Toglo gwelededd dewislen symudol

Amodau a thelerau contractau gwastraff masnachol ac ailgylchu

Dyma'r amodau a thelerau safonol ar gyfer busnesau a chanddynt gontract gwastraff masnachol ac ailgylchu gyda Chyngor Abertawe.

Taliad

Mae'r cwsmer yn cytuno i dalu am gasglu a gwaredu gwastraff gweddilliol ac ailgylchu ar y fath gyfraddau uwch ag y gall y Cyngor eu mynnu o bryd i'w gilydd.

Bydd graddfa'r ffioedd yn cael ei hadolygu'n flynyddol a bydd unrhyw newidiadau'n dod i rym o 1 Ebrill bob blwyddyn.

Os na fydd yn talu, os bydd diffyg mewn gwneud taliad neu os yw'n peidio â chydymffurfio â'r gofynion a nodir yn y cytundeb hwn, bydd gan Gyngor Abertawe o dan delerau'r cytundeb hwn, yr hawl i derfynu'r gwasanaeth ar unwaith a bydd yn cadw'r hawl i hawlio unrhyw daliad neu ddiffygion sy'n weddill.

Bydd y Cyngor yn gofyn am daliad gan y trosglwyddwr ar gyfer casgliadau gwastraff ac ailgylchu masnachol ar ôl iddo dderbyn anfoneb drwy drosglwyddiad BACS neu Ddebyd Uniongyrchol. Ni fydd y Cyngor yn derbyn taliadau arian parod.  Mae'r holl anfonebau'n daladwy o fewn 28 niwrnod i ddyddiad yr anfoneb. Bydd peidio â thalu yn arwain at gymryd eich bin(iau) / cynhwysydd(ion) olwynog a thynnu'r gwasanaeth yn ôl. Gellir codi taliadau ychwanegol am gasglu a gweinyddiaeth biniau olwynog. Gellir codi taliadau ychwanegol am ailgyflwyno gwasanaeth.

Telerau'r cytundeb

Cytunir trwy hyn y bydd y cytundeb hwn am gyfnod o ddeuddeng mis (1 Ebrill i 31 Mawrth) o Ddyddiad Cychwyn y Gwasanaeth neu am ba gyfnod bynnag y cytunir arno'n ysgrifenedig rhwng y partïon hyn, a bydd yn parhau am gyfnodau olynol pellach o 12 mis oni bai fod y naill barti neu'r llall yn ei derfynu'n ysgrifenedig i'r cyfeiriad uchod.

Bydd cytundebau sy'n cael eu gwneud rhan o'r ffordd drwy'r cyfnod codi tâl yn cael eu cyfrifo ar sail pro-rata o'r dyddiad y dosberthir y cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu.

Os caiff y contract ei newid neu ei derfynu o fewn y flwyddyn ariannol, rhoddir ad-daliad ar gyfer gwerth y flwyddyn sy'n weddill yn unig, namyn ffi weinyddol o 15%. Gellir codi taliadau ychwanegol am ddosbarthu/casglu a gweinyddiaeth biniau olwynog.

Gall cytundeb gael ei derfynu neu ei amrywio ar unrhyw adeg gan un neu'r llall o'r partïon yn rhoi rhybudd ysgrifenedig o 28 niwrnod i'r llall.

Ni fydd y cytundeb yn cael ei neilltuo na'i drosglwyddo gennych chi i unrhyw barti arall. Os yw'r cwsmer yn rhoi'r gorau i fasnachu, mae'n atebol am dalu'r holl anfonebau hyd at y dyddiad y gwneir rhybudd ysgrifenedig i Gyngor Abertawe.

Materion gwastraff ac ailgylchu

Mae'r Cyngor yn cytuno i logi'r cynwysyddion a restrir yn y Rhestr Gwastraff i'r Cyngor ac mae'r Cyngor yn cytuno y bydd y cynwysyddion yn cael eu cadw ganddo ar ei fenter ei hun.

O dan y cytundeb hwn, y Cyngor fydd yn berchen ar y biniau a gyflenwir ar bob adeg. Bydd y biniau'n cael eu storio mewn modd diogel a chyfrifol ar y safle a rhaid eu cyflwyno'n addas er hwylustod gwagio ar y diwrnod casglu.

Bydd y cwsmer yn indemnio'r Cyngor yn erbyn unrhyw golled neu hawliadau a wneir yn erbyn y Cyngor sy'n deillio o ddefnydd y Trosglwyddwr o'r cynwysyddion a restrir uchod neu o'u llogi.

Bydd y cwsmer trwy gydol cyfnod y contract yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i gadw'r bin(iau) yn ddiogel a heb eu difrodi. Os bydd bin yn cael ei golli, ei ddinistrio neu ei ddifrodi am ba achos bynnag, ac eithrio drwy esgeulustod ar ran y Cyngor, bydd y cwsmer yn talu'r gost lawn o naill ai atgyweirio'r bin(iau) olwynog neu roi bin(iau) newydd yn ei le (eu lle). Ni fydd y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a achosir gan y bin(iau) wrth iddynt gael eu llogi; rhaid i'r cwsmer gymryd cyfrifoldeb i sicrhau bod y bin yn ddiogel.

Mae'n rhaid i'r holl wastraff ac ailgylchu gweddilliol gael eu storio ar wahân yn unol â Chôd Ymarfer Cymru 2002 Llywodraeth Cymru: Casglu Deunyddiau Gwastraff ar wahân ar gyfer Ailgylchu. Gall peidio â chydymffurfio arwain at halogi'r deunydd sy'n ei wneud yn anaddas i'w ailgylchu. Os caiff ei halogi, ni fydd y deunydd yn cael ei gasglu tan naill ai; (1) Fod yr halogiad yn cael ei waredu neu (2) Yn ddarostyngedig i gytundeb Cyfoeth Naturiol Cymru, y rhoddir cyfarwyddyd ysgrifenedig i'r Cyngor yn gofyn i'r cynhwysydd gael ei gasglu ac i'r cynnwys gael ei waredu am dâl ychwanegol sy'n cyfateb i un o'r un maint â bin gwastraff cyffredinol a godir gan gerbyd codi.

Os yw unrhyw gynwysyddion ailgylchu wedi'u halogi'n rheolaidd â gwastraff na ellir ei ailgylchu, bydd y Cyngor yn cadw'r hawl i derfynu'r gwasanaeth casglu ac yn mynd ag unrhyw finiau olwynog/gynwysyddion a ddarperir o dan delerau'r cytundeb.

Rhaid i'ch cynwysyddion gwastraff a/neu ailgylchu gynnwys y deunyddiau a ddisgrifir ar y Rhestr Gwastraff ac unrhyw arweiniad pellach gan y Cyngor yn unig. Ni ddylai eich cynwysyddion gwastraff a/neu ailgylchu gynnwys unrhyw sylweddau gwaharddedig (e.e. gwastraff cyrydol, fflamadwy, ffrwydrol, peryglus neu drydanol/electronig).

Cyfrifoldeb y cwsmer yw glanhau'r bin olwynog, os oes angen.

Ni ddylai biniau olwynog y Cyngor gael eu gwagio gan unrhyw gontractwr gwastraff arall.

Casgliadau gwastraff ac ailgylchu

Ni fydd y Cyngor yn casglu o unrhyw leoliadau y mae'r Cyngor o'r farn eu bod yn anhygyrch neu'n anniogel. Dylai'r biniau fod ar gael i'w casglu ar yr amser y cytunwyd arno ar y diwrnod casglu (o 5.30am ar gyfer casgliad y bore, o 12.00pm ar gyfer casgliad y prynhawn, neu o 4.00pm ar gyfer casgliad mewn union bryd yn unig).

Rhaid i'r Cyngor allu cael mynediad i'r bin(iau) yn ystod y diwrnod casglu dynodedig. Os na allwn gael mynediad, ni fyddwn yn dychwelyd oni bai fod casgliad ychwanegol yn cael ei drefnu y gellir codi tâl amdano. Os na chyflwynir bin(iau) olwynog neu fagiau ar yr amser casglu y cytunwyd arno, ni fydd y Cyngor yn dychwelyd oni bai fod casgliad ychwanegol wedi'i drefnu y gellir codi tâl amdano.

Rhaid i'r cwsmer beidio â gorlwytho unrhyw gynhwysydd a ddarperir gan y Cyngor o dan delerau'r Cytundeb a dylid cau caeadau biniau olwynog. Ni fydd unrhyw wastraff ychwanegol yn cael ei gasglu oni bai fod hysbysiad wedi'i roi ymlaen llaw a bod y taliad priodol wedi'i dderbyn oddi wrth y Cwsmer.

Ni fydd y Cyngor yn atebol am unrhyw fethiant neu oedi wrth gyflawni unrhyw rwymedigaethau casglu y gellir eu priodoli i unrhyw achos y tu allan i reolaeth resymol y Cyngor (er enghraifft, amodau tywydd eithafol, priffyrdd/mannau casglu anhygyrch wedi'u rhwystro, cerbyd wedi torri i lawr).

Pa wasanaethau y mae'r gwasanaeth gwastraff masnachol yn eu darparu (o 1 Ebrill 2024)

Casgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu ar gyfer busnesau Casgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu ar gyfer busnesau

Casgliadau ailgylchu i fusnesau Casgliadau ailgylchu i fusnesau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Mai 2024