Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwreiddiau

Mae Abertawe'n nodedig am fod yn gartref i'r gymuned Iddewig hynaf yng Nghymru.

Origins
Yn ôl y traddodiad, mae Iddewon Almaenig wedi byw yn y ddinas ers o leiaf y 1730au. Yn eu plith, roedd dynion megis Solomon Lyons a sefydlodd fusnes ym 1731 a Lazarus David, a aned yn Abertawe ym 1734. Honnir bod Lazarus wedi helpu sefydlu cymuned Shearith Israel ym Montreal, Canada. Ymhlith yr arloeswyr cynnar roedd David Michael a Samuel a Moses Levi a gyrhaeddodd Abertawe yn y 1740au. 

Y sefydliad Iddewig ffurfiol cyntaf a agorwyd yn Abertawe oedd y fynwent Iddewig yn Townhill ym 1768. Nid yw'n glir pryd dechreuodd yr Iddewon yn Abertawe gynnal oedfaon crefyddol ffurfiol, ond rydym yn gwybod bod y gymuned Iddewig yn defnyddio ystafell ar y Strand gyferbyn â warws Essery fel synagog ym 1789. Hyd yn oed cyn y dyddiad hwn, credir bod Iddewon wedi cwrdd yn rheolaidd yn ystafell gefn David Michael ar Stryd y Gwynt. 

Ffynnodd y gymuned ifanc. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd ei haelodau wedi sefydlu eu hunain mewn busnes fel gemyddion, gwneuthurwyr oriorau a chlociau, gofaint arian, gwystlwyr a masnachwyr cyffredinol. Roedd y gymuned Iddewig yn gwneud llawer o ffrindiau ymhlith y boblogaeth ehangach nad oedd yn Iddewig. 

O bryd i'w gilydd byddai ymryson neu anghydfod rhwng masnachwyr Iddewig a rhai nad oeddent yn Iddewig, ond, yn gyffredinol, cyd-fyw yn heddychlon fu hanes y gymuned Iddewig yn Abertawe yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn wir, o gyfnod cymharol cynnar, sylweddolai Iddewon yn Abertawe nad oeddent yn cael eu rhwystro rhag llenwi swyddi cyhoeddus. Ym 1836, etholwyd Michael John Michael, ?yr David Michael, yn henadur yng Nghorfforaeth Abertawe. Ym 1848, bu'n gwasanaethu fel Maer Abertawe ac ym 1849 fe'i gwnaed yn ustus heddwch. Ym 1848, penodwyd Mr I. M. Moses i Fwrdd Gwarcheidwaid Undeb Deddf y Tlodion Abertawe. Hefyd roedd dau Iddew ymhlith sefydlwyr cymdeithas nodedig Sefydliad Athroniaeth a Llên Abertawe ym 1835 - Douglas Cohen y llawfeddyg a Jacob Moseley y gwneuthurwr clociau.

Ble roedd y gynulleidfa'n addoli? Darllenwch am synagog gyntaf Cymru.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Ebrill 2023