Toglo gwelededd dewislen symudol

Defnyddio'r ystafell ymchwil

Gwybodaeth am beth i ddisgwyl pan ymwelwch â'r archifau.

Archives Main Window
Tocynnau Darllenydd

Er mwyn gweld dogfennau gwreiddiol o'r casgliadau, bydd rhaid i chi gofrestru am docyn darllenydd Archifau Cymru. Gallwch gael tocyn ar eich ymweliad cyntaf, ond gallwch chi gofrestru arlein ymlaen llaw.

Diogelwch yn yr ystafell ymchwilio

Am resymau diogelwch, ni chaniateir cotiau na bagiau yn yr ardal astudio. Mae loceri a rheslau cotiau cloadwy ar gael ar gyfer eich eiddo personol yn ein derbynfa dan oruchwyliaeth. Gofynnir i'n holl ymchwilwyr i ddilyn y rheolau hyn. Maen nhw i sicrhau diogelwch y dogfennau sydd o dan ein gofal. Cliciwch yma i ddarllen mwy am reolau'r ystafell ymchwil.

I weld arweiniad byr i'ch helpu i drin dogfennau'n gywir yn yr ystafell chwilio, cliciwch yma. 

Archebu dogfennau

Byddwn ni'n gwneud ein gorau i gyflwyno'r dogfennau rydych yn eu angen yn syth, o fewn ein amser targed 20 munud. Serch hynny, ni allwn ni gyflwyno dogfennau dros amser cinio 1-2pm. Pe hoffech chi weld dogfennau dros yr amser hwn, a fyddwch gystal â'u archebu erbyn 12.45. 4.30pm yw yr amser hwyraf i archebu dogfennau (4.45 ar ddydd Mawrth). Dylai dogfennau eu dychwelyd erbyn 4.45 (6.45 ar ddydd Mawrth).

Beth mae angen i mi ddod gyda mi?

Gall fod yn ddefnyddiol dod â'r canlynol gyda chi i'r ystafell chwilio

  • Llyfr ysgrifennu
  • Pensil - sylwer ni chaniateir pinnau ysgrifennu yn yr ardal astudio
  • Camera i dynnu llun o ddogfennau (dim fflach)

Gallwch ddod â gliniadur os oes un gennych: mae gan nifer o fyrddau socedi trydan. Gallwch ddefnyddio'ch ffôn symudol yn y Ganolfan Hanes Teulu ond, i osgoi tarfu ar ymchwilwyr eraill, gofynnwn i chi beidio â ffonio na derbyn galwadau yn amgylchedd tawel ystafell chwilio'r archifau.

Oes gennych chi gyfleusterau llungopïo?

Gall staff ddarparu llungopïau i chi, o fewn canllawiau hawlfraint ac ar yr amod nad yw hyn yn difrodi'r ddogfen. Hefyd gallwch ddefnyddio'ch camera eich hunan i dynnu llun dogfennau, o fewn yr un canllawiau. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau sganio a digido o ansawdd uchel. 
Ffioedd a thaliadau yn Archifau Gorllewin Morgannwg

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Ebrill 2023