Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr Cymdeithasol x 2 (dyddiad cau: 29/07/24)

Gradd 8 Newydd gymhwyso (SCP 25 - 29) £33,945 - £37,336 a Gradd 9 (SCP 30-34) £38,223 - £42,403 y flwyddyn. Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'r Tîm Anabledd Plant - Gweithiwr Cymdeithasol (parhaol) a Gweithiwr Cymdeithasol (contract cyfnod penodol 1 flwyddyn).

Teitl y swydd: Gweithiwr Cymdeithasol
Rhif y swydd: SS.68906-V1
Cyflog: Gradd 8 Newydd gymhwyso (SCP 25 - 29) £33,945 - £37,336 a Gradd 9 (SCP 30-34) £38,223 - £42,403 y flwyddyn. 
Disgrifiad swydd:  Disgrifiad swydd - Gweithiwr Cymdeithasol SS.68906-V1 (PDF) [262KB]  
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.69086-V1

Dyddiad cau: 11.59pm, 29 Gorffennaf 2024 

Mwy o wybodaeth

Yn Abertawe, rydym yn credu mai ein gweithlu yw ein hased mwyaf, a byddwn yn sicrhau bod gennych y gefnogaeth gywir ac amgylchedd gweithio cadarnhaol i ddarparu gofal cymdeithasol rhagorol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn ymgymryd â rôl heriol ond gwerth chweil ac yn gwerthfawrogi'r gwytnwch maen nhw'n ei ddangos drwy oresgyn heriau bob dydd. Bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn ein Tîm Anabledd Plant yn gyfrifol am reoli risg a chynllunio gofal ar gyfer ein plant sydd â chynlluniau plant sydd angen gofal a chymorth, cynlluniau amddiffyn plant a'r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus. Byddant hefyd yn asesu Cymhwysedd Gillick, Galluedd Meddyliol ac Amddifadu o Ryddid gan gymhwyso'r opsiwn lleiaf cyfyngol. Yn ein gwaith gyda theuluoedd, bydd ein gweithwyr cymdeithasol yn cael eu cefnogi gan dîm profiadol er mwyn cyflawni Asesiadau Galluedd Meddwl, cadeirio cyfarfodydd Lles Gorau a gwneud ceisiadau am Orchmynion Amddifadu o Ryddid. 

Os hoffech drafod y swydd yn fanylach, cysylltwch a  Nicola Owen, ar 01792 635180 neu Nicola.Owen@swansea.gov.uk

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir.
 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Gorffenaf 2024