Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Iwtopia: Mudiad y Gardd-ddinasoedd

Sut mae gweledigaeth un dyn wedi effeithio ar ein ffordd o fyw heddiw

Utopia
Er bod rhai damcaniaethwyr cymdeithasol oes Victoria'n credu mai'r bobl oedd ar fai am eu tlodi, roedd barn eraill yn fwy goleuedig. Dywedent mai'r hyn oedd wrth wraidd y tlodi oedd iechydaeth wael a thai annigonol. O ddatrys hynny, byddai bywydau pobl yn cael eu trawsnewid.

Datblygodd cysyniad cynllunio cwbl newydd o Fudiad y Celfyddydau a Chrefftau. Roedd hwn yn fwy na thuedd artistig: yn ei hanfod oedd y syniad y gellid gwella bywydau pobl drwy ddylunio da. Gellid ei gymhwyso ar sawl lefel, o adeiladu tai i gelfi, o ffabrigau i offer cartref. Roedd yn ymateb cwbl ymwybodol i fasgynhyrchu unffurf.

Dyma fudiad y Gardd-ddinasoedd. Dechreuodd ym 1898 pan gyhoeddodd Syr Ebenezer Howard ei lyfr iwtopiaidd Tomorrow: a Peaceful Path to Real Reform, a ailgyhoeddwyd ym 1902 fel Garden Cities of Tomorrow. Awgrymai ei lyfr feddwl newydd ym maes cynllunio gwlad a thref gan gyffwrdd ag ymwybod ei ddarllenwyr. Yn ei ddinas ddelfrydol nid oedd slymiau, strydoedd culion na therasau digymeriad. Roedd gan ei ddatblygiadau fannau gwyrdd ac amrywiaeth, a chynlluniwyd y datblygiadau gan ystyried lles eu preswylwyr yn hytrach na iwtilitariaeth ac elw ariannol.

Troes y ddamcaniaeth yn arfer ar ddechrau'r 20fed ganrif. Adeiladwyd trefi newydd cynlluniedig megis Letchworth a Welwyn Garden City. Ar raddfa lai, adeiladwyd gardd-faestrefi, megis yr un yn Hampstead yn Llundain. Cynlluniwyd yr olaf gan Syr Raymond Unwin, a ddaeth yn flaenllaw yn natblygiad Abertawe.

Mwy o wybodaeth am ymateb radical Abertawe i'r argyfwng tai

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Ionawr 2023