Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Capten David "Potato" Jones

Trwy gyd-ddigwyddiad, rhai diwrnod ar ôl i'r ffoaduriaid Basgaidd gyrraedd Abertawe, hwyliodd y capten môr o Abertawe, David "Potato" Jones, i borthladd Saint-Nazaire yn Ffrainc.

Potato Jones
"Potato" Jones oedd capten y llong lwythi Kellwyn a oedd yn cludo 1,500 o ffoaduriaid o Santander - un o'r cadarnleoedd gweriniaethol olaf oedd ar ôl yng ngogledd Sbaen.

Pan gyrhaeddodd Saint-Nazaire, roedd y wasg yn aros amdano. Rhai misoedd yn gynharach, roedd "Potato" Jones wedi dod yn ŵr eitha' enwog yn dilyn ei ymgais i dorri môr-warchae Bilbao.

Roedd ei ymdrechion i ddosbarthu llwyth o datws i amddiffynwyr y gweriniaethwyr wedi methu pan anfonwyd ei long yn ôl gan ddistrywlong o Brydain, ond roedd hanes herfeiddiol y capten wrth iddo ymroi i frwydro yn erbyn llongau rhyfel a gynfadau wedi cydio yn nychymyg pobl ym mhedwar ban byd. Roedd pobl Abertawe hefyd yn falch iawn ohono.

Nid oes amheuaeth y byddai helyntion cyffrous "Potato" Jones wedi ennyn diddordeb pobl yn y ffoaduriaid ifanc o Wlad y Basg yn Nhŷ Parc Sgeti ynghyd â chydymdeimlad atynt.

Darllenwch beth ddigwyddodd i'r plant nesaf

Wedi'i anfarwoli mewn cân! 
Gwrandewch ar Old Potato Jones o recordiad 1937 gan berfformwyr poblogaidd The Two Leslies:

Close Dewis iaith