Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Hafod - Gofalwr

Dyddiad cau: 12/08/24 (12.00pm), Lefel 2 Gradd 4 (pt 5-6) £19,650-£20,043 y flwyddyn (pro rata). 52 wythnos - 20 awr yr wythnos. Sylwch fod y cyflog hwn yn amodol ar addasiad yn ystod y tymor yn unig os yw'r dyddiad penodi ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd. Swydd i gychwyn: 1 Medi 2024.

Mae Ysgol Gynradd Hafod wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel, hapus a gofalgar lle mae pob plentyn yn ffynnu. Rydym yn darparu cwricwlwm perthnasol, deniadol a chynhwysol sy'n ysgogi chwilfrydedd naturiol pob plentyn ac sy'n ymateb i'w anghenion unigol. Rydym yn hwyluso caffael gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth yn effeithiol i rymuso ein plant i ddod yn ddysgwyr llwyddiannus gydol oes.

Rydym yn chwilio am unigolyn rhagorol sy'n edrych i symud ymlaen o fewn y rôl gofalu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • cyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau fel y nodir yn y disgrifiad swydd
  • bod yn feddyliwr creadigol sy'n croesawu newid ac yn credu mewn gwaith tîm a chydweithio
  • gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm ar y cyd â'r pennaeth, yr Uwch Dîm Arwain, staff, llywodraethwyr a phlant
  • meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a bod yn ymrwymedig i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda'r plant, rhieni, staff a llywodraethwyr
  • bod yn barod i gyfrannu at fywyd ehangach cymuned yr ysgol

Byddai unrhyw brofiad blaenorol fel gofalwr o fantais. Byddai'r gallu i yrru a pherchnogaeth car yn ddymunol. Swydd dros dro yw hon yn amodol ar gadarnhad cyllid a chyfnod prawf boddhaol o 6 mis.  

Gallwn gynnig y canlynol i chi:

  • cyfle a sgôp ardderchog i ddatblygu eich sgiliau eich hun ac i gael effaith gadarnhaol ar fywydau a phrofiadau dysgu'r plant yn ein gofal.
  • y cyfle i weithio fel rhan o dîm ymroddedig, cyfeillgar a chefnogol iawn.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu lles plant ac yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gellir lawrlwytho ffurflenni cais o wefan Dinas a Sir Abertawe yn www.abertawe.gov.uk. Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi at sylw'r pennaeth, Mr Timm Dadds, i'r ysgol e-bost: hafod.primary.school@swansea-edunet.gov.uk  

Dyddiad cau: 12/08/24 (12.00pm).
Tynnu rhestr fer: 13/08/24
Cyfweliadau: Yn yr wythnos yn dechrau 12/08/24

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc) [134KB]   Disgrifiad swydd - Gofalwr (Ysgol Gynradd Hafod) (PDF) [149KB]


 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Gorffenaf 2024