Toglo gwelededd dewislen symudol

Polisi ffïoedd a thaliadau ar gyfer trwyddedu safleoedd cartrefi symudol preswyl a'u cydymffurfiad

Manylion y costau ar gyfer safleoedd cartrefi symudol preswyl a'n polisi codi tâl

  1. Cyflwyniad
  2. Strwythur ffi'r drwydded
  3. Adolygiad o strwythur ffi'r drwydded
  4. Cyhoeddi'r polisi ffïoedd
  5. Talu ffïoedd
  6. Taliadau eraill 

Atodiad A - Ffïoedd ar gyfer trwyddedu safleoedd cartrefi symudol preswyl

Tabl ffïoedd

Atodiad B - Cyfrifo ffïoedd

1. Cyflwyniad

1.1 Cyflwynwyd Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i ddisodli'r elfennau hynny o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 sy'n ymwneud â thrwyddedu safleoedd gwarchodedig perthnasol. Mae safleoedd at ddefnydd gwyliau'n unig, neu y caniateir iddynt gael unedau wedi'u lleoli arnynt ar adegau penodol o'r flwyddyn yn unig ac nid ydynt yn safleoedd gwarchodedig perthnasol, wedi'u heithrio o'r ffïoedd trwyddedu hyn.

1.2 Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (y Ddeddf) yn awdurdodi awdurdodau lleol i ddyroddi trwyddedau mewn perthynas â 'safleoedd gwarchodedig perthnasol' a'i gwneud yn ofynnol i geisiadau am drwyddedau o'r fath gael eu cyflwyno gyda ffi a bennir gan yr awdurdod. Gellir caniatáu trwydded am hyd at bum mlynedd. Gellir codi ffïoedd hefyd am geisiadau i drosglwyddo trwyddedau safle neu newid amodau mewn trwyddedau safle.

1.3 Dinas a Sir Abertawe yw'r awdurdod lleol at ddibenion y ddeddf  ac mae wedi cytuno i godi ffïoedd am drwyddedu safleoedd gwarchodedig perthnasol yn unol â'r pwerau a roddir o dan y Ddeddf.

1.4 Rhaid i unrhyw ffïoedd a godir dalu'r costau (neu ran o'r costau) y mae'r awdurdod lleol yn mynd iddynt wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf, (ac eithrio costau camau gorfodi neu unrhyw swyddogaethau sy'n ymwneud â gwahardd carafanau ar dir comin neu ddarparu safleoedd gan yr awdurdod lleol ei hun) yn deg.

1.5 Wrth bennu ei bolisi ffïoedd a'r ffïoedd sydd i'w codi, mae'r cyngor wedi rhoi sylw i'r Canllaw Pecyn Cymorth Ffïoedd ar gyfer Awdurdodau Lleol ar Bennu Ffïoedd Trwyddedau Safle a gyhoeddwyd gan Baneli Arbenigol Penaethiaid Iechyd yr Amgylchedd Cymru ar gyfer Trwyddedu a Thai'r Sector Preifat.

2. Strwythur ffi'r drwydded  

2.1 Wrth gyfrifo ei strwythur ffïoedd, mae'r cyngor wedi cyfrifo ei ffïoedd yn unol â darpariaethau'r Ddeddf, ac mae'r ffïoedd a bennir wedi'u nodi yn Atodiad A.

2.2 Wrth benderfynu ar y ffïoedd hynny, mae'r cyngor wedi ystyried yr holl gostau gweinyddol yr aed iddynt yn y broses drwyddedu, ymweliadau swyddogion â safleoedd, costau teithio, ymgynghoriadau, cyfarfodydd, monitro safleoedd/ymchwilio i gwynion a rhoi cyngor anffurfiol.

2.3 Yn unol â'r ddeddfwriaeth, mae'r safleoedd canlynol wedi'u heithrio rhag trwyddedu:

  • Safleoedd sy'n eiddo i awdurdodau lleol.
  • Defnydd achlysurol i dŷ annedd o fewn yr un cwrtil.
  • Safleoedd lle mae un garafán wedi'i lleoli ar dir am ddim mwy na 28 niwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
  • Safleoedd lle mae carafanau wedi'u lleoli ar dir heb fod yn llai na 20,000 metr sgwâr am ddim mwy na 28 niwrnod ac nid oes mwy na thair carafán wedi'u lleoli ar unrhyw un adeg.
  • Safleoedd lle mae carafanau ar gyfer gweithwyr a gyflogir mewn gweithrediadau adeiladu neu beirianneg ar y tir hwnnw neu dir cyfagos yn unig.
  • Safleoedd lle mae carafanau ar gyfer gweithwyr amaethyddol/coedwigaeth tymhorol yn unig a gyflogir ar dir sy'n eiddo i berchennog y safle.
  • Safleoedd a ddefnyddir gan siewmyn teithiol sy'n aelodau o sefydliad perthnasol.
  • Safleoedd sy'n cael eu meddiannu gan sefydliadau â thystysgrif eithriad.

2.4 Mae'r strwythur ffïoedd a fabwysiadwyd gan y cyngor yn seiliedig ar:

  • ffi weinyddol sefydlog benodol ar gyfer prosesu'r cais, ac
  • er mwyn ystyried amser y swyddog wrth archwilio safleoedd o wahanol feintiau, ychwanegir ffi fesul elfen llain at y ffi weinyddol sefydlog, gan fod y gost i'r cyngor o ran amser swyddog yn gymesur â nifer y lleiniau ar y safle.

3. Adolygiad o Strwythur Ffi'r Drwydded

3.1 Cynhelir adolygiad o'r strwythur ffïoedd bob yn ail flwyddyn/bob dwy flynedd a bydd yn cael ei adolygu os bydd angen. Bydd yr adolygiad yn ystyried unrhyw warged neu ddiffyg mewn costau a all fod wedi cronni. Bydd unrhyw addasiadau yn ystyried amrywiadau o ran amser swyddogion ac amser gweinyddu i'r rhai a ddefnyddir wrth gyfrifo'r ffïoedd a nodir yn y ddogfen bolisi hon, ynghyd ag unrhyw newidiadau i gostau eraill yr eir iddynt wrth ddarparu'r swyddogaeth drwyddedu.

4. Cyhoeddi'r polisi ffïoedd                   

4.1 Caiff y polisi ffïoedd ar gyfer trwyddedu safleoedd cartrefi preswyl mewn parciau ei gyhoeddi ar y dudalen hon.

4.2 Os yw'r cyngor yn adolygu ei bolisi ffïoedd bydd yn disodli'r polisi a gyhoeddir gyda'r polisi diwygiedig.

5. Talu ffïoedd

5.1 Mae'r cyngor yn gofyn am ffïoedd ceisiadau am drwydded safle, ar gyfer diwygio trwydded safle neu ar gyfer trosglwyddo trwydded safle, i gyd-fynd â'r cais. Ni fydd y cyngor yn dechrau'r broses ymgeisio tan y derbynnir y ffi.

5.2 Ni ellir ad-dalu ffïoedd ymgeisio os na chymeradwyir y cais.

6. Taliadau eraill

6.1 Lle bo'n briodol, bydd y cyngor hefyd yn ceisio adennill treuliau yr eir iddynt:

  • Wrth gymryd camau yn dilyn collfarnu perchennog y safle am fethu cyflawni'r camau sy'n ofynnol gan hysbysiad cydymffurfio; neu
  • Wrth gymryd camau brys pan fo risg ar fin digwydd o niwed difrifol i unrhyw berson ar y safle o ganlyniad i fethiant perchennog y safle i gydymffurfio ag amodau'r drwydded.

6.2 Gellir codi llog ar unrhyw symiau sydd i'w hadennill o ganlyniad i gamau gorfodi.

6.3 Bydd y cyngor hefyd yn gallu cofrestru unrhyw un o'r dyledion sydd i'w hadennill ar gyfer camau gorfodi fel pridiant tir lleol yn erbyn y safle.  

6.4 Yn unol â Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014, mae'n ofynnol i berchnogion safleoedd adolygu rheolau safle presennol ac ymgynghori â phreswylwyr mewn perthynas â rheolau arfaethedig y safle. Unwaith y cytunir arnynt gyda'r preswylwyr, mae'n ofynnol i berchennog y safle gyflwyno rheolau'r safle i'r cyngor. Mae angen i'r cyngor gymeradwyo a chofrestru'r rheolau. Bydd hefyd yn ofynnol i'r cyngor gyhoeddi'r rhestr o reolau safle ar wefan y cyngor.

6.5 Codir ffi benodol ar gyfer adneuo, amrywio a dileu rheolau safle. Os yw perchennog y parc wedi cwblhau proses ymgynghori annigonol, cynigir bod yn rhaid i berchennog y parc dalu ffi newydd ar gyfer adneuo rheolau safle i dalu costau'r cyngor.

6.6 Nid yw'r datganiad hwn ynghylch costau gorfodi ac adneuo rheolau safle yn ofynnol yn ôl y ddeddf i'w gynnwys ym mholisi ffïoedd y cyngor ond fe'i nodir yn y ddogfen hon er budd cyflawnrwydd a thryloywder fel y nodir isod.

Atodiad A - Ffïoedd ar gyfer trwyddedu safleoedd cartrefi symudol preswyl

Bydd y ffïoedd canlynol yn berthnasol:

Cais cychwynnol am drwydded

  • ffi weinyddol sefydlog ar gyfer prosesu'r cais, ac
  • er mwyn ystyried amser y swyddog wrth archwilio safleoedd o wahanol feintiau, ychwanegir ffi fesul elfen llain at y ffi weinyddol sefydlog, gan fod y gost i'r cyngor o ran amser swyddog yn gymesur â nifer y lleiniau ar y safle.

Dyroddir trwydded safle am hyd at bum mlynedd.

Bydd y ffi archwilio llain yn cynnwys y nifer uchaf o leiniau a ganiateir yn y caniatâd cynllunio ar gyfer y safle (os nodir hyn). Lle nad oes uchafswm a ganiateir wedi'i nodi yn y caniatâd cynllunio, rhaid i'r ffi fod yn seiliedig ar nifer y lleiniau ar y safle ar yr adeg y gwneir y cais, p'un a yw'r lleiniau yn cael eu defnyddio ai peidio.

Amrywio amodau trwydded safle bresennol / trwydded newydd

Gall y cyngor hefyd wneud cais am ffi i amrywio trwydded safle bresennol. Gall y drwydded safle gael ei hamrywio ar gais deiliad y drwydded neu gan y cyngor os oes newid mewn amgylchiadau.

Gosodir ffi ymgeisio ar gyfer amrywio trwydded safle, lle nad oes angen archwiliad.

Os gwneir cais am amrywiad oherwydd newid yng nghynllun y safle h.y. ychwanegu rhagor o leiniau, creu/adleoli cartrefi neu ehangu'r safle, mae'n rhaid cyflwyno'r ffi fesul llain x nifer y lleiniau sy'n cael eu creu gyda'r gost 'amrywiad newid safle'.

Mae'r gost am amrywiad o'r math hwn yn uwch oherwydd bod angen archwiliad safle.

Os yw'r Cyngor o'r farn bod angen newid amodau trwydded safle i ystyried Safonau Enghreifftiol newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Safleoedd Carafannau Preswyl, ni fydd ffi yn daladwy gan ddeiliad y drwydded.

Codir tâl am drwydded newydd.

Ffïoedd ar gyfer gosod rheolau safle

Yn unol â Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014, os yw perchennog safle yn dymuno rhoi rheolau safle ar waith ar y safle, rhaid iddynt gael eu hadneuo gyda'r cyngor. Mae angen i'r cyngor gymeradwyo a chofrestru'r rheolau. Bydd hefyd yn ofynnol i'r cyngor gyhoeddi'r rhestr o reolau safle ar wefan y cyngor.

Mae ffi benodol am adneuo, amrywio a dileu rheolau safle. Os yw perchennog y parc wedi cwblhau proses ymgynghori annigonol, mae'n rhaid i berchennog y parc dalu ffi newydd am adneuo rheolau'r safle i dalu costau'r cyngor.

Taliadau gorfodi

Mae gan y cyngor yr hawl, yn unol ag adran 19 a 22 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (y Ddeddf), i adennill treuliau yr eir iddynt wrth gyflawni camau gorfodi sy'n gysylltiedig â chyflwyno Hysbysiad Cydymffurfio / Cydymffurfio Brys a Hysbysiadau Cosb Benodedig, (heb fod yn fwy na lefel 1 o'r raddfa safonol ar gyfer troseddau diannod o fewn y Ddeddf ar gyfer yr olaf).

Mae'r costau hyn yn cynnwys costau yr eir iddynt wrth benderfynu a ddylid cyflwyno hysbysiad, archwiliadau safle, paratoi'r hysbysiad a chael cyngor arbenigol.

Lle bo'n briodol, bydd y cyngor yn ceisio adennill treuliau yr eir iddynt:

  • wrth gymryd camau yn dilyn collfarnu perchennog y safle am fethu cyflawni'r camau sy'n ofynnol gan hysbysiad cydymffurfio; neu
  • wrth gymryd camau brys pan fo risg ar fin digwydd o niwed difrifol i unrhyw berson ar y safle o ganlyniad i fethiant perchennog y safle i gydymffurfio ag amodau'r drwydded.

Gellir codi llog ar unrhyw symiau sydd i'w hadennill o ganlyniad i gamau gorfodi.

Bydd y cyngor hefyd yn gallu cofrestru unrhyw ddyledion gorfodi heb eu hadennill fel pridiant tir lleol yn erbyn y safle.

Hysbysiadau cosb benodedig

Mae Adran 6 o'r Ddeddf yn caniatáu i'r cyngor roi hysbysiad cosb benodedig i gyflawni rhai mân achosion o dorri amodau trwydded safle. Ni ddylai hysbysiadau cosb benodedig fod yn uwch na lefel 1 ar y raddfa ddirwyon safonol. Gallai'r cyngor ddefnyddio hysbysiad cosb benodedig i ddelio â mân droseddau.

Bydd y cyngor yn codi tâl o £75 am hysbysiad cosb benodedig cartrefi symudol, a bydd hwn yn gostwng i £50 os caiff ei dalu o fewn 10 niwrnod.

Hysbysiadau cydymffurfio

Mae Adran 17 o'r Ddeddf yn caniatáu i'r Cyngor gyflwyno Hysbysiadau Cydymffurfio i berchnogion safleoedd lle mae amodau trwydded safle yn cael eu torri.  Bydd hysbysiadau o'r fath yn nodi'r hyn y mae angen i berchennog y safle ei wneud i gywiro'r toriadau a'r amserlenni. Byddai methiant i gydymffurfio â'r hysbysiad yn drosedd, a gosbir drwy ddirwy a gellid dirymu trwydded safle ar y drydydd erlyniad neu ar erlyniadau dilynol (adran 18). Yn dilyn erlyniad llwyddiannus am dorri hysbysiad cydymffurfio, byddai'r Cyngor yn gallu cyflwyno hysbysiad i fynd i'r safle a chyflawni'r gwaith angenrheidiol (gwaith yn ddiofyn)

Yn ogystal â hyn, mae Adran 21 o'r Ddeddf yn caniatáu cyflwyno hysbysiad i berchnogion safleoedd sy'n galluogi'r Cyngor i fynd i'r safle a gwneud gwaith brys lle mae risg uniongyrchol o niwed difrifol.

Gellir adennill y costau ar gyfer penderfynu a ddylid gweithredu, y costau wrth baratoi a chyflwyno hysbysiadau cydymffurfio a/neu y costau wrth gymryd camau brys (Adran 19 a 22 yn y drefn honno). Gall cyfanswm y treuliau y mae'r awdurdod lleol yn ceisio eu hadennill (y costau perthnasol) gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r cynlynol:

  • Cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol)
  • Costau archwilio
  • Costau gweinyddol wrth gyflwyno hysbysiad.

Byddai costau cyhoeddi hysbysiad cydymffurfio yn seiliedig ar gyfradd fesul awr. Bydd costau ychwanegol ar gyfer swyddogion, gan gynnwys cyngor arbenigol a chostau eraill sy'n gysylltiedig yn benodol ag achos unigol hefyd yn daladwy fesul achos. Bydd dadansoddiad manwl o'r costau perthnasol yn cael ei amlinellu yn yr hawliad, a fydd yn cyd-fynd â'r slip talu.

Bydd pob hysbysiad cydymffurfio a roddir yn amrywio o ran cost; felly, nid yw'n bosib gosod ffi sefydlog ar gyfer y cam gweithredu hwn. Os na fydd unrhyw waith yn yr hysbysiad cydymffurfio yn cael ei wneud, mae deiliad y drwydded yn cyflawni trosedd, a gall y cyngor ystyried cymryd camau cyfreithiol. Byddai unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'r broses hon yn cael eu dyfarnu yn ôl disgresiwn y llysoedd.

Yn unol ag adran 25 o'r Ddeddf, mae'r cyngor yn cadw'r hawl i godi llog sy'n uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr ar yr holl hawliadau gweithredol sy'n weddill mewn perthynas â hysbysiadau cydymffurfio neu hysbysiadau camau brys. Mae'r treuliau perthnasol ac unrhyw log cronedig, hyd nes y cânt eu hadennill, yn bridiant tir cyfreithiol.

Ffïoedd ar gyfer safleoedd cartrefi symudol preswyl
Trwydded newydd (cost prosesu cais yn unig)£1052.05
Ynghyd â ffi fesul llain ar y safle £3.52
Trwydded adnewyddu (cost prosesu cais yn unig)£1010.14
Ynghyd â ffi fesul llain ar y safle£3.52
Amrywiad mewn perthynas â manylion am y safle / rheoli (heb arolygiad)£102.28
Amrywiad mewn perthynas â newidiadau safle neu gynnydd neu ostyngiad yn y nifer (gydag arolygiad)£155.02 yn ogystal â £3.52 fesul llain newydd
Rheolau safle lletya gyda'r cyngor£50.36
Amnewid trwydded£19.69

Atodiad B - Cyfrifo ffïoedd 

Mae Pecyn Cymorth Ffïoedd hefyd wedi'i ddatblygu ar y cyd â Phanel Technegol Trwyddedu Cymru Gyfan gyda'r nod o ddarparu dull cyson a chadarn ar gyfer pennu ffïoedd trwydded.

Mae Panel Technegol Trwyddedu Cymru Gyfan yn is-grŵp o Grŵp Penaethiaid Iechyd yr Amgylchedd Cymru (WHoEHG).

Mae'r pecyn cymorth wedi'i gynllunio i gynorthwyo i bennu ffïoedd sy'n seiliedig ar adennill costau llawn y gwaith sy'n gysylltiedig â thrwyddedu safleoedd mewn ffordd sy'n dryloyw ac yn gadarn.

Close Dewis iaith