Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal gadwraeth Treforys - Adolygiad wedi'i gwblhau

Mae ardal gadwraeth Treforys wedi'i hadolygu a mabwysiadwyd y ffin estynedig/arfarniad cymeriad/cynllun rheoli fel canllawiau cynllunio atodol (CCA) ym mis Tachwedd 2017.

Yn 2013, penodwyd ymgynghorwyr (Trilein) gennym i ymgymryd ag adolygiad o Ardal Gadwraeth Treforys er mwyn ailasesu'r bensaernïaeth arbennig a'r gwerth hanesyddol. Roedd hyn yn cynnwys adolygu'r ffiniau.

Cynhaliwyd ymgynghoriad â'r cyhoedd a rhanddeiliaid ym mis Awst/mis Hydref 2017, ac roedd hyn wedi bwydo i'r ddogfen derfynol.

Yn ei gyfarfod ar 7 Tachwedd 2017, ystyriodd pwyllgor cynllunio Dinas a Sir Abertawe'r adolygiad o'r ardal gadwraeth, gan gynnwys y newidiadau i'r ffin, ochr yn ochr ag adborth o'r ymgynghoriad â'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Penderfynwyd newid yr Ardal Gadwraeth fel a gynigwyd. 

Mae'r wybodaeth newydd yn cynnwys:

  • ffin ddiwygiedig
  • arfarniad o gymeriad diweddaredig; a
  • chynllun rheoli

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Medi 2021