Arbenigwr Perfformiad - Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (dyddiau cau: 26/07/24)
£51,425 - £56,976 (+3SPA). Mae gennym gyfle cyffrous i athro ymuno â'r tîm gwella ysgolion. Mae'r rôl yn cael ei hariannu gan Grant Addysg Awdurdod Lleol (GAAL) blynyddol Llywodraeth Cymru.
Teitl y swydd: Arbenigwr Perfformiad - Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Rhif y swydd: ED.73396
Cyflog: Soulbury 9 - 13 (+3SPA)
Disgrifiad swydd:
ED.73396 - Arbenigwr Perfformiad – Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (PDF)
[350KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg
Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd ED.73396
Dyddiad cau: 12 uned, 26 Gorffennaf 2024
Mwy o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn gofyn am athro cymwys a phrofiadol addas sydd â gweledigaeth glir o sut i gefnogi ysgolion er mwyn hyrwyddo cynnydd disgyblion cryf ym maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (ILLC). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi'r tîm gwella ysgolion ehangach i nodi a rhannu arfer effeithiol ar draws yr awdurdod lleol (AALl). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain y gwaith o ddatblygu strategaeth ILLC Abertawe. Bydd ganddynt ddealltwriaeth ragorol o ddatblygiad plant a byddant yn gwybod sut orau i ddefnyddio hyn er mwyn cefnogi dylunio/adolygu, asesu a dilyniant dysgwyr cwricwlwm effeithiol. Bydd y penodai yn gallu dangos dealltwriaeth glir o'r egwyddorion sy'n sail i Gwricwlwm i Gymru a bydd yn gallu cefnogi ysgolion a chydweithwyr drwy ddiwygio'r cwricwlwm. Gyda ffocws ar ddarparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, bydd y swydd hon yn gofyn am sgiliau cyflwyno rhagorol ynghyd â dealltwriaeth dda o'r cyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus a ddarperir gan bartneriaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Bydd y penodai yn cefnogi datblygiad polisïau a chynlluniau sy'n anelu at gyflawni'r amcanion a nodir yng Nghynllun Corfforaethol Abertawe.
Llunio rhestr fer: TBC
Cyfweliadau: TBC
Ariennir gan grant. Swydd i'w adolygu'n flynyddol
Disgwyliadau
Fe fydd yr ymgeisydd lwyddiannus:
- yn athro cymwysedig a bod â thrwydded yrru lawn a dilys;
- profiad diweddar o arwain ILLC a hanes profedig o wella ansawdd y ddarpariaeth a'r canlyniadau;
- dangos ymrwymiad i athroniaeth Cwricwlwm i Gymru wedi'i seilio ar arddull addysgu ddeinamig, greadigol ac arloesol;
- bod yn barod i weithio'n hyblyg o fewn y tîm i gyflawni ein hamcanion a rennir;
- bod yn athro ymgynghorol brwdfrydig
- a threfnus a fydd yn gweithio'n hyderus ar eich menter eich hun gyda phenaethiaid, athrawon a llywodraethwyr (lle bo angen);
- cefnogi ysgolion i gyflawni eu dyletswyddau statudol a chwarae rhan allweddol wrth gynnal a gwella ansawdd y ddarpariaeth a'r canlyniadau i ddisgyblion;
- bod yn gyfrifol am baratoi a darparu hyfforddiant ysbrydoledig o ansawdd uchel yn ganolog ac mewn lleoliadau;
- cynnal ymweliadau rheolaidd ag ysgolion a lleoliadau i gynghori ac ymgynghori ar gamau i'w gwella, rhannu arfer effeithiol a chrynhoi eich ymweliadau ar ffurf adroddiad;
- darparu cymorth a chyngor ar arddulliau addysgu a dysgu ac ar strategaethau i werthuso ansawdd yr addysgu a'r dysgu;
- nodi arferion addysgu a dysgu effeithiol y gellir eu rhannu o fewn ac ar draws rhwydweithiau;
- naill ai'n uniongyrchol neu drwy gymorth a gomisiynir (fel y bo'n briodol), nodi materion cyffredin a chyfrannu at ddatrys y rhain drwy ddatblygu strategaeth llythrennedd awdurdod lleol a;
- cael cefnogaeth dda gan dîm o gynghorwyr profiadol.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â David Thomas drwy e-bost David.thomas1@swansea.gov.uk neu ffôn 07968135550
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol