Toglo gwelededd dewislen symudol

Arolwg Newid yn yr Hinsawdd Dinasyddion

Yn gynharach eleni, cynhaliodd Cyngor Abertawe ail arolwg newid yn yr hinsawdd ar-lein mewn perthynas â'r agenda newid yn yr hinsawdd.

Cynhaliwyd yr arolwg cyntaf yn 2021 gyda'r nod o feithrin dealltwriaeth ynghylch a oedd pobl yn gyffredinol yn cefnogi camau gweithredu awgrymedig Cyngor Abertawe ar gyfer ei daith i ddod yn sero net ac yn cefnogi'r hyn y mae'r Cyngor wedi bod yn ei wneud o ran agenda sero net ehangach Abertawe. 

Roedd yr ail arolwg dinasyddion yn adeiladu ar hyn a'r tro hwn defnyddiwyd y 9 thema ar gyfer adrodd am allyriadau a nodwyd yn strategaeth bresennol Cymru Sero Net ac ychwanegwyd thema ychwanegol 'Iechyd a Lles'.

Mae canfyddiadau'r ail arolwg hwn yn dangos yn glir bod pobl Abertawe'n parhau i bryderu am newid yn yr hinsawdd a bod yr un materion yn bwysig iddynt. Mae rhai materion sy'n bwysicach iddynt ers yr arolwg diwethaf, o bosib oherwydd yr argyfwng costau byw a'r sylw y mae rhai materion wedi'i gael yn y cyfryngau.

Mae'r prif ymatebion gan breswylwyr ar gyfer y 10 thema fel a ganlyn:

Thema 1: Cynhyrchu Trydan a Gwres

Ymatebion mwyaf poblogaidd: Pob adeilad cyhoeddus i fod yn effeithlon o ran ynni

Y pethau eraill yr hoffai preswylwyr Abertawe eu gweld yn digwydd o ran y thema hon: 

  • Rhagor o fentrau ynni adnewyddadwy.
  • Mwy o gydweithio ar lefel ranbarthol. 

Yr hyn y mae Cyngor Abertawe'n ei wneud:

  • Cynnal mentrau gyda staff a rheolwyr i leihau'r defnydd o ynni drwy newid mewn ymddygiad a monitro'r defnydd o ynni ym mhob un o adeiladau cyhoeddus y Cyngor.
  • Bydd Cynllun Ynni Ardal Leol newydd (rhan o gynllun rhanbarthol ehangach) yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir ar gyfer Abertawe, gyda mentrau ynni adnewyddadwy ac arbed ynni ar gyfer Abertawe o ganlyniad i ymgynghoriadau ar draws y sir a'r rhanbarth.
  • Cefnogi datblygu'r fenter morlyn llanw, storfeydd batris solar a pharc ynni drwy fuddsoddiad preifat. 
  • Adnewyddu ei gontract Ôl-osod er mwyn Lleihau Carbon i gyflwyno rhaglenni effeithlonrwydd ynni/adnewyddadwy ar draws adeiladau corfforaethol ac ysgolion.

Thema 2: Trafnidiaeth

Ymatebion mwyaf poblogaidd: System drafnidiaeth wirioneddol integredig o amgylch Abertawe, gan roi blaenoriaeth i gerddwyr, beicwyr a bysus

Y pethau eraill yr hoffai preswylwyr Abertawe eu gweld yn digwydd o ran y thema hon:

  • Rhagor o rwydweithiau teithio llesol sy'n cysylltu gwaith a hamdden
  • Lleoedd diogel i gloi beiciau
  • Paneli solar ffotofoltaig ar doeon meysydd parcio awyr agored 

Yr hyn y mae Cyngor Abertawe'n ei wneud:

  • Mae Cynllun Trafnidiaeth Gynaliadwy newydd ar ddod sy'n cynnwys mentrau i ehangu'r rhwydwaith teithio llesol
  • Mae'r Strategaeth Trafnidiaeth Ranbarthol yn cael ei datblygu i gynnwys system trafnidiaeth gyhoeddus integredig

Thema 3: Adeiladau Preswyl

Ymatebion mwyaf poblogaidd: Pob cartref newydd i gael ei adeiladu i safonau rheoliadau adeiladu newydd o leiaf, gydag effeithlonrwydd ynni a dŵr

Y pethau eraill yr hoffai preswylwyr Abertawe eu gweld yn digwydd o ran y thema hon:

  • Rhagor o gynlluniau plannu a blychau nythu o gwmpas adeiladau preswyl a masnachol i annog bywyd gwyllt a rhagor o fannau gwyrdd trefol.
  • Cyngor i berchnogion tai ar fesurau effeithlonrwydd ynni gan gynnwys mesurau buddsoddi i arbed.
  • Tai cymdeithasol sy'n effeithlon o ran ynni a dŵr

Yr hyn y mae Cyngor Abertawe'n ei wneud:

  • Polisi isadeiledd gwyrdd ar gyfer canol y ddinas a'r sir sy'n cynnwys gosod waliau gwyrdd a chreu gerddi glaw er mwyn rhoi hwb i fywyd gwyllt, darparu mesurau oeri ac inswleiddio ar gyfer adeiladau a helpu i liniaru llifogydd 
  • Mae blychau gwenoliaid duon yn cael eu gosod fel rhan o waith i uwchraddio tai cymdeithasol os yw preswylwyr am gael rhai, a gall Prosiect Gwenoliaid Duon Abertawe ddarparu blychau i berchnogion tai os oes ganddynt rywle addas i'w gosod.
  • Mae ein timau parciau'n cefnogi ymgyrch 'Mai Di Dor' 
  • Mae Strategaeth Coed Newydd ar fin cael ei chyhoeddi i gynyddu'r canopi coed ar draws y sir  
  • Mae'r fenter Rhagor o Gartrefi yn darparu rhagor o gartrefi cymdeithasol ac mae gwelliannau'n cael eu gwneud i dai sy'n eiddo i'r Cyngor, fel gosod inswleiddio a thechnolegau adnewyddadwy.
  • Mae'r Hwb Ymwybyddiaeth Ynni ar agor ar Stryd Fawr Abertawe. Mae'r hwb yn cael ei weithredu gan bartner a'i ariannu drwy Gyngor Abertawe i ddarparu cyngor annibynnol ac am ddim i bobl Abertawe ar faterion sy'n ymwneud ag ynni.

Thema 4: Diwydiant, busnes a thwristiaeth

Ymatebion mwyaf poblogaidd: Gwasanaeth bws dibynadwy a fforddiadwy gyda gwasanaeth parcio a theithio i annog pobl leol a thwristiaid i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

Y pethau eraill yr hoffai preswylwyr Abertawe eu gweld yn digwydd o ran y thema hon:

  • Rhagor o gyfleoedd i brynu cynhyrchion lleol
  • Rhagor o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau gwyrdd ar gyfer y dyfodol
  • Rhagor o gefnogaeth i fusnesau ddatgarboneiddio 
  • Digwyddiadau gwyrddach a helpu Abertawe i ddod yn gyrchfan twristiaeth gynaliadwy

Yr hyn y mae Cyngor Abertawe'n ei wneud:

  • Datblygu Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy a Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol newydd a fydd yn galluogi mwy o integreiddio o ran systemau trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol
  • Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi marchnadoedd/siopau dros dro sy'n gwerthu cynnyrch lleol ac mae'n cefnogi cynhyrchu bwyd lleol drwy Bartneriaeth Bwyd Abertawe yn ogystal â chefnogi Bwyd Abertawe
  • Gweithio gyda chadwyni cyflenwi i ddatgarboneiddio a darparu cyfleoedd hyfforddiant
  • Gweithio mewn cydweithrediad â Choleg Gŵyr i ddarparu hyfforddiant ar gyfer gosod technolegau adnewyddadwy a'u cynnal
  • Darparu hyfforddiant am ddim o'r enw 'Towards Carbon Zero' i fusnesau bach a chanolig yn Abertawe i'w helpu i ddatgarboneiddio 

Thema 5: Amaethyddiaeth

Ymatebion mwyaf poblogaidd: Lleihau halogiad i afonydd

Y pethau eraill yr hoffai preswylwyr Abertawe eu gweld yn digwydd o ran y thema hon:

  • Mwy o gyfleoedd i werthu bwyd lleol
  • Ffermio adfywiol ac arallgyfeirio
  • Llai o wastraff bwyd

Yr hyn y mae Cyngor Abertawe'n ei wneud:

  • Drwy gydnabod nad oes gan Abertawe a phenrhyn Gŵyr ffermydd sy'n defnyddio'r dulliau ffermio dwys sy'n gysylltiedig â halogiad amaethyddol posib i afonydd, mae'n parhau i weithio'n agos gyda CNC a sefydliadau eraill sy'n gyfrifol am fonitro cyflwr ein hafonydd, gan nad gwastraff amaethyddol yw'r unig halogydd posib a all achosi problemau i'r afonydd.
  • Creu cysylltiadau â ffermwyr ac undebau ffermio i ddeall yn well y materion y mae ffermwyr yn eu hwynebu 
  • Mae ein timau Atal Tlodi yn gweithio gyda banciau bwyd 
  • Mae casgliadau gwastraff bwyd o garreg y drws yn troi gwastraff yn gompost.
  • Gweithio gyda BGCau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a 4theRegion i edrych ar fwyd lleol ar y plât cyhoeddus - menter i edrych ar bŵer prynu gwasanaethau cyhoeddus a'r ffordd orau o gefnogi cynhyrchwyr lleol

Thema 6: Gwastraff a'r Economi Gylchol

Ymatebion mwyaf poblogaidd: Buddsoddi mewn isadeiledd ailgylchu lleol i gefnogi targedau ailgylchu masnachol a gwelliannau i ailgylchu preswyl

Y pethau eraill yr hoffai preswylwyr Abertawe eu gweld yn digwydd o ran y thema hon:

  • Mwy o weithredu o ran achosion o dipio anghyfreithlon
  • Mwy o gynnyrch lleol ar werth yn Abertawe 
  • Mwy o lyfrgelloedd, llyfrgelloedd pethau a chaffis atgyweirio
  • Ymgyrch Abertawe ddi-blastig

Yr hyn y mae Cyngor Abertawe'n ei wneud:

  • Mae treialon yn cael eu harchwilio ar gyfer eitemau ychwanegol a gesglir o garreg y drws ac mae sachau a blychau ailgylchu y gellir eu hailddefnyddio ar fin cael eu cyflwyno i leihau nifer y sachau plastig gwyrdd untro a ddefnyddir yn sylweddol. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno fesul cam ar draws Abertawe o hydref/gaeaf 2024/25
  • Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi'r marchnadoedd dros dro lleol ar draws y sir ac yn cydlynu'r Bartneriaeth Bwyd.
  • Bydd y Llyfrgell Ganolog yn cael ei symud i'r Storfa yn y brif ardal siopa o fis Mai 2024. Sefydlodd Cyngor Abertawe'r Llyfrgell Pethau sydd bellach i'w gweld ar Stryd Fawr Abertawe yn y man cymunedol, ynghyd â'r Caffi Atgyweirio a'r Hwb Ymwybyddiaeth Ynni.
  • Ariannodd Cyngor Abertawe Ganolfan yr Amgylchedd i gydlynu Mis Gorffennaf Di-blastig yn 2024. Cynhaliwyd y digwyddiad y tu allan i Farchnad Abertawe. Mae cynlluniau i gynnal y digwyddiad flwyddyn nesaf hefyd gyda mwy o gynlluniau yn cael eu llunio ar gyfer y tymor hwy a thrwy gydol y flwyddyn.
  • Sefydlwyd Trysorau'r Tip yng Nghanolfan Ailgylchu Llansamlet i ddargyfeirio mwy o wastraff o safleoedd tirlenwi. Mae'r holl eitemau sydd ar werth yn ein siop wedi'u dargyfeirio o'r ffrwd wastraff ac mae'r incwm a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio i ariannu a datblygu'r prosiect ymhellach.

Thema 7: Addysg ac Ymgysylltu

Ymatebion mwyaf poblogaidd: Pob plentyn i fod yn gysylltiedig â mannau gwyrdd lleol ar gyfer dysgu a chwarae

Y pethau eraill yr hoffai preswylwyr Abertawe eu gweld yn digwydd o ran y thema hon:

  • Ymgorffori sgiliau gwyrdd ym mhob sefydliad addysgol
  • Mae pob dinesydd yn cael cyfle i ddysgu mwy am newid yn yr hinsawdd a sut mae angen i ni addasu i'r newidiadau sydd eisoes yn digwydd yn ogystal â sut y gall pawb gymryd camau cadarnhaol i atal cynnydd pellach yn nhymheredd cyfartalog y byd.
  • Cynulliadau Dinasyddion ac Ieuenctid i alluogi gwaith ymgynghori wrth i ni weithio tuag at sefyllfa sero net 2050 ac wrth i ni addasu i newid yn yr hinsawdd
  • Hyrwyddo brand Abertawe fel ymgyrch ar gyfer yr holl bobl a busnesau i greu ymdeimlad o falchder yn yr ardal rydym yn byw ac yn gweithio ynddi

Yr hyn y mae Cyngor Abertawe'n ei wneud:

  • Mae Cyngor Abertawe'n cydweithio â Choleg Gŵyr a'r ddwy brifysgol
  • Mae Cyngor Abertawe'n gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Llofnodwyr y Siarter Hinsawdd drwy Brosiect Sero Abertawe i ddatblygu Polisi Addasu a Lliniaru newid yn yr hinsawdd a bydd yn ymgynghori ag arweinwyr cymunedol, y cyhoedd a grwpiau ieuenctid.
  • Mae Prosiect Sero Abertawe'n lansio ymgyrch cynyddu ymwybyddiaeth a newid ymddygiad hirdymor drwy'r ymgyrch 'Gwnewch y Pethau Bychain' o hydref 2024.

Thema 8: Cyfoethogi ein Hadnoddau Naturiol

Ymatebion mwyaf poblogaidd: Glanhau afonydd a thraethau ar gyfer bywyd gwyllt a hamdden

Y pethau eraill yr hoffai preswylwyr Abertawe eu gweld yn digwydd o ran y thema hon:

  • Diogelu ac arallgyfeirio cynefinoedd drwy reoli tir ar gyfer bywyd gwyllt ac adfer ecosystemau, gan sicrhau cysylltedd da rhyngddynt.
  • Plannu gwymon neu forwellt o amgylch Gŵyr ar gyfer creu cynefinoedd a dal ac atafaelu carbon
  • Cyngor Abertawe yn gwahardd glyffosad i reoli chwyn ar strydoedd ac ar ymylon ffyrdd

Yr hyn y mae Cyngor Abertawe'n ei wneud:

  • Gweithio'n agos gyda CNC a sefydliadau eraill sy'n gyfrifol am fonitro cyflwr ein hafonydd.
  • Mae gan bedwar traeth a reolir gan y Cyngor statws Baner Las - Bae Caswell, Bae Langland, Porth Einon a phrif farina'r ddinas.
  • Mae Cyngor Abertawe'n aelod gweithgar o'r Bartneriaeth Natur Leol ac mae'n gweithio gyda gwahanol bartneriaid ar lawer o brosiectau ar draws y sir i greu, adfer a rheoli cynefinoedd.
  • Mae Cynghorwyr Lleol wedi gweithio gyda'r timau Parciau a Phriffyrdd i leihau'r defnydd o glyffosad mewn rhai ardaloedd lleol

Thema 9: Defnydd tir, newid defnydd tir a choedwigaeth

Ymatebion mwyaf poblogaidd: Sicrhau bod cynefinoedd yn gysylltiedig â gwrychoedd a choridorau eraill, yn enwedig pan fo datblygiadau newydd yn cael eu hadeiladu

Y pethau eraill yr hoffai preswylwyr Abertawe eu gweld yn digwydd o ran y thema hon:

  • Cynnydd yn nifer y coed ar draws y sir
  • 30% (neu fwy) o dir a môr i fod yn ardaloedd gwarchodedig a reolir yn dda
  • Gwell mynediad i fannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol
  • Mwy o dir ar gael ar gyfer amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned a'r defnydd o randiroedd

Yr hyn y mae Cyngor Abertawe'n ei wneud:

  • Mae'n rhaid i Gyngor Abertawe gadw at safonau gofynnol wrth roi caniatâd cynllunio, sy'n cynnwys lle i natur a rheoliadau perfformiad ynni gofynnol 
  • Mae'r Cynllun Datblygu Lleol newydd ar y gweill a newid yn yr hinsawdd ac adfer byd natur yw rhai o'r agweddau sy'n cael eu hystyried wrth ei ddatblygu
  • Mae Cyngor Abertawe'n aelod gweithgar o'r Bartneriaeth Natur Leol ac mae'n gweithio gyda gwahanol bartneriaid ar lawer o brosiectau ar draws y sir i greu, adfer a rheoli cynefinoedd.
  • Mae'r Strategaeth Coed newydd wedi'i datblygu ac mae arolwg canopi coed wedi'i gynnal fel y 'gellir plannu'r coed cywir yn y lle cywir.'
  • Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi prosiect Orchard yng Ngerddi Clun ac mae'n berchen ar 16 o wahanol safleoedd rhandir sy'n cael eu rheoli gan gymdeithasau rhandiroedd ar draws y sir. Mae yna hefyd nifer o safleoedd rhandiroedd preifat.

Thema 10: Iechyd a Lles

Ymatebion mwyaf poblogaidd: Cartrefi cynnes wedi'u hinswleiddio'n dda

Y pethau eraill yr hoffai preswylwyr Abertawe eu gweld yn digwydd o ran y thema hon:

  • Ffyrdd heb dagfeydd ac aer glân
  • Mynediad hawdd a dibynadwy ar drafnidiaeth gyhoeddus i fannau gwyrdd, gan gynnwys penrhyn Gŵyr o ganol y ddinas
  • Cyfleoedd hyfforddiant a swyddi
  • Mynediad gwell i fannau gwyrdd o amgylch y ddinas

Yr hyn y mae Cyngor Abertawe'n ei wneud:

  • Gweithio ar y cyd ar draws y rhanbarth i ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol newydd a fydd yn helpu i lunio'r ffordd rydym yn teithio o amgylch Abertawe a'r rhanbarth.
  • Datblygu Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy sy'n hyrwyddo cyfleoedd i'r cyhoedd a theithio llesol
  • Darparu teithiau bysus am ddim dros benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol
  • Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd i wneud canol y ddinas yn fwy gwyrdd
  • Prosiectau adfywio a fydd yn cynnwys gwneud Sgwâr y Castell yn fwy gwyrdd
  • Gweithio gyda Choleg Gŵyr, y Prifysgolion a buddsoddwyr preifat i ddod â swyddi a sgiliau gwyrdd i'r economi leol

Mae Cyngor Abertawe'n ymwneud â llawer o brosiectau a llawer o bartneriaid y mae'n gweithio gyda nhw i greu sir fywiog, gynaliadwy a chadarn ar gyfer y dyfodol. Rydym yn gwneud llawer o bethau sy'n dibynnu ar gyllid ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i hyrwyddo Abertawe lle bynnag y bo modd a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Tachwedd 2024