Toglo gwelededd dewislen symudol

Hawlfraint yn ffilmiau a recordiadau sain archif

Fydd yn bosibl cael copïau o recordiad neu ffilm sy gan y Gwasanaeth Archifau?

Mae'r ffilmiau a'r recordiadau hyn ar gael i'w gweld a gwrando arnynt yn y Gwasanaeth Archifau. Maent i gyd yn destun hawlfraint, ac nid oes hawl awtomatig i gael copi heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint. Mae llawer o'r ffilmiau a'r hawlfraint iddynt yn eiddo i'r cyngor, ond gyda'r hanesion llafar, mae hawliau perchnogaeth yn perthyn i bobl eraill.

Ffilmiau

Cynhyrchwyd y rhan fwyaf o'r ffilmiau, gan gynnwys y rhai sy'n dangos digwyddiadau a seremonïau dinesig gan Gyngor Dinas Abertawe fel cofnod o'r digwyddiad. Y cyngor sy'n berchen ar hawlfraint y ffilmiau hyn. Ceir rhai ffilmiau hefyd a gynhyrchwyd yn fasnachol: yma nid yw hawlfraint yn eiddo i'r cyngor, ond y cwmni a gynhyrchodd y ffilm neu eu holynwyr. Gwnaed eraill gan unigolion preifat, ac mae'r hawlfraint yn perthyn iddynt, neu eu hetifeddion os ydynt wedi marw.

Hanes llafar

Mae hawlfraint recordiadau hanes llafar yn cynnwys dwy elfen: ar un llaw, mae'r sefydliad neu'r person a wnaeth y recordiad yn berchen ar hawlfraint y recordiad ei hun. Yn ogystal, mae'r person sy'n cael ei gyfweld yn berchen ar hawlfraint ei eiriau ei hun. Mae hyn yn gwneud y sefyllfa'n fwy cymhleth: ceir rhai recordiadau sydd wedi'u dogfennu'n gywir a lluniwyd cytundebau ar y pryd sy'n amlinellu hawliau, diben a defnydd a ganiateir o'r recordiad. Gyda gweddill y recordiadau, ni cheir cytundeb ysgrifenedig ac yn yr achosion hyn, ni allwn wneud copi yn gyfreithlon.

Os hoffech gael copi

Bydd ein staff yn gwneud eu gorau glas i egluro'r sefyllfa i chi. Os hoffech gael copi o ffilm neu recordiad hanes llafar, ysgrifennwch at:

Archifydd y Sir 
Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg 
Canolfan Ddinesig
Heol Ystumllwynarth 
Abertawe SA1 3SN

Neu ebostiwch archifau@abertawe.gov.uk

Byddai'n ddefnyddiol i ni pe gallech esbonio pam yr hoffech chi gael copi. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ymchwilio i'r sefyllfa o ran hawlfraint. Fodd bynnag, ni allwn wneud copi os byddai hynny'n torri hawlfraint.

Close Dewis iaith