Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Meirwon sifil y rhyfel Castell-nedd a Phort Talbot

Er mai Abertawe a ddioddefodd fwyaf, cafwyd anafedigion sifil yng Nghastell-nedd a Phort Talbot hefyd.

NPT
Roedd dau gyrch yng Nghastell-nedd ym mis Awst 1940. Achosodd y ddau lawer o ddifrod a chafwyd anafedigion hefyd. Nos Lun 12 Awst a nos Fawrth 13 Awst, rhwng 23:00 ac 01:00, lladdwyd tri pherson yn Hen Ffordd, gan gynnwys Warden Cyrch Awyr a bu'n rhaid i bump fynd i'r ysbyty. Ddydd Mawrth, 20 Awst am 10:00, bu ymosodiad plymfomio ar yr ardal, gan gynnwys Stryd Pendrill, Stryd Henry a Stryd Alice, a bu ffrwydrad anferthol. Lladdwyd pum person ac anafwyd bron 100. Lladdwyd pobl hefyd mewn digwyddiadau eraill yn Llangatwg ac yn y burfa olew ger Sgiwen.

Yn y cyfamser, yn ystod oriau mân y bore 11 Mai 1941 ym Mhont-rhyd-y-fen, tua phedair milltir i'r de-ddwyrain o Gastell-nedd, gollyngodd bomiwr ddau o'i fomiau a oedd yn weddill yn dilyn cyrch. Er nad achosodd yr un cyntaf unrhyw ddifrod, glaniodd y llall ar dŷ yn Nheras Morgans, gan ladd pedwar person, gan gynnwys tad-cu, tad, mam a chwaer yr actor Ivor Emmanuel. Goroesodd Ivor a'i frawd yr ymosodiad.

Mae gan y Gwasanaeth Archifau gopi o fap Luftwaffe o Bort Talbot, wedi'i anodi gyda thargedau posib. Er y gollyngwyd bomiau ar safleoedd diwydiannol ym 1940, ni fu cyrch arall ar y raddfa a welwyd yn Abertawe.Ar 13 Chwefror 1941, bomiwyd dau eiddo ar Corporation Road, Port Talbot, a lladdwyd 6 pherson yn un o'r tai. Cofnodwyd y marwolaethau hynny mewn cofrestr o feirwon sifil y rhyfel, yn debyg i'r un a gofnododd y marwolaethau yn Abertawe, a gellir gweld copi ohono yma a gellir gweld copi ohono yma. Ar ddiwedd y rhyfel digwyddodd digwyddiad arall nad yw wedi'i gofnodi yn y gofrestr: ar 5 Gorffennaf 1945 lladdwyd tri bachgen ar y maes saethu yn Rhos Baglan wrth chwarae gyda bomiau heb ffrwydro; Casgliad y Werin Cymru.

Bwrdeistref Castell-nedd

Harold Llewellyn COCKWELL o 197 Hen Ffordd, Llansawel, yn 37 oed.
Bu farw yn Hen Ffordd, 13/08/1940.
Warden Cyrch Awyr. Gŵr Ivy M. Cockwell.

Mary Beatrice CURTIS o 248 Hen Ffordd, Llansawel, yn 68 oed.
Bu farw yn 248 Hen Ffordd, 13/08/1940.
Gwraig Samuel John Curtis.

Samuel Herbert CURTIS o 248 Hen Ffordd, Llansawel, yn 34 oed.
Bu farw yn 248 Hen Ffordd, 13/08/1940.
Mab Samuel J. a Mary B. Curtis, gŵr Winnie Curtis.

Ebenezer EVANS o 314 Ffordd Llangyfelach, Pentre Estyll, Abertawe, yn 46 oed.
Bu farw yn Ysbyty Sirol Gorllewin Morgannwg, 03/07/1945. Wedi'i anafu Chwefror 1942.
Gwyliwr Tân. Mab y diweddar Ebenezer Evans, gŵr M. Evans.

Alwyn JONES o 9 Ffordd Westbourne, Castell-nedd, yn 38 oed.
Bu farw yn iard Rheilffordd Great Western, 20/08/1940.

Phillip George MOTH o 257 New Road, Sgiwen, yn 32 oed.
Bu farw yn Ysbyty Sirol Gorllewin Morgannwg, 12/05/1941. Wedi'i anafu yn Burrows Road, 12/05/1941.
Mab George Moth o 1 Ffordd Newydd, gŵr y diweddar Margaret Helene Moth.

Alfred NEWMAN o 1 Grandison Street, Llansawel, yn 27 oed.
Bu farw yn iard Rheilffordd Great Western, 20/08/1940.
Mab Charles a Margaret Newman o 8 Stryd Christopher, Llanelli, gŵr Sarah Newman.
Claddwyd yn Eglwys Sant Thomas, Castell-nedd, 24/08/1940.

John Clifford PENHALE o 10 Stryd Gerald, Aberafan, yn 31 oed.
Bu farw yn iard Rheilffordd Great Western, 20/08/1940.

Annie REES o 68 Stryd Pendrill, Castell-nedd, yn 55 oed.
Bu farw yn 68 Stryd Pendrill, 20/08/1940.
Gwraig Rees Thomas Rees.

Rees Thomas REES o 68 Stryd Pendrill, Castell-nedd, yn 58 oed.
Bu farw yn 68 Stryd Pendrill, 20/08/1940.
Gŵr Annie Rees.
 

Dosbarth Gwledig Castell-nedd

Evan Thomas BEVAN o Cartrefle, Clyne, Resolfen, yn 46 oed.
Bu farw yn Ysgolion Llangatwg, 24/07/1943.
Mab Mr a Mrs John Bevan o Fferm Ty'n-ton, Pontrhydyfen, gŵr Alice May Bevan.

Frederick David BOWEN o 6 Springfield, Sgiwen, yn 42 oed.
Bu farw yn National Oil Refineries, Sgiwen, 10/07/1940.
Gŵr Ann Bowen.
Claddwyd yn Eglwys Sant Ioan, Sgiwen, 15/07/1940.

Ivy Margaretta EMMANUEL o 18 Teras Morgans, Pontrhydyfen, yn 33 oed.
Bu farw yn 18 Teras Morgans, 11/05/1941.
Merch John Lewis; gwraig Stephen John Emmanuel.

Mair EMMANUEL o 18 Teras Morgans, Pontrhydyfen, yn 2 oed.
Bu farw yn Ysbyty Sirol Gorllewin Morgannwg, 12/05/1941. Wedi'i hanafu yn 18 Teras Morgans, 11/05/1941.
Merch Stephen John Emmanuel ac Ivy Margaretta Emmanuel.

Stephen John EMMANUEL o 18 Teras Morgans, Pontrhydyfen, yn 36 oed.
Bu farw yn 18 Teras Morgans, 11/05/1941.
Mab Rhys Emmanuel o 20 Ffordd Brombill; gŵr Ivy M. Emmanuel.

John LEWIS o 18 Teras Morgans, Pontrhydyfen, yn 60.
Bu farw yn Ysbyty Sirol Gorllewin Morgannwg, 12/05/1941. Wedi'i anafu yn 18 Teras Morgans, 11/05/1941.
Mab William Lewis o 12 Stryd y Frenhines, Castell-nedd, gŵr Mary Lewis.
 

Bwrdeistref Port Talbot

Cymerir y saith cofnod canlynol o gofrestr y sifiliaid a fu farw yn y rhyfel.

Albin ANDERSEN o Norwy yn 68 oed.
Darganfyddwyd ar draeth Taibach, 08/08/1940 a dodwyd i farwdy Dociau Port Talbot.
Claddwyd yn Mynwent Goetre, Port Talbot, 10/08/1940.

Gladys MORGAN o 13 Corporation Road, Port Talbot yn 36 oed.
Darganfyddwyd yn 13 Corporation Road, Port Talbot, 13/02/1941 a dodwyd i farwdy Port Talbot and District General Hospital.
Claddwyd yn Mynwent Goetre, Port Talbot, 16/02/1941.

Ernest MORGAN o 13 Corporation Road, Port Talbot yn 34 oed.
Darganfyddwyd yn 13 Corporation Road, Port Talbot, 13/02/1941 a dodwyd i farwdy Port Talbot and District General Hospital.
Claddwyd yn Mynwent Goetre, Port Talbot, 16/02/1941.

Florence MORGAN o 13 Corporation Road, Port Talbot yn 28 oed.
Darganfyddwyd yn 13 Corporation Road, Port Talbot, 13/02/1941 a dodwyd i farwdy Port Talbot and District General Hospital.
Claddwyd yn Mynwent Goetre, Port Talbot, 16/02/1941.

Minnie MORGAN o 13 Corporation Road, Port Talbot yn 23 oed.
Darganfyddwyd yn 13 Corporation Road, Port Talbot, 13/02/1941 a dodwyd i farwdy Port Talbot and District General Hospital.
Claddwyd yn Mynwent Goetre, Port Talbot, 16/02/1941.

Constance MORGAN o 13 Corporation Road, Port Talbot yn 19 oed.
Darganfyddwyd yn 13 Corporation Road, Port Talbot, 13/02/1941 a dodwyd i farwdy Port Talbot and District General Hospital.
Claddwyd yn Mynwent Goetre, Port Talbot, 16/02/1941.

Linda ELLISON o 13 Corporation Road, Port Talbot yn 7 oed.
Darganfyddwyd yn 13 Corporation Road, Port Talbot, 13/02/1941 a dodwyd i farwdy Port Talbot and District General Hospital.
Claddwyd yn Mynwent Goetre, Port Talbot, 16/02/1941.

Ni chynhwysir y tri yma yn y cofrestr. Daeth y manylion o adroddiad ym mhapur newydd.

Wyndham Evan James o Ffordd Christopher, Sgiwen, yn 10 oed
Bu farw ar Rhos Baglan, 05/07/1945.
Mab Sidney James.

Richard Thomas RUMBLE o 43 Ffordd Addison, Aberafan, yn 13 oed.
Bu farw ar Rhos Baglan, 05/07/1945.
Mab Reginald Rumble.

Walter Samuel WHITE o 41 Ffordd Addison, Aberafan, yn 9 oed.
Bu farw ar Rhos Baglan, 05/07/1945.
Mab Thomas Samuel White.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Ionawr 2023