Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Arfordir De Gŵyr, Rhosili i Oxwich

Mae'r darn hwn o arfordir yn doreithiog o fywyd gwyllt a hanes ac yn dirwedd amrywiol a thrawiadol o olygfeydd clogwyni, coetiroedd a thwyni tywod.

Ar ddiwrnodau clir gellir gweld Ynys Lundy a throsodd i arfordir gogledd Dyfnaint. Mae'n debyg mai'r nodwedd fwyaf adnabyddus ar hyd y rhan hon o'r arfordir yw ynys lanw Pen Pyrod yn Rhosili.

Mae'r rhan hon o'r arfordir calchfaen o Rosili i Borth Einon yn anghysbell, yn arw ac yn wyllt, ac yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Gŵyr (Yn agor ffenestr newydd) yn bennaf. Fe'i rheolir gyda help Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (Yn agor ffenestr newydd), sy'n rheoli chwe gwarchodfa yma gan gynnwys Deborah's Hole, Long Hole Cliff, Trwyn Porth Einon, Sedger's Bank, Overton Cliff a Roydon's Corner ac Overton Mere. Darganfuwyd esgyrn cyn hanes Menyw Goch Pafiland yn un o'r ogofâu ar ochr y clogwyni ynghyd ag esgyrn mamoth ar hyd y darn hwn o'r arfordir. Mae'r clogwyni sy'n wynebu'r de yn gynefin i fflora a ffawna prin. Gellir gweld adar megis y frân goesgoch a'r gigfran yma'n aml.

Mae'r darn rhwng Porth Einon ac Oxwich yn fosaig o gynefinoedd arfordirol gan gynnwys cynefinoedd blaenoriaeth y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth: rhostir iseldir, twyni tywod, glaswelltir sych asidig iseldir, glaswelltir calchaidd iseldir a chlogwyn a llethr arfordirol. Mae bioamrywiaeth da o fflora a ffawna ar y safle ac mae o bwysigrwydd ar gyfer sawl rhywogaeth o bryder cadwraeth gan gynnwys yr hebog tramor.

Mae Coed Oxwich ger yr ardal hon, sef coetir hynafol yn bennaf ac unwaith eto o bwysigrwydd cadwraeth natur sylweddol.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich- ardal gyfoethog o dwyni tywod a chorstir a reolir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC).

Uchafbwyntiau

Mae'r telor Dartford prin yn cael ei weld yn fwy mynych ar hyd y rhan hon o'r arfordir.

Dynodiadau

  • Mae Clogwyni Slade, Clogwyni Horton, Sedgers Bank a Thrwyn Porth Einon yn ardaloedd o dir comin cofrestredig.
  • Mae sawl Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SBCN) gan gynnwys Twyni Penmaen a Phennard, Coed Oxwich a Phorth Einon i Horton.
  • Arfordir Treftadaeth
  • Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG)
  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • Ardal Cadwraeth Arbennig Gŵyr (ACA)
  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr (AoHNE)

Cyfleusterau

  • Tafarn/gwesty/bwyty yn Rhosili, Porth Einon, Oxwich
  • Siop a Chanolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Rhosili
  • Toiledau cyhoeddus yn Rhosili, Porth Einon a thraeth Oxwich
  • Cytiau byrbrydau tymhorol ar draeth Oxwich
  • Maes parcio (â thâl) yn Rhosili, Oxwich a Porth Einon
  • Siopau sglods a physgod ym Mhorth Einon

Gwybodaeth am fynediad

Cyfeirnod Grid SS495835
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau troed

Mae llwybrau troed â chyfeirbwyntiau ar hyd y rhan hon o'r arfordir. Mae derbyniad ffonau symudol yn wan yn yr ardal ac mae rhannau o'r llwybr yn anghysbell, felly cofiwch fynd ag offer priodol.

Taflenni teithiau cerdded hunandywys - wedi'u cynhyrchu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o'r enw 'Port Eynon to Rhossili' a 'Worms Head, Fall Bay and Mewslade' ar gael o Siop a Chanolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a siopau lleol.

Ceir

Parcio ceir yn Rhosili, Porth Einon ac Oxwich. Dilynwch y brif ffordd i Dde Gŵyr o Abertawe (A4118) i Oxwich (yr agosaf at Abertawe) a Phorth Einon. Trowch oddi ar yr A4118 i Rosili cyn Porth Einon ar hyd y B4247.

Bysus

Mae bysus (Gower Explorer) yn mynd yn rheolaidd ar hyd De Gŵyr.

Llwybrau ceffyl

Prin yw'r llwybrau ceffyl ar hyd yr arfordir. Mae darn bach yn Overton, ger Porth Einon.