Toglo gwelededd dewislen symudol

Mewnfudo Torfol

Roedd degawdau'r 1880au i'r 1920au yn drobwynt yn hanes Iddewon Ewrop. Yn ystod y blynyddoedd hyn, amcangyfrifir i 2 filiwn o Iddewon adael Ymerodraeth Rwsia. O'r rhain, ymsefydlodd tua 150,000 i 200,000 yn y Deyrnas Unedig.

Mass Immigration
Er nad oedd Abertawe ar brif lwybrau mudo'r Iddewon (a oedd yn rhedeg o borthladdoedd arfordir dwyreiniol Lloegr megis Grimsby, Hull a Llundain i Lerpwl ac yna ymlaen i America), dechreuai nifer cynyddol o Iddewon gyrraedd de Cymru erbyn canol y 1880au. Twf diwydiant trwm oedd yn denu'r Iddewon i Abertawe. Roedd trefoli a thwf cyflym y boblogaeth yn creu galw am nwyddau a gwasanaethau, ac roedd bwlch yn yr economi leol a roddai gyfle i grefftwyr a masnachwyr Iddewig. 

Roedd cyrhaeddiad y 'Rwsiaid' yn newid cymeriad Iddewon Abertawe. Bu cynnydd aruthrol ym mhoblogaeth Iddewon y ddinas o sawl cant i ryw fil o fewn ychydig flynyddoedd. Roedd y newydd-ddyfodiaid yn wahanol yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol i'r gymuned Iddewig sefydledig. Bu llawer o'r newydd-ddyfodiaid yn byw mewn strydoedd i'r gogledd o orsaf y Stryd Fawr megis Heol Tywysog Cymru a Theras Burlais. 

Mewn gwrthgyferbyniad, roedd y teuluoedd sefydledig h?n yn byw yn rhannau mwy gweddus y ddinas megis Heol Walter a Stryd Mansel. A hwythau'n ddosbarth canol ac wedi cymathu i'r gymdeithas, roedd y teuluoedd Iddewig sefydledig yn cyfeirio atynt eu hunain fel 'English men and women of the Hebrew persuasion'. Roedd y newydd-ddyfodiaid yn eu gweld eu hunain yn wahanol. Roeddent wedi'u gwreiddio yn yr Yiddishkeit, traddodiadau crefyddol a diwylliant y Rhanbarth Iddewig yn Rwsia. 

O ystyried y gwrthgyferbyniadau rhwng byd-olwg y teuluoedd sefydledig a'r newydd-ddyfodiaid, roedd yn anochel y byddai peth anghydweld yn y gymuned. Daeth y tensiynau hyn i'r wyneb yn y 1890au pan ymwahanodd gr?p o fewnfudwyr a rhai aelodau lleol wedi'u dadrithio o Gynulliad Hebreaidd Abertawe. Ym 1906 gwnaethant sefydlu eu synagog eu hunain, y Beth Hamedrash ar Heol Tywysog Cymru. Ni chafodd y rhwyg rhwng y ddwy gynulleidfa ei gyfannu tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Yn y cyfamser, bu cyfres o gwerylon chwerw ynghylch hawliau claddu, cig cosher, dosbarthiadau addysg grefyddol a ffioedd aelodaeth. 

Darllenwch fwy am gymuned Iddewig Abertawe

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Ebrill 2023