Cronfa'r Maer
Ar ôl i'r plant gyrraedd Tŷ Parc Sgeti, lansiodd Maer Abertawe, Richard Henry, Gronfa Gymorth Ffoaduriaid Sbaeneg Abertawe.
Rhoddodd Clwb Rotari Abertawe £100. Rhoddodd Cymdeithas Llafur Abertawe £20 bob pythefnos. Un o'r cymwynaswyr mwyaf yn Abertawe oedd y capeli anghydffurfiol a roddodd yr enillion o'u casgliadau ar y Sul.
Casglwyd rhoddion o gyfarfodydd ar y traeth ac o'r torfeydd a dyrrodd ar y strydoedd yn ystod ymweliad y Brenin ag Abertawe ar 14 Gorffennaf, 1937.
Penderfynwyd agor Tŷ Parc Sgeti hefyd i ymwelwyr ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Roedd dau ddiben i'r ymweliadau hyn. Yn gyntaf, roedd yn gyfle arall i gasglu rhoddion gan ddymunwyr da ac yn ail, roedd yn helpu i gadw sylw'r cyhoedd ar helynt y ffoaduriaid.