Synagog Ffynone
Daeth hanes synagog Goat Stryd i ben yn sydyn fis Chwefror 1941 pan ddinistriwyd yr adeilad gan fomiau Almaenig. Fodd bynnag, nid diwedd Cynulleidfa Hebreaidd Abertawe oedd hwn.
Ym 1944 prynodd y gynulleidfa adeilad o'r enw Ashleigh yn Ffynone. Y bwriad oedd dechrau gwaith i adeiladu synagog newydd yn syth ar ôl i heddwch gael ei adfer. Yn anffodus, oherwydd anawsterau wrth dderbyn y trwyddedau angenrheidiol, ni ddechreuodd y gwaith adeiladu tan 1952. Ar 30 Hydref 1952, daeth y Prif Rabi, Israel Brodie, ar ymweliad â'r dref i osod y garreg sylfaen.
Agorwyd y synagog newydd yn swyddogol ym 1955. Roedd gan y synagog le i 84 o bobl eistedd, gyda neuadd ddigon mawr i roi seddi i 260 o bobl ychwanegol. Roedd y ddwy adran wedi'u rhannu gan bared plyg y gellid ei dynnu'n ôl i ddarparu lle ar gyfer bron 400 o addolwyr yn ystod uchelwyliau. Roedd ganddi hefyd gyntedd fynedfa helaeth, ystafell gotiau, dwy ystafell ysgol a chegin.Câi'r synagog a'r neuadd eu goleuo gan bum ffenest fawr a oedd yn wynebu'r de. Roedd yr adeilad newydd hefyd yn elwa ar system wresogi ganolog nwy. Adeiladu synagog Ffynone oedd uchafbwynt y bywyd Iddewig yn Abertawe.