Synagogau cynnar
Agorwyd y synagog bwrpasol gyntaf ar ddarn o dir rhwng Goat Street a Waterloo Street ym 1818.
"Among the various improvements in Swansea we have this week to notice the laying of the foundation for the erection of a neat Synagogue, in Goat-street, for those ancient people the Jews, being the first and only one ever raised in the Principality. The ceremony was performed with solemnity by the Elders, Messrs. L. and J. Michael, Mr Cohen, and Mr. Mosely. Various coins were deposited by many of that persuasion."
Roedd lle ar gyfer rhyw 70 o ddynion ar y llawr gwaelod, gydag oriel ar gyfer menywod y gynulleidfa. Safai'r synagog gerllaw ffowndri Mr Rogers yn agos at gornel Stryd Rhydychen. Uwchben y fynedfa roedd arwydd gyda'r geiriau canlynol yn Hebraeg: "Dyma borth yr Arglwydd; y cyfiawn a ddaw i mewn drwyddo".
Ym 1859 disodlwyd yr adeilad gwreiddiol gan synagog fwy yn Goat Street, a oedd yn dal tua 250 o bobl. Byddai'r synagog hon yn ateb anghenion y gymuned am y 82 flynedd nesaf.
Nid oedd bywyd dyddiol synagog Abertawe fyth yn ddiflas. Roedd anghydfodau yngl?n â ffioedd a breintiau aelodaeth, cyflogi a diswyddo gweinidogion ac ethol deiliaid swyddi yn sicrhau bod materion y synagog yn aml yn fywiog ac, o dro i dro, yn danbaid.
Darllenwch sut effeithiodd digwyddiadau 1941 ar Gynulleidfa Hebreaidd Abertawe.