Toglo gwelededd dewislen symudol

Sgiliau TG ar gyfer gwaith a bywyd [Dydd Iau, 1.00pm-3.00pm] - DL042468.JWC

Dydd Iau 4 Gorffennaf 2024
Dim rhagor ar gael
Amser dechrau 13:00
15:00
Pris Free

Hyd - 10 wythnos.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys un tymor o ddysgu gyda'r nôd o ddarparu sgiliau ac unedau achrededig i chi ar Lefel 1 Agored Cymru.

Enillwch y sgiliau TGCh i weithredu a symud ymlaen mewn gwaith, addysg a bywyd bob dydd, gan ddefnyddio Technoleg Ddigidol er eich budd chi. Defnyddiwch gymwysiadau meddalwedd prosesu geiriau ac archwiliwch yr offer i olygu a fformatio dogfennau. Dylunio, paratoi a darparu cyflwyniadau digidol ac ennill y sgiliau a'r technegau i ddefnyddio taenlenni yn llwyddiannus. Dysgu rheoli ffeiliau, gan gynnwys arbed, sicrhau a rhannu dogfennau, fel un o'r sgiliau allweddol a drafodir yn ystod y cwrs hwn.

Bydd y cwrs 30 wythnos hwn, a gyflwynir dros dri thymor 10 wythnos, yn eich helpu i wella'ch cynhyrchiant gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd TGCh a swyddfa. Bydd yn eich helpu i ddeall manteision defnyddio prosesu geiriau, cyflwyniadau a thaenlenni, yn ogystal â darparu'r sgiliau a'r achrediadau cydnabyddedig i chi i'w defnyddio'n effeithiol.

Ymhlith y sgiliau a addysgir mae:

  • Creu, golygu a fformatio dogfennau wedi'u prosesu â geiriau.
  • Creu cyflwyniadau digidol.
  • Cynhyrchu a defnyddio taenlenni yn effeithiol.
  • Rhoeli ffeiliau.


Bydd yr unedau Agored Cymru dan sylw yn cynnwys:

  • CQ11CY083 Technegau Prosesu Geiriau.
  • CP11CY018 Creu Cyflwyniadau Digidol.
  • CP31CY016 Technegau Taenlen.

Mae pob un o'r unedau uchod werth tri chredyd, naw i gyd, y gellir eu defnyddio i ffurfio rhan o un neu fwy o gymwysterau Agored Cymru rheoledig.

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Sesiynau dosbarth, dan arweiniad tiwtor.
  • Taflenni a thaflenni canllaw ar gael i lawrllwytho ac argraffu.
  • Gwaith prosiect ar gyfer achredu.

Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.

Fformat dysgu: Wyneb-i-wyneb.

Côd y cwrs: DL042468.JWC

Llyfrgell Townhill

Canolfan y Ffenics, Parc Paradwys

Rhodfa Powys

Townhill

Abertawe

SA1 6PH

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps

Amserau eraill ar Dydd Iau 4 Gorffenaf

Dim enghreifftiau o hyn
Close Dewis iaith