Swyddog Safonau Masnach : Swyddog Iechyd yr Amgylchedd
£38,223 - £42,403 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am naill ai Swyddog Iechyd yr Amgylchedd neu Swyddog Safonau Masnach cymwys, i ymuno â'n tîm.
Teitl y swydd: Swyddog Safonau Masnach : Swyddog Iechyd yr Amgylchedd
Rhif y swydd: PL.67865
Cyflog: £38,223 - £42,403 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Swyddog Safonau Masnach Disgrifiad swydd (PDF)
[362KB]
Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Disgrifiad swydd (PDF)
[354KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd PL.67865
Dyddiad cau: parhaus
Mwy o wybodaeth
Rydym yn wasanaeth blaengar a arweinir gan wybodaeth sy'n canolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd arloesol o fodloni'r her a berir gan y dirwedd defnyddwyr a busnes sydd ohoni. Rydym yn chwarae rhan weithredol mewn gwaith rhanbarthol ac yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau amgylchedd diogel, teg a llewyrchus i fusnesau a defnyddwyr. Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd arloesol o ymdrin â materion newydd ar y farchnad.
Rydym yn chwilio am swyddog brwdfrydig llawn cymhelliant i ymuno â thîm sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i fusnesau yn y ddinas, wrth fynd i'r afael yn gadarn â gweithgareddau masnachu anghyfreithlon gan ddefnyddio'r ystod lawn o offer a thechnegau sydd ar gael. Gweithio fel rhan o dîm frysur, mae'r modd I rhoi focws ar safonau bwyd ar draws y Ddinas gan gynnwys adrannau eraill o Safonau Masnach, yn ôl yr angen.
Byddwch yn meddu ar y cymhwyster ffurfiol perthnasol bydd gennych gymhwyster ffurfiol ar gyfer cynnal arolygiadau safonau bwyd, naill ai drwy Safonau Masnach neu gefndir Iechyd yr Amgylchedd.
Byddwch yn drefnus ac yn meddu ar hyblygrwydd i weithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol. Yn anad dim, byddwch yn gallu cydymdeimlo â'r cyhoedd, a busnesau, ac ar yr un pryd hefyd yn hyderus yn eich gallu i ymdrin â sefyllfaoedd anodd a heriol.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol