Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Gofal Preswyl i Blant (dyddiad cau: 29/07/24)

£29,777 - £33,024 y flwyddyn. Mae ein cartrefi preswyl yn darparu cymorth, arweiniad a gofal i blant a phobl ifanc rhwng 12 a 18 oed. Gall ein plant a'n pobl ifanc wynebu anawsterau ymddygiadol ac emosiynol a allai effeithio ar eu lles a'u diogelwch.

Teitl y swydd: Swyddog Gofal Preswyl i Blant
Rhif y swydd: SS.73335
Cyflog: £29,777 - £33,024 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Disgrifiad swydd - Swyddog Gofal Preswyl i Blant (SS.73335) (PDF) [189KB] 
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.73335

Dyddiad cau: 11.59pm, 29 Gorffennaf 2024 

Mwy o wybodaeth

Fel awdurdod lleol rydym wedi ymrwymo i helpu'r bobl ifanc hyn drwy eu grymuso a'u cefnogi i gyflawni eu nodau a mwynhau dyfodol disglair.

Pwy ydym ni eisiau eu recriwtio? 

Ydych chi'n gweithio'n galed, yn gyfeillgar, yn wydn, yn llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig, ac yn bennaf oll yn mwynhau gwneud i bobl ifanc chwerthin a chael hwyl. 

Ydych chi'n gallu gwrando a deall plant a phobl ifanc ac eiriol ar eu rhan? 

Oes gennych chi'r bersonoliaeth a'r sgiliau cyfathrebu i gyfrannu at amgylchedd cynnes, gofalgar a chefnogol? 

Allech chi fod yn gyfrifol am ofal o ddydd i ddydd y bobl ifanc yn ogystal â sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hasesu a bod eu cynlluniau personol yn cael eu datblygu a'u gweithredu? 

Yna dyma'r swydd i chi.

Gwybodaeth am y rôl

Rydym yn awyddus i recriwtio nifer o swyddogion llawn amser ar sail tymor penodol tan 31 Mawrth 2026. 

Bydd yn rhaid i chi fod yn amyneddgar, gydag agwedd gadarnhaol tuag at wella bywydau'r bobl ifanc. Gall y rôl fod yn heriol ond yn hynod werth chweil. 

Os ydych chi'n chwilio am swydd lle gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn - gwnewch gais heddiw.

Mae angen i chi fod yn ddyfeisgar gyda'r gallu i greu perthnasoedd yn gyflym wrth weithio fel rhan o dîm tuag at nodau a chanlyniadau lles y cytunwyd arnynt.

Bydd gennych gymhelliant uchel, sgiliau cyfathrebu a TG da a bydd gennych ddealltwriaeth glir o anghenion y bobl ifanc a'u teuluoedd. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio 37 awr yr wythnos dros gyfnod o 7 diwrnod (sifftiau 12 awr) gan gynnwys diwrnodau, nosweithiau a phenwythnosau. Bydd cyfradd uwch yn cael ei thalu am weithio oriau anghymdeithasol. 

Os byddwch yn llwyddiannus bydd gwiriadau recriwtio ychwanegol yn cynnwys gwiriad am unrhyw euogfarnau troseddol a bydd yn y rhestr wahardd yn cael ei gwirio.

Bydd angen geirdaon ysgrifenedig ac fel rhan o broses recriwtio diogel y gwasanaeth, bydd y rheolwyr yn craffu ar y geirdaon hyn. 

Yn gyfnewid

Yn ddelfrydol bydd gennych Gymhwyster QCF Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Plant a Phobl Ifanc, ond nid yw'n hanfodol. 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sydd â sgiliau eraill a fyddai'n ddefnyddiol i'r rôl ond sydd hefyd yn barod i weithio tuag at gwblhau'r cymhwyster o fewn amserlen resymol. Byddwch yn derbyn cefnogaeth lawn i wneud hyn.

Byddwch yn derbyn hyfforddiant hanfodol a chyfleoedd parhaus i wella eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'r rôl a sut i roi'r gefnogaeth orau i bobl ifanc yn y gwasanaeth. 

Yn ogystal â hyn rydym yn cynnig cyflog cystadleuol, gwyliau blynyddol gwych a llawer mwy o fuddion a disgowntiau i weithwyr. 

Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Kate Pope, Rheolwr Cofrestredig Cartrefi Preswyl i Blant kate.pope@swansea.gov.uk 

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir.
 


 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Gorffenaf 2024