Ysgol Gynradd Tregŵyr: Gofalwr
Dyddiad cau: 31/08/24 (12 hanner dydd); Graddfa 5 (SCP 07-09) Cyfweliadau: wythnos yn dechrau 2 Medi 2024. Contract Parhaol - 15 awr yr wythnos (41 wythnos y flwyddyn) ynghyd â rhai oriau ychwanegol yn ôl y gofyn. Gellir trafod oriau gwaith hyblyg. Dyddiad cychwyn - Medi 2024.
Mae Ysgol Gynradd Tregŵyr yn ysgol fodern, fywiog a chynhwysol yng nghanol y pentref. Ym mis Ionawr 2016, symudodd yr ysgol i adeilad pwrpasol newydd ar Gyfadeilad Chwaraeon Elba, ac rydym yn ymfalchïo yn y rôl a chwaraewn yn y gymuned.
Mae corff llywodraethu Ysgol Gynradd Tregŵyr yn dymuno penodi rhywun a all:
- fod yn rhagweithiol, yn gyfrifol ac yn ddibynadwy, i ymuno â'n tîm
- gweithio ar draws safle'r ysgol yn ymgymryd â dyletswyddau cyffredinol o ran gofalu
- gwneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw'r ysgol a'r tir
- gwneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw'r ysgol a'r tir
- rheoli systemau cynnal a chadw, diogelwch a chyfleusterau ar dir yr ysgol
Yn ogystal, byddant yn ddeiliad yr allweddi, gan fod yn gyfrifol am agor a chloi adeilad yr ysgol ar ddechrau a diwedd y dydd.
Datganiad Diogelu - Mae Ysgol Gynradd Tregŵyr wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac mae disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.
Dylid anfon ceisiadau wedi'u cwblhau trwy e-bost at y Pennaeth - Mr Richard Jones Gowerton.Primary@swansea-edunet.gov.uk
Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc)
[134KB]
Ysgol Gynradd Tregŵyr – Gofalwr Lefel 1 (PDF)
[123KB]