San Pedr, Pentrechwyth
Rhestr y Gwroniaid
Ar ôl cychwyniad y rhyfel, comisiynwyd y Rhestr Anrhydedd hon i gofnodi enwau'r 59 o breswylwyr Pentrechwyth a oedd yn gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ychwanegwyd rhagor o enwau wrth i'r rhyfel barhau, a dodwyd nodyn wrth ymyl enwau wyth dyn a laddwyd mewn brwydr. Erbyn diwedd y rhyfel, roedd y rhestr yn cynnwys cyfanswm o 99 o enwau, yr oedd wyth ohonynt wedi marw. Parhaodd i gael ei harddangos ar wal gefn yr eglwys, yn wynebu'r allor.
Mae'r Rhestr Anrhydedd yn mesur 48 x 60 cm ac fe'i lluniwyd gan Thomas & Parry Ltd. o Abertawe. Fe'i harluniwyd yn goeth mewn inc lliw a dyfrlliwiau ac mae'n cynnwys pennawd addurnol gyda chynrychioliad o Fritannia yn dal baner yr Undeb, yn erbyn cefndir o faneri sy'n cynrychioli Ffrainc, Gwlad Belg, Siapan a Rwsia. Isod ceir gweddi ar gyfer amynedd a diogelwch, ac oddi tani mewn grid mae'r enwau sydd yn nhrefn yr wyddor yn fras. Nid yw rheng na chatrawd wedi'u cynnwys ac mae'r enwau'n bennaf yn gyfenwau a llythrennau blaen yn unig. Er ei bod yn addurnol, mae tri gwall trawsgrifio yn y weddi.
Unodd San Pedr â Santes Margaret, Bôn-y-maen i greu plwyf newydd Glantawe ym 1965. Yn 2021, yn dilyn problemau gyda'r ddau adeilad, caewyd yr eglwysi a throsglwyddwyd y cofnodion, gan gynnwys y rhestr anrhydedd hon, i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg i'w cadw'n ddiogel.
Rhagor o wybodaeth am y baneri sy'n ymddangos ar y gofeb hon
Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF, 3 MB) (Yn agor ffenestr newydd)