Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cymorth ariannol ar gyfer busnesau

Gall mynediad at gyllid fod yn agwedd bwysig ar ddechrau a datblygu'ch busnes. Rydym yn gweithio'n agos ochr yn ochr ag amrywiaeth o bartneriaid i ddarparu mynediad at gymorth ariannol.

Gall argaeledd cyllid newid yn rheolaidd felly cadwch lygad ar y dudalen hon i gael diweddariadau rheolaidd.

Grantiau a benthyciadau gan Gyngor Abertawe

Cynlluniau Grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Levelling up and funded by UK Gov logos - WEL.

Grant Busnes Cyn Dechrau

Dyma grant gyda'r nod o gefnogi busnesau newydd. Mae'r grant ar gael i'r rheini sy'n bwriadu dechrau busnes yn unig a gall ariannu costau gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i offer, hyfforddiant, achredu a marchnata.

Yr uchafswm grant sydd ar gael yw £10,000. Mae'r gronfa'n cynnig hyd at 95% o gostau'r prosiect ar gyfer y £1,000 cyntaf o wariant a 50% ar gyfer gwariant rhwng £1,000 a £10,000. Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu cynllun busnes a rhagolwg llif arian 12 mis.

Am ragor o fanylion ac i ofyn am ffurflen gais, e-bostiwch grantsefydlu@abertawe.gov.uk.

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Grant Datblygu Gwefannau

Dyma grant gyda'r nod o fabwysiadu technoleg newydd drwy ddatblygiad ar-lein/gwefannau. Gall y grant ariannu costau sy'n ymwneud â chreu gwefan fusnes am y tro cyntaf neu wella gwefan sy'n bodoli eisoes.

Yr uchafswm grant sydd ar gael yw £1,500. Bydd y grant yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu 50% o gostau arian cyfatebol. Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu cynllun busnes/crynodeb a rhagolwg llif arian 12 mis.

Am ragor o fanylion ac i ofyn am ffurflen gais, e-bostiwch growthgrant@abertawe.gov.uk.

Ariennir y grant hwn gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. 

Grant Twf Busnesau

Dyma grant gyda'r nod o gefnogi twf busnes drwy gyflwyno cynnyrch neu wasanaeth newydd. Gall y grant ariannu costau gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i offer, systemau TG a pheiriannau.

Uchafswm y grant sydd ar gael yw £50,000 yn seiliedig ar derfyn uchaf o £5,000 fesul swydd a gaiff ei chreu a/neu ei diogelu. Rhaid i'r swyddi sy'n cael eu creu a/neu eu diogelu, y cynnyrch neu'r gwasanaeth newydd a'r gwariant arfaethedig i gyd gysylltu'n uniongyrchol â'i gilydd. Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu cynllun busnes/crynodeb a rhagolwg llif arian 12 mis.

Am ragor o fanylion ac i ofyn am ffurflen gais, e-bostiwch growthgrant@abertawe.gov.uk.

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Grant Arloesi Busnes

Dyma grant gyda'r nod o gefnogi twf busnes drwy Arloesi. Ar gyfer busnesau sydd am ddatblygu cynhyrchion, arloesedd neu brosesau newydd i gefnogi arloesedd a thwf o fewn y busnes.

Bydd prosiectau'n annog lefel uwch o arloesedd busnes, yn cefnogi busnesau i ddatblygu datrysiadau cynnyrch a phroses arloesol i wella eu twf a'u natur gystadleuol.

Am ragor o fanylion ac i ofyn am ffurflen gais, e-bostiwch growthgrant@abertawe.gov.uk.

Ariennir y grant hwn gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Grant Lleihau Carbon

Dyma grant gyda'r nod o alluogi busnesau i weithio tuag at ddod yn garbon sero net. Gall y grant ariannu costau gan gynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy, mesurau arbed ynni a newidiadau i brosesau gweithgynhyrchu sy'n arwain at leihau allyriadau carbon; rhaid i ymgeiswyr allu cyfrifo'u harbedion carbon rhagweledig.

Yr uchafswm grant sydd ar gael yw £10,000. Bydd y grant yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu 50% o gostau arian cyfatebol.Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu cynllun busnes/crynodeb a rhagolwg llif arian 12 mis. 

Am ragor o fanylion ac i ofyn am ffurflen gais, e-bostiwch growthgrant@abertawe.gov.uk.

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Hyfforddiant Tuag at Garbon sero-net

Wrth i'r byd ganolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, mae gan fusnesau rôl bwysig i'w chwarae wrth gyrraedd nodau hinsawdd byd-eang. Mae ein cwrs hyfforddi'n ceisio rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i fusnesau bach a chanolig er mwyn iddynt gyflawni niwtralrwydd carbon, meithrin y gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a phrisiau ynni cynyddol, a chyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.  

Yn ystod y cwrs hyfforddi, bydd cyfranogwyr yn dysgu am hanfodion lleihau carbon a'r llwybr i allyriadau sero net. Byddwn yn cynnwys pynciau fel effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy, cludiant cynaliadwy, lleihau gwastraff a mwy. Yn ogystal, byddwn hefyd yn darparu gweithgareddau ymarferol ac astudiaethau achos i helpu cyfranogwyr i ddeall sut i ddefnyddio'r cysyniadau hyn yn eu busnesau eu hunain.

Mae'r cwrs hwn yn orfodol ar gyfer unrhyw fusnes sydd am gael mynediad at y Grant Lleihau Carbon. 

Cadw lle ar gyfer hyfforddiant yn y dyfodol ar-lein - Tuag at Garbon sero-net (eventbrite) (Yn agor ffenestr newydd)

Grant Datblygiad Cyflenwyr

Dyma grant gyda'r nod o ddarparu gwasanaeth newydd wrth ymgymryd â hyfforddiant er mwyn ennill achrediad a gydnabyddir gan y sector. Bydd hyn o gymorth i fusnesau sy'n dymuno gwneud cais am gontractau sector cyhoeddus a/neu ar raddfa fwy.

Yr uchafswm grant sydd ar gael yw £1,000. Bydd y grant yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu 50% o gostau arian cyfatebol. Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu crynodeb busnes a rhagolwg llif arian 12 mis.

Am ragor o fanylion ac i ofyn am ffurflen gais, e-bostiwch developmentgrant@abertawe.gov.uk.

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. 

Grantiau Creu Lleoedd

Mae grantiau o hyd at £30,000 ar gael i wella canolfannau siopa ardal a masnachol bach ar draws Dinas a Sir Abertawe sydd y tu allan i ganol y ddinas (rhaid iddynt ddilyn y rheolau rheoli cymhorthdal).

Rhagor o wybodaeth: Grantiau Creu Lleoedd

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. 

Grant UK Steel Enterprise

Cynllun grant mewn partneriaeth â UK Steel Enterprise Ltd sy'n cynnig hyd at £500 i fusnesau newydd neu fusnesau dan 2 flwydd oed yn ardal Cyngor Abertawe. Fodd bynnag, dim ond 50% o gostau cymwys y prosiect y bydd y grant yn eu talu a'r isafswm grant sy'n daladwy yw £250.

Mae cyllid grant yn cynnwys eitemau fel cyfarpar, cymwysterau, cyfrifeg, meddalwedd, datblygu gwefannau ac offer.

Nid oes llawer o arian ar gael a chaiff y gronfa ei dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. I gael rhagor o fanylion, e-bostiwch grantsefydlu@abertawe.gov.uk.

Grant Datblygu a Gwella Eiddo (PEDG)

Cynllun grant yw hwn a sefydlwyd ar gyfer eiddo adfeiliedig neu wag i'w hadfer i ddefnydd buddiol a sicrhau gwaith adeiladu o safon a gwella blaenau siopau yng nghanol y ddinas.

Cynigir uchafswm o 40% o gefnogaeth ariannol i ymgeiswyr drwy'r grantiau PEDG, a bydd yn cael ei hasesu fesul achos, gan ystyried y manteision economaidd ac amgylcheddol a geir o'r prosiect. I fod yn gymwys am y grant, rhaid i'r cynllun newydd gynnwys swyddi newydd.

Bydd cefnogaeth ariannol drwy grantiau PEDG fel arfer yn golygu'r cyfraniad lleiaf sy'n ofynnol i gyflwyno'r prosiect. Mae'r eitemau sy'n gymwys am grant yn cynnwys wynebau adeiladau, toeon, blaenau siopau, lloriau, nenfydau, grisiau, ailweiro ac arwyddion ynghyd â ffioedd proffesiynol cysylltiedig. Mae eitemau nad ydynt yn gymwys yn cynnwys gosodiadau, ardaloedd nad ydynt yn weladwy i'r cyhoedd, atgyweiriadau strwythurol mawr a gwaith cynnal a chadw cyffredinol. Ni ellir ystyried cynlluniau preswyl ar gyfer grant PEDG.

I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch busnes@abertawe.gov.uk.

Grant Byw'n Gynaliadwy (SLG)

Mae Grant Byw'n Gynaliadwy (SLG) ar gael yng nghanol y ddinas i droi lle gwag ar loriau uchaf unedau masnachol yn llety preswyl newydd.

Gall prosiectau gael grant SLG hyd at 40% o gost gymwys y gwaith gwella a ffioedd proffesiynol, ond bydd pob achos unigol yn cael ei asesu'n unigol.

Mae eitemau sy'n gymwys ar gyfer grant yn cynnwys yr holl waith angenrheidiol i greu llety preswyl newydd, ac eithrio gosodiadau a ffitiadau.

Mae dyfarniad a maint y grant a gynigir yn ôl disgresiwn Dinas a Sir Abertawe. Sylwer na fydd cais yn gymwys os yw'r gwaith arfaethedig wedi dechrau neu wedi'i gyhoeddi cyn i grant gael ei ddyfarnu.

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch busnes@abertawe.gov.uk.

Cronfa Benthyciadau Canol Trefi

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cronfa benthyciadau gwerth £2,000,000 i ni i'w gweinyddu fel rhan o'r cynllun Benthyciadau Canol Trefi.

Mae canol dinas Abertawe a chanol tref Treforys ymysg yr ardaloedd sy'n cael eu cynnwys yn y cynllun.

Rhagor o wybodaeth am y cynllun Benthyciadau Canol Trefi a sut i wneud cais Cronfa Benthyciadau Canol Trefi

 

Cynlluniau cymorth ariannol rhanbarthol a lleol

Banc Datblygu Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi Cymru drwy ei gwneud yn haws i fusnesau gael y cyllid y mae ei angen i ddechrau, cryfhau a thyfu. Mae'r cyllid sydd ar gael yn amrywio o £1,000 i £5m ac mae ar gael i fusnesau newydd ac i fyny. Bydd cyfraddau llog yn amrywio rhwng 4-12% ond maent yn sefydlog ar gyfer tymor eich trefniant.

Ymddiriedolaeth y Tywysog (Yn agor ffenestr newydd)

Mae rhaglen entrepreneur Ymddiriedolaeth y Tywysog yn gymwys i entrepreneuriaid ifanc newydd 18-30 oed. Mae'r rhaglen yn darparu mynediad i weithdy rhyngweithiol, mentora busnes a'r cyfle i wneud cais am grant sefydlu o £750 a mynediad uniongyrchol at fenthyciad cychwyn busnes o £500 - £5000.

 

Rhaglenni cymorth cenedlaethol

Lwfans Menter Newydd (Yn agor ffenestr newydd)

Mae'r Lwfans Menter Newydd yn gynllun gan y llywodraeth sydd wedi'i gynllunio i gefnogi unigolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol i hunangyflogaeth. Yn ogystal â derbyn lwfans am hyd at eich chwe mis cyntaf, bydd gennych fynediad at fentor busnes a all roi cyngor ar gael gafael ar gyllid pellach.

I gael mynediad at y gwasanaeth hwn, siaradwch â'ch Hyfforddwr Gwaith Canolfan Byd Gwaith lleol.

 Banc Busnes Prydain (Yn agor ffenestr newydd)

Mae Banc Busnes Prydain yn cynnig benthyciadau o hyd at £25,000 ar gyfer dechrau prosiectau twf busnes. Mae benthyciadau ar gyfradd llog sefydlog o 6% y flwyddyn gyda chyfnodau ad-dalu o rhwng 1 a 5 mlynedd. Cefnogir y cynllun hwn gan Lywodraeth y DU ac mae'n cynnwys 12 mis o fentora am ddim.

Cystadlaethau Innovate UK (Yn agor ffenestr newydd)

Cyllid ar gael i fusnesau bach a chanolig sy'n ymgymryd â phrosiectau Ymchwil a Datblygu. Mae gan Innovate UK amrywiaeth o gystadlaethau arloesedd ar gael i brosiectau priodol.

Innovate UK - chwilio am gystadleuaeth (Yn agor ffenestr newydd)

UK Steel Enterprise (UKSE) (Yn agor ffenestr newydd)

Gall UKSE fuddsoddi mewn prosiectau sy'n werth dros £25,000 gyda benthyciadau heb eu sicrhau neu gyllid ecwiti ar gyfer prosiectau gwerth dros £100,000, yn enwedig y rhai sydd wedi'u hanelu at ynni a gweithgynhyrchu.

UnLtd (Yn agor ffenestr newydd)

Mae UnLtd yn darganfod, yn ariannu ac yn cefnogi entrepreneuriaid cymdeithasol - pobl fentrus gydag atebion sy'n newid cymdeithas er gwell. Gall mentrau newydd fod yn gymwys i gael dyfarniadau o rhwng £500 a £5000, efallai y bydd mentrau cymdeithasol sy'n ceisio tyfu yn gallu gwneud cais am hyd at £15,000.

Cronfa Benthyciadau Canol Trefi

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cronfa benthyciadau gwerth £2,000,000 i ni i'w gweinyddu fel rhan o'r cynllun Benthyciadau Canol Trefi.