Toglo gwelededd dewislen symudol

Trigolion y tai ym 1901

Astudiaeth achos: Cwrt Rosser yng nghyfrifiad 1901

Occupants in 1901
Rhai ffeithiau a ffigurau:

  • Roedd chwe thy yng Nghwrt Rosser, ond mewn pump ohonynt yn unig roedd pobl yn byw ym 1901.
  • Roedd gan bob ty ddwy ystafell, sef cyfanswm o ddeg ystafell i gyd.
  • Roedd 15 o bobl yn byw yno.
  • Nid oedd yr un ohonynt yn byw yno ddeng mlynedd yn gynt.
  • Roedd yr hynaf yn 72 oed ac yn parhau i weithio fel labrwr yn y dociau. Roedd ef a'i wraig wedi dod o Dorset i chwilio am waith.
  • Roedd 5 yn blant, gan gynnwys 2 faban yn iau na blwydd oed.
  • Roedd dau doiled rhyngddynt.

Mae'r darlun yma yn dangos Cwrt Rosser ar ddechrau'r 20fed ganrif. Agorai'r tai ar ale nad oedd yn fwy na thair troedfedd o led. Cuddiai wal uchel y rhan fwyaf o'r goleuni naturiol o'r tai oedd nesaf at y stryd.

Dyma restr o breswylwyr Cwrt Rosser o gyfrifiad 1901:

1 Cwrt Rosser
Edwin Powlesland, 37, labrwr cyffredinol
Emma Powlesland, 33
David Powlesland, 10

2 Cwrt Rosser
Fred G Spring, 44, cyfieithydd Ffrangeg
Marianne Spring, 47
May A Spring, 10

3 Cwrt Rosser
Yn wag

4 Cwrt Rosser
Joseph Wellman, 72, labrwr yn y dociau
Jane Wellman, 71

5 Cwrt Rosser
Samuel O Thomas, 23, labrwr coetsis
Mary A Thomas, 22
William D Thomas, 3
Anne Thomas, 8 mis

6 Cwrt Rosser
George Ridler, 21, gyrrwr ceffyl gwedd
Catherine Ridler, 21
George H Ridler, 11 mis

Prydain yn breuddwydio am Iwtopia: darllen mwy am Fudiad y Gardd-ddinasoed

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Ebrill 2023