nhw i sicrhau diogelwch y dogfennau sydd o dan ein gofal. Cliciwch yma i ddarllen mwy am reolau'r ystafell ymchwilio I weld arweiniad byr i'ch helpu i drin dogfennau'n gywir yn yr ystafell chwilio, cliciwch yma..
Beth mae angen i mi ddod gyda mi?
Gall fod yn ddefnyddiol dod â'r canlynol gyda chi i'r ystafell chwilio
Llyfr ysgrifennu
Pensil - sylwer ni chaniateir pinnau ysgrifennu yn yr ardal astudio
Camera i dynnu llun o ddogfennau (dim fflach)
Gallwch ddod â gliniadur os oes un gennych: mae gan nifer o fyrddau socedi trydan.