Y Brenin Siarl III: coroniadau'r gorffennol a'r presennol
Mae'r seremonïau a'r arferion sy'n ymwneud ag esgyniad sofran newydd i'r orsedd yn llawn traddodiad.


Yn lleol, mae cyhoeddi brenin neu frenhines yn achlysur dwys, a arweinir gan arweinwyr dinesig, tra bod y coroni'n ŵyl, gyda bwyd, cerddoriaeth a dathlu.
Ers y drydedd ganrif ar ddeg, pan roddodd y Brenin John ei siarteri i Fynachlog Nedd ac Abertawe a phan dreuliodd Edward I y noson yng Nghastell Ystumllwynarth, mae Gorllewin Morgannwg wedi cael cysylltiad hir â'r frenhiniaeth.
Dyma hanes sut mae achlysuron cyhoeddi a choroni wedi cael eu dathlu yng Ngorllewin Morgannwg ar hyd y blynyddoedd.