Sut y dathlom y coroni slawer dydd
Yn draddodiadol, mae pob coroni'n achlysur i ddathlu. Yn y trefi a'r pentrefi, daeth pobl ynghyd i fwyta, yfed a dathlu eu brenin neu frenhines newydd. Dyma enghreifftiau o sut y gwnaed hyn yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.


Partïon stryd ar gyfer coroni Siôr VI ym 1937 yn Nhonna ac ar gyfer Elizabeth II ym 1953 ym Mhen-lan.



Gosododd siop Hancorn ym Mhort Talbot a glowyr yn Ystradgynlais addurniadau i ddathlu coroni Siôr V ym 1911.



Ym 1831, i nodi coroni William IV, goleuwyd tref Aberafan a dathlodd y bobl gyda pharti. Yn Abertawe, cafwyd gwledda a thân gwyllt.

Yng nghoroni Siôr IV ym 1821, cynhaliwyd gwleddoedd yng Nghastell-nedd ac Abertawe. Canwyd y clychau yng Nghastell-nedd a thaniwyd y gynnau mawr a goleuwyd y dref a Chastell y Gnoll. Yn Abertawe, goleuwyd y dref gan arddangosfa tân gwyllt.

Canodd y clychau yn Abertawe ym 1625 i nodi coroni Siarl 1.
Nesaf, mae drem yn ôl ar ymweliad swyddogol cyntaf y Brenin â Gorllewin Morgannwg →
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 28 Ebrill 2023