Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gymunedol Dylan Thomas - ATHRO SAESNEG (CYFNOD MAMOLAETH)

(dyddiad cau : 13/09/24) (12canol dydd) Yn dechrau ar 1 Hydref 2024. M2 (£30,742) i UPS 3 (£47,340)

Mae Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn ysgol hapus a diogel lle'r ystyrir ac y darperir ar gyfer anghenion pob disgybl. Mae pob aelod o staff yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod hyn yn parhau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cynnig cefnogaeth ac adnoddau llawn yr ysgol i ddatblygu'n broffesiynol mewn amgylchedd hynod gefnogol gyda chydweithwyr ysbrydoledig a chefnogol

Yn ein Harolwg ym mis Chwefror 2024, dywedodd Estyn fod staff Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn cynnig gofal, cefnogaeth ac arweiniad o ansawdd uchel yn gyson i ddisgyblion. Mae naws deuluol gynhwysol i'r ysgol ac mae perthnasoedd cryf rhwng disgyblion a staff.

Mae'r llywodraethwyr yn awyddus i benodi athro arloesol, talentog, brwdfrydig ac ymroddedig i addysgu Saesneg ar draws CA3 a CA4. Mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol sydd ag adnoddau da gyda staff ymroddedig. Gallai'r person a benodir fod yn ANG a fyddai'n cael cynnig arweiniad a chefnogaeth ardderchog.

Byddai'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn fantais ond nid yw'n hanfodol.

Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i bob aelod o'r staff rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r swydd hon yn gofyn am wiriad GDG manwl.

Mae swydd-ddisgrifiadau manwl, manylebau person a ffurflenni cais ar gael o  e-teach neu drwy gysylltu â'r ysgol email@dylanthomas.swansea.sch.uk

Sylwer ein bod yn derbyn ceisiadau ar ffurflenni cais ysgol yn unig. email@dylanthomas.swansea.sch.uk

Dyddiad cau: 12 canol dydd, 13 Medi 2024

Mae Ysgol Gymunedol Dylan Thomas wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn. O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor bod "Diogelu'n fater i bawb" ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Cyngor Abertawe. 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Gorffenaf 2024