Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Safleoedd cartrefi symudol preswyl

Mae hawliau perchnogion cartrefi symudol yn destun deddfwriaeth cartrefi symudol benodol. Mae hyn oherwydd, er taw perchennog cartref symudol sy'n berchen ar ei gartref, gweithredwr safle sy'n berchen ar y safle y mae wedi'i osod arno. Mae perchennog y cartref symudol yn talu rhent i weithredwr y safle er mwyn defnyddio'r llain.

Daeth Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Yn agor ffenestr newydd) fe'i lluniwyd i helpu i wella rheoliad y diwydiant, fel bod amodau safleoedd cartrefi symudol yn cael eu gwella a bod hawliau preswylwyr yn cael eu hamddiffyn yn well.

Trwyddedau safle

Rhaid bod gan bob safle cartref symudol drwydded safle a gyhoeddwyd gan yr awdurdod lleol ar barc a chanddo ganiatâd cynllunio perthnasol. Rhoddir trwyddedau safle am hyd at 5 mlynedd fel arfer.

Safonau enghreifftiol 

Mae Safonau Enghreifftiol 2008 ar gyfer Safleoedd Carafán yng Nghymru (Yn agor ffenestr newydd) yn nodi'r amodau 'a ddisgwylir fel arfer fel mater o arfer da ar safleoedd'. Maent yn berthnasol i garafanau preswyl yn unig a gallant gynnwys meysydd fel cynlluniau parciau cartrefi symudol a darparu cyfleusterau, gwasanaethau a chyfarpar ar eu cyfer. Gwnaeth y safonau hyn gyflwyno nifer o newidiadau, yr oedd y rhai mwyaf sylweddol yn ymwneud â:

  • delio gyda ffiniau safle'r parc
  • esbonio'n gliriach yr hyn y dylid ei ganiatáu neu beidio o fewn y man gwahanu chwe metr rhwng cartrefi
  • caniatáu i gar unigol barcio rhwng cartrefi
  • gofyn am lawr concrit ar gyfer pob cartref 
  • ehangu gofynion draenio parciau i gynnwys y llain 
  • sicrhau bod ardaloedd cymunedol y safle'n cael eu cynnal mewn cyflwr da
  • pennu'r safonau gofynnol sydd eu hangen ar gyfer cyflenwi dŵr, trydan, draenio a glanweithdra
  • gwneud yn glir bod tir a glustnodwyd fel man hamdden yn ofynnol pan fo plant yn byw yn y parc yn unig

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw defnyddiol ar gyfer preswylwyr safle, y bwriedir iddo roi trosolwg cryno o'r newidiadau allweddol a nodwyd o fewn Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

Ble mae'r safleoedd cartrefi parc yn Abertawe?

Mae pedwar safle cartrefi parc preswyl trwyddedig yn Abertawe. Dyma nhw:

  • Parc Cannisland, Blackhills, Gŵyr
  • Parc Woodland, 360 Heol Abertawe, Waunarlwydd, Abertawe
  • Gerddi Mill oddi ar Heol y Mwmbwls, Blackpill, Abertawe
  • Heol Ystrad, Fforestfach, Abertawe.


View Residential mobile homes in a larger map

Rheolau safle

Nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i gyflwyno rheolau ynghylch rhedeg safle. Ond os yw perchennog y parc yn penderfynu gwneud hynny, mae'n rhaid dilyn gweithdrefn lem. Gallwch ddod o hyd i'r weithdrefn yn Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014 (Yn agor ffenestr newydd). Pwrpas rhoi'r rheolau safle ar waith yw sicrhau y cynhelir safonau derbyniadwy ar y safle er lles cyffredinol deiliaid er mwyn hyrwyddo cydlyniant cymunedol ar y safle.

Rheolau safle a adneuwyd gyda'r Awdurdod Lleol

 

Am unrhyw ymholiadau mewn perthynas â chartrefi symudol preswyl yn Abertawe cysylltwch hph@abertawe.gov.uk.

Polisi ffïoedd a thaliadau ar gyfer trwyddedu safleoedd cartrefi symudol preswyl a'u cydymffurfiad

Manylion y costau ar gyfer safleoedd cartrefi symudol preswyl a'n polisi codi tâl
Close Dewis iaith