Toglo gwelededd dewislen symudol

Hanes Marchnad Abertawe

Gadael ei ôl

Am ganrifoedd cadwyd cofnod o ganolbwynt masnach yn y dref ond nid adeilad penodol.

Making its mark
Mae gan farchnad Abertawe orffennol lliwgar a bywiog sy'n estyn dros ganrifoedd, gan gyflenwi'r nwyddau angenrheidiol i bobl Abertawe er mwyn byw, a chynnal busnesau ffermwyr a masnachwyr. Gyda chaeau ffrwythlon a thir pori o amgylch ardal Abertawe, byddai'r werin yn cerdded milltiroedd i'r dre er mwyn gwerthu eu nwyddau darfodus ac anifeiliaid.

Ysgrifennodd John Leland a ymwelodd yn yr 1530au, "Swansey is a market town and chief place of Gowerland". Mae'r farchnad dan do gynharaf yn dyddio yn ôl i 1652, a oedd wedi ei lleoli o dan gysgod y Castell ond adeiladwyd yr adeilad marchnad at y diben ym 1774 ac fe'i gelwid yn Tŷ'r Farchnad.

Image depicting Market stalls near Swansea CastleRoedd Tŷ'r Farchnad ger y Castell ar Stryd y Gwynt gyda'r strydoedd â'r enwau gwych, Stryd y Menyn a Stryd y Tatws, naill ochr i'r adeilad gydag Island House o'i flaen sy'n dyddio yn ôl i'r canol oesoedd. Roedd Tŷ'r Farchnad yn adeilad un llawr â tho isel, a gynhaliwyd gan bileri, heb waliau allanol. Roedd y strydoedd amgylchynol foch ym moch ac roedd diffyg lle yn golygu bod masnachwyr yn gorlifo dros stondinau ei gilydd. Gan nad oedd rheoliadau iechyd a diogelwch, byddai wedi bod yn brofiad aflafar ac yn bair o synhwyrau.

Erbyn yr 1870au roedd Island House wedi cael ei ddymchwel er mwyn gwneud lle ar gyfer y tramiau stryd a'r un oedd tranc Tŷ'r Farchnad. Roedd Abertawe hefyd wedi tyfu'n rhy fawr i'w farchnad yn y Castell ac erbyn y 19eg ganrif roedd angen ehangu wrth i boblogaeth y dref ffrwydro o oddeutu 13,000 ym 1830 i dros 90,000 yn yr 1890au. 

Darllenwch am y farchnad newydd a adeiladwyd ym 1830

Symud ac Ehangu

Fe adeiladwyd y farchnad gan John Thomas i gynllun Joseph Hall, ac fe'i hagorwyd gan y porthfaer Thomas Thomas ddydd Sadwrn 25 Medi 1830.

Moving and expansion
Roedd y farchnad newydd yn llawer mwy. Roedd ganddi fynedfeydd ar Stryd Rhydychen, Stryd yr Undeb a Stryd Oren. Roedd wal rwbel yn llawn simneiau yn rhedeg ar hyd ochr Stryd Rhydychen, gan amgáu'r stondinau ac amgylchynu ardal a oedd yn mesur 320 wrth 220 troedfedd (98 wrth 67 metr). Roedd tŷ marchnad yn y canol gyda thŵr cloc a adeiladwyd o gerrig hen neuadd y farchnad ger y Castell. 

Ar wahân i'r to ar oledd ar hyd y wal gyda'r simneiau, roedd y farchnad yn agored i'r elfennau.

Roedd poblogaeth Abertawe yn cynyddu o hyd ac roedd hinsawdd laith y dref yn effeithio ar y farchnad. Erbyn diwedd cyfnod Victoria, roedd angen dybryd am welliannau mawr.

Darllenwch am ail farchnad Stryd Rhydychen

Ail Farchnad Stryd Rhydychen: Hwyl y jiwbilî yn tanio'r dref

Erbyn yr 1890au roedd Abertawe wedi tyfu i fod yn dref Fictoraidd grand.

Second Oxford Street Market
Roedd blaenau siopau wedi'u haddurno, wedi'u hadeiladu â gofal a safon, yn dominyddu canolfan siopa'r dref, gyda siopau adrannol a theatrau ysblennydd. Ben Evans oedd y siop adrannol fwyaf yn yr ardal a chafodd y llysenw 'Harrods Cymru'. Roedd ysbryd jiwbilî 1887 ac 1897 wedi pwysleisio'r ffaith fod Abertawe bellach yn dref o safon.

Moderneiddio oedd yr allwedd i ehangu. Ychwanegwyd system ddraenio da a golau gan y penseiri J. Buckley Wilson a Glendenning Moxham, a enillodd gystadleuaeth bwysig ym 1888 trwy guro 20 o gwmnïau penseiri eraill i ddylunio'r ail farchnad grand. 

Ar 22 Mehefin 1897 (yr un diwrnod â Jiwbilî Ddeimwnt y Frenhines Victoria) agorwyd adeilad newydd o friciau coch Rhiwabon i'r cyhoedd gan y maer, y Cynghorydd Howell Watkins. Fe'i hadeiladwyd ar yr un safle dwy erw â'r farchnad gynt, ond fe adeiladwyd ffasâd crand o amgylch mynedfa Stryd Rhydychen gyda dau dŵr 60 troedfedd o uchder yn eich croesawu i'r profiad siopa newydd. Y tro hwn roedd y to yn gorchuddio'r farchnad gyfan, ac ar y pryd hwn oedd yr adeiledd mwyaf wedi ei wneud o wydr a gwaith haearn yn y DU. 

Ym mis Rhagfyr 1897 rhoddwyd trydan yn y farchnad ac erbyn 1900 roedd gorsaf bŵer y gorfforaeth ar y Strand yn goleuo'r holl adeilad. Roedd hanes yn cael ei greu.

Roedd ail Farchnad Stryd Rhydychen yn adeilad trawiadol a phwysig yn hanes pensaernïol Abertawe ac roedd yn gartref i 597 o stondinau erbyn diwedd yr 1920au. Fel arfer roedd nifer o stondinau yn gwerthu nwyddau ffres o benrhyn Gŵyr a oedd yn gwneud y farchnad yn atyniadol iawn i ymwelwyr a thwristiaid. Roedd yn gyfnod ffyniannus.

Darllenwch am ailadeiladu'r farchnad ar ôl yr Ail Ryfel Byd

"Diwrnod o lwyddiant a balchder"

Yn ystod 3 Noson y Blitz ym mis Chwefror 1941, fe ddinistriodd y Luftwaffe ganol Abertawe.

Accomplishment and pride
Ni chafodd y farchnad ddianc rhag y dinistr. Roedd y waliau allanol yno o hyd, ond fe ddinistriwyd y to a'r tu mewn yn llwyr, a'r strwythur haearn yn ddeilchion. Byddai'n rhaid ailadeiladu'r farchnad yn ogystal â'r rhan fwyaf o weddill y dref, ond gan ei fod yn dasg mor fawr i ailadeiladu'r dref ar ôl y Blitz, bu rhaid aros sawl blwyddyn cyn ailadeiladu'r farchnad.

Serch hynny, roedd angen parhau i ddarparu bwyd i bobl Abertawe yn y cyfnodau anodd hyn. Gweithredwyd er mwyn creu marchnad dros dro, ar loriau uchaf y garej fysiau yn Stryd Singleton. Ailosodwyd y stondinau marchnad ar Stryd Rhydychen yn Hydref 1941 lle yr arhosodd yn farchnad awyr agored trwy'r 1940au a'r 1950au. Roedd y safleoedd dros dro yn Whitewalls (safle'r siop Primark presennol) a rhwng Stryd Oren a Sgwâr Wassail (bellach yr ardal lle mae Canolfan Siopa'r Cwadrant).

Fel Ffenics modern o'r lludw, a bron 20 mlynedd ers colli'r behemoth o friciau coch, agorwyd ein marchnad bresennol ar 18 Mai 1961 am 11:30am gan y Maer, y Cynghorydd Sidney Jenkins YH, a Chadeirydd Pwyllgor yr Ystadau, yr Henadur Francis Charles Jones, a ddywedodd ei fod yn achlysur hanesyddol, "diwrnod o lwyddiant a balchder."

Wrth i'r drysau agor y bore hwnnw, cafodd y bobl a oedd yn cynrychioli pob safle cymdeithasol a wahoddwyd i'r digwyddiad eu difyrru gan fand pres. Er mwyn nodi'r achlysur, roedd masnachwyr G?yr yn bresennol mewn gwisg Gymreig lawn, a chyflwynodd yr hen fasnachwr Mrs Margaret Phillips o Lanmorlais (a oedd yn 84 oed ac yn masnachu o hyd) dusw o flodau i'r Faeres Mrs. S. C. Jenkins ar fore'r seremoni. Anerchodd yr Arglwydd Faer y dorf, ac ochr yn ochr â'r arweinwyr dinesig a'r swyddogion, cyflwynodd allwedd i Gadeirydd y Pwyllgor Ystadau a datgan bod y farchnad ar agor.

Adroddwyd geiriau'r Henadur Jones ar dudalen flaen Evening Post 18 Mai 1961: "...roedd y farchnad yn gyfraniad tuag at ailadeiladu'r dref. Roedd y Cyngor wedi cynllunio'r dref newydd: y farchnad a'r neuadd fawr lle roeddent wedi ymgynnull oedd ymdrech y Cyngor ei hun ac felly ymdrech trigolion Abertawe."

Ychwanegodd y Cynghorydd Percy Morris: "Rydym yn gobeithio y bydd yn cael ei werthfawrogi nid yn unig gan drigolion Abertawe, ond gan ein cymdogion o bell ac agos a'u bod yn cydnabod trwy'r farchnad, pa mor benderfynol oedd pobl Abertawe i ailadeiladu dinas deilwng o'r gorffennol ac un y byddwn ni'n falch ohoni yn y dyfodol."

Ar ddiwedd y seremoni dadorchuddiwyd plac coffa wrth fynedfa Stryd Rhydychen gan yr Henadur Jones. Roedd Marchnad Abertawe ar agor yn swyddogol!

Darllenwch fwy am y farchnad newydd ei hailadeiladu

Sylfeini i genhedlaeth newydd o siopwyr

Cynlluniwyd y Farchnad gan Sir Percy Thomas a'i Fab ac fe'i hadeiladwyd gan Robert M Douglas Cyf, ac mae bellach yn edrych fel strwythur o'r gofod gyda tho mawr.

Foundations
Wedi ei adeiladu o fframiau porthol bwaog dur a gwydr, mae'r to yn ymestyn dros 192 troedfedd ac mae'n llenwi'r adeilad â golau naturiol. Mae'n cynnwys gorchudd to alwminiwm ddwbl er mwyn rhwystro anwedd dŵr, ac mae'n cydbwyso'r tymheredd os yw'n rhewi neu'n grasboeth y tu allan. 

Bwriad cynllun y stondinau oedd arwain siopwyr o amgylch y farchnad, gan wneud y mwyaf o'r strwythur mawr agored er mwyn amgylchynu'r prynwyr â'r hyn y maent eu hangen. Mae gan y farchnad gofod llawr bylchog o 30,870 o droedfeddi sgwâr. Er mwyn ateb y broblem o gromlin y fframiau bwaog dur, mae'r to bwaog yn gorffwys ar strwythur concrit cryf a chyfnerth o slabiau a thrawstiau. Mae seiliau'r colofnau yn sefyll mewn sylfeini o goncrit parod sy'n cario'r llwyth i lawr i wely o raean solet tua 15 troedfedd o dan y ddaear. Roedd yr adeilad gwerth £1.25 miliwn yn cynrychioli gobaith yng nghyfnod datblygu nesaf Abertawe a hanes ei marchnad.

Mae'r farchnad yn enghraifft ardderchog o bensaernïaeth Brydeinig ar ôl y rhyfel a oedd yn debyg mewn trefi Prydeinig eraill a gafodd eu bomio'n wael yn ystod yr 1950au a'r 1960au. Mae'r llawr yn gyfuniad o gerrig granolithig a theils ceramig, wedi eu gosod mewn patrwm deniadol. Mae'r ychydig waliau wedi'u gorchuddio â theils a mosaig glas, gwyn a llwyd, ac maent yno o hyd.

Drwy gyfuno gofod a swyddogaeth, mae'r farchnad yn cysylltu'n dda ag ailddatblygiad canol tref Abertawe o'i chwmpas. Ar yr un pryd, roedd cyfres o siopau deulawr unffurf tebyg a gwesty yn cael eu hadeiladu, gan amgáu'r farchnad yn ei berimedr. Roedd blociau adeiladu canol tref Abertawe yn dechrau ymddangos. Roedd Abertawe fodern yn codi o'r Blitz. 

Cynlluniwyd rhodfeydd Ffordd y Brenin a Ffordd y Dywysoges yn ôl arddull bensaernïaeth y cyfnod ar ôl y rhyfel, ac yn ôl chwaeth bersonol, rydym naill ai'n eu caru neu'n eu casáu heddiw.

Stondinau yn masnachu ym 1961 (fel a welwyd ar ffilm y seremoni agoriadol): 

Peacock's Stores; Gordon Walters - Fruiterers. 
T. Williams; I. Jonah - Welsh Produce 
J. Glyn Williams; F E Moore; B. Mc Carthy; 
G. Allen; G.Fussell; Archie Gwyn 
Winnie Thomas; C J Morgan; W J Tucker 
John Upton; Tom Jones; L. Vaughan 
Billy Thomas - Family Butcher; Percy Watts.

Nid yw'r adeilad ei hun wedi newid llawer dros 50 mlynedd. Mae'r lampau crog yn dal yno ac maent yn goleuo'r gofod pan mae'n tywyllu tu allan. Mae'r cloc eiconig sy'n sefyll uwch ein pennau yn gweithio, ac mae'n ein helpu i ddal ein bysiau gartref.

Mwy o wybodaeth:

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu