Toglo gwelededd dewislen symudol

Synagog Ffynone

Daeth hanes synagog Goat Stryd i ben yn sydyn fis Chwefror 1941 pan ddinistriwyd yr adeilad gan fomiau Almaenig. Fodd bynnag, nid diwedd Cynulleidfa Hebreaidd Abertawe oedd hwn.

The Ffynone Synagogue
Yn ffodus, cawsai rhai Sgroliau'r Gyfraith eu symud i gartrefi rhai o'r gynulleidfa cyn y 'Blitz Tair Noson'. Er colli eu synagog, roedd y gynulleidfa'n benderfynol y byddai bywyd Iddewig yn Abertawe'n parhau fel arfer. Yn y blynyddoedd canlynol, roedd y gynulleidfa'n defnyddio safleoedd dros dro i ddathlu uchelwyliau.

Ym 1944 prynodd y gynulleidfa adeilad o'r enw Ashleigh yn Ffynone. Y bwriad oedd dechrau gwaith i adeiladu synagog newydd yn syth ar ôl i heddwch gael ei adfer. Yn anffodus, oherwydd anawsterau wrth dderbyn y trwyddedau angenrheidiol, ni ddechreuodd y gwaith adeiladu tan 1952. Ar 30 Hydref 1952, daeth y Prif Rabi, Israel Brodie, ar ymweliad â'r dref i osod y garreg sylfaen. 

Agorwyd y synagog newydd yn swyddogol ym 1955. Roedd gan y synagog le i 84 o bobl eistedd, gyda neuadd ddigon mawr i roi seddi i 260 o bobl ychwanegol. Roedd y ddwy adran wedi'u rhannu gan bared plyg y gellid ei dynnu'n ôl i ddarparu lle ar gyfer bron 400 o addolwyr yn ystod uchelwyliau. Roedd ganddi hefyd gyntedd fynedfa helaeth, ystafell gotiau, dwy ystafell ysgol a chegin.Câi'r synagog a'r neuadd eu goleuo gan bum ffenest fawr a oedd yn wynebu'r de. Roedd yr adeilad newydd hefyd yn elwa ar system wresogi ganolog nwy. Adeiladu synagog Ffynone oedd uchafbwynt y bywyd Iddewig yn Abertawe. 

Darllenwch sut datblygodd y gymuned yn nhreigl amser.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Mai 2023