Casgliadau archifau
Archwiliwch ein casgliadau a pharatowch ar gyfer eich ymweliad.
Croeso i gatalog arlein y Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg. Mae'n cynnwys tua 250,000 o gofnodion yn disgrifio eitemau yn ein casgliadau, ac mae'n cynnwys dogfennau archifol, recordiadau yn ein archif sgrîn a sain, a llyfrau ac erthyglon yn llyfrgell ein hystafell chwilio.
Mae ein holl gatalogau hefyd ar gael ar yr Archives Hub. Mae hwn yn gatalog cydweithredol sy'n cynnwys nifer o wasanaethau archifau'r DU.
Cyn i chi ddechrau, dyma rhai cysylltiadau i helpu chi i ddarganfod sut mae'r catalog yn gweithio a sut i gael y gorau ohono.
Ffynhonellau eraill ar ein gwefan
- Hoffech chi ffindio fferm neu bentre ar hen fap? Profwch ein Mynegai o enwau lleoedd.
- Ydych chi'n tybed pa cofrestri plwyf sydd ar gael? Cwestiynau cyffredin
- Ydy'ch cyndad wedi marw yn y Rhyfel Byd Cyntaf? Rydyn ni wedi gwneud mynegai chwiliadwy i'r cofebion rhyfel sy gyda ni.
Ffynhonellau Allanol
- Ai morwr Abertawe oedd eich cyndad? Profwch gwefan 'Swansea Mariners'. Fe allwch chi chwilio am longau a gofrestrwyd yn Abertawe a'r pobl oedd yn hwylio ynddyn nhw. Mae'r dogfennau gwreiddiol gyda ni.
- Fe allwch chi ddarganfod pob math o bethau yn hen bapurau newydd. Profwch Bapurau Newydd Cymru arlein am yr holl papurau newydd Cymreig hyd at 1919.
Wedi darganfod beth roeddech yn chwilio amdano? Dyma ble allwch chi ei weld:
- Archifau, llyfrau ac erthyglon yn Archifau Gorllewin Morgannwg
- Casgliadau Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd a cedwir yng Nghastell-nedd
- Recordiadau a ffilmiau yn yr Archif Sgrîn a Sain
Eisiau gwybod mwy?
