Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddi gwag cyfredol

Swyddi sydd ar gael gyda Dinas a Sir Abertawe neu sefydliadau partneriaeth.

Carer helping someone up

Dylid cyflwyno ffurflenni cais erbyn 11.59pm ar y dyddiad cau.

Mae ffurflenni cais ar gael mewn amrywiaeth o fformatau, e.e. print bras/braille/tâp sain. Ffoniwch 01792 636098 os oes angen unrhyw un o'r cyfleusterau hyn arnoch.

Blaenoriaethir y gweithwyr hynny y mae eu swyddi mewn perygl.

Os ydych eisoes yn gweithio i'r cyngor, rydych hefyd yn gymwys i wneud cais am y swyddi gwag mewnol sydd ar gael.

Awgrymiadau ar gwblhau eich ffurflen gais (PDF, 30 KB)

Hoffwch ni ar Facebook (Yn agor ffenestr newydd) neu dilynwch ni ar Twitter (Yn agor ffenestr newydd) i gael y newyddion diweddaraf am swyddi.

Seicolegydd Addysg Locwm (llawn-amser neu ran-amser)

Yn sgil galw cynyddol, mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg Abertawe (EPS) yn chwilio am seicolegydd addysg locwm (LEP).

Cynorthwywyr Personol Gofal Cymdeithasol

O £12.00 yr awr. Cyflogir Cynorthwyydd Personol Gofal Cymdeithasol i gefnogi unigolyn i fyw mor annibynnol â phosib. Mae amrywiaeth o swyddi ar gael yn ardal Abertawe i gefnogi unigolion o bob oed (gan gynnwys plant ac oedolion), cefndir a gallu.

Arweinydd Grŵp - Mesur Meintiau ac Amcangyfrif (dyddiad cau: 20/01/25)

£53,653 - £58,089 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am Arweinydd profiadol a deinamig sy'n credu mewn ysgogi a grymuso eu gweithwyr. ***Nid oes angen i Ymgeiswyr Blaenorol wneud cais.***

Cynorthwy-ydd Gofal Nos (Dyddiad cau: 30/12/24)

£25,584 - £26,409 pro rata y flwyddyn. (20 awr) yng Nghartref Gofal Preswyl Hollies.

Cymhorthydd y gegin (dyddiad cau: 31/12/2024)

Cyflog £23,998 y flwyddyn pro rata. Ydych chi'n frwdfrydig? Dibynadwy? Gweithgar? Cydwybodol? Os ydych chi wedi ateb 'ie', mae gennym ni'r swydd i chi! Rydym yn bwriadu cyflogi Cynorthwywyr Cegin ar gyfer Ysgolion yng Nghyngor Abertawe.

Glanhawr (dyddiad cau: 31/12/2024)

Cyflog £22,737 y flwyddyn pro rata. Ydych chi'n frwdfrydig? Dibynadwy? Gweithgar? Cydwybodol? Os ydych chi wedi ateb 'ie', mae gennym ni'r swydd i chi! Rydym yn bwriadu cyflogi Glanhawyr i Ysgolion yng Nghyngor Abertawe.

Gweithiwr Cymdeithasol - Uwch Weithiwr Cymdeithasol - Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol Arbenigol (dyddiad cau: 01/02/25)

£39,513 - £48,710 y flwyddyn. Yng Nghyngor Abertawe, mae ein tîm Cynllunio Gofal â Chymorth (SCP) yn mynd trwy gyfnod cyffrous o ddatblygiad. Gan gydnabod, yn ystod eu cyfnod mwyaf agored i niwed, bod teuluoedd eisiau ac angen ymarferwyr profiadol, medrus a rhagorol i'w cefnogi a'u harwain, rydym yn darparu cyfleoedd i'n gweithwyr cymdeithasol mwyaf profiadol barhau'n gadarn mewn rheoli achosion tra'n datblygu eu sgiliau eu hunain wrth gefnogi datblygiad ac ymarfer cydweithwyr.

Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg X 2 (dyddiad cau: 24/12/24)

£25,584 - £26,409 pro rata y flwyddyn. (Dros Dro a Rhan Amser) (35 awr, 40 wythnos y flwyddyn) Mae Dechrau Disglair Tirdeunaw yn lleoliad Dechrau'n Deg Cymru yn ceisio penodi gweithiwr gofal plant brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'i dîm i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel i blant yn y gymuned leol 2-3 oed. (Bydd y cyflog a nodir yn amodol ar addasiad amser tymor yn unig os yw dechrau cyflogaeth ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd).

Cynorthwy-ydd Gofal Nos (dyddiad cau: 31/12/24)

£25,584 - £26,409 pro-rata y flwyddyn. Swydd cynorthwyydd gofal nos - 20 awr yng Nghartref Gofal Preswyl Hollies

Arweinydd Adran Cyflenwi X 2 (dyddiad cau: 10/01/25)

£44,711 - £48,710 y flwyddyn. Llawn amser ac yn barhaol. Rydym yn chwilio am 2 unigolyn brwdfrydig, egnïol a hunangymhellol sy'n gallu dangos eu gallu i addasu'n gyflym i sefyllfaoedd heriol wrth barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i raglenni, cyllidebau ac amser.

Arweinydd Tîm Gwaith Achos (dyddiad cau: 23/12/24)

£39,513 - £43,693 y flwyddyn. Llawn amser a pharhaus. Oherwydd galwadau cynyddol ar y gwasanaeth Opsiynau Tai a chyfrifoldebau'r Tîm Gwaith Achos i ehangu, mae hon yn swydd ychwanegol newydd mewn Opsiynau Tai a bydd yn cynnwys rhannu cyfrifoldebau rheoli'r Tîm Gwaith Achos gydag Arweinydd Tîm Gwaith Achos arall.

Uwch Weithiwr Achos (dyddiad cau: 23/12/24)

£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Llawn amser ac yn barhaol. Mae Opsiynau Tai yn chwilio am Uwch Weithiwr Achos i reoli'r cyngor ar dai rheng flaen a'r gwasanaeth digartrefedd.

Rheolwr Rhaglen Gyfalaf (dyddiad cau: 06/01/25)

£49,764 i £53,906 y flwyddyn. (Gradd 11). Rydym yn gyffrous i gynnig cyfle gwych i unigolyn deinamig a brwdfrydig ymuno â Thîm Trawsnewid Gorllewin Morgannwg.

Contractau Cyfreithwyr Cyswllt (dyddiad cau: 13/01/25)

£44,711 - £48,710 y flwyddyn. Gwahoddir ceisiadau gan FCILEX brwdfrydig, arloesol, cymwys a phrofiadol, Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr i weithio yn ein tîm Contractau a Masnachol.

Rheolwr Cytundeb a Phrosiect (dyddiad cau: 14/01/25)

£35,235 i £38,626 y flwyddyn. Mae'r gwasanaeth Rheoli Gwastraff yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig i ymgymryd â rôl Rheolwr Cytundeb a Phrosiect.

Gweithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau: 08/01/25)

£39,513 - £43,693 y flwyddyn (Gradd 9) / £35,235 - £38,626 y flwyddyn (Gradd 8 ar gyfer newydd gymhwyso). Ydych chi'n weithiwr cymdeithasol cymwys sy'n chwilio am gyfle i weithio gydag amrywiaeth eang o oedolion? Mae Cyngor Abertawe yn recriwtio ar gyfer Gweithiwr Cymdeithasol yn ein Tîm Cartref yn Gyntaf yn bennaf yn Ysbytai Treforys, Singleton, Gorseinon a Chastell-nedd Port Talbot.

Prif Gyfrifydd - Cyfalaf (dyddiad cau: 31/12/24)

£44,711 - £48,710 y flwyddyn. Llawn amser ac yn barhaol. Rydym yn awyddus i recriwtio Prif Gyfrifydd i ddarparu cyngor a chymorth cyfrifyddu ac ariannol ar bob agwedd ar gyllidebau cyfalaf, gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a meysydd cyfrifyddu cyfalaf technegol eraill. Yn ogystal â'ch cyflog, byddwch yn cael eich gwobrwyo â chynllun pensiwn rhagorol a buddion eraill fel gweithio hyblyg.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Rhagfyr 2024