Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweinydd Ymarfer (dyddiad cau: 26/07/24)

£46,464 - £47,420 y flwyddyn. Ydych chi'n awyddus i ddatblygu eich gyrfa mewn gwaith cymdeithasol ac yn angerddol am wneud yr hyn sy'n bwysig i'n plant a'n pobl ifanc? Os felly, mae hwn yn gyfle gwych i chi. Ar hyn o bryd mae gan y Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal yn Abertawe swydd wag ar gyfer Arweinydd Ymarfer.

Teitl y swydd: Arweinydd Ymarfer
Rhif y swydd: SS.3511-V2
Cyflog: £46,464 - £47,420 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Arweinydd Ymarfer (SS.3511-V2) Disgrifiad swydd (PDF) [292KB]
Directorate/department: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.3511-V2


Dyddiad cau: 11.59pm, 26 Gorffennaf 2024


Mwy o wybodaeth

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r tîm gan ein bod wedi ehangu yn ddiweddar ac yn parhau i ddatblygu'r Tîm.  Bydd angen i chi fod yn uwch weithiwr cymdeithasol profiadol a mwynhau'r cyfle i weithio mewn amgylchedd cyflym, creadigol a chefnogol. Bydd gofyn i chi rannu eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn rhwydd a chyfrannu at ddiwylliant o ddysgu a datblygu'r Tîm yn barhaus, er mwyn cyflawni'r hyn sy'n bwysig i'n plant a'n teuluoedd. 

Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc 0-16 oed sydd wedi profi trawma. Rydym yn dîm o weithwyr brwdfrydig ac ymroddedig sydd am greu cysylltiadau diogel a pharhaol gyda phlant a phobl ifanc.  Rydym yn ymfalchïo fel tîm wrth sicrhau ein bod yn cefnogi ein plant a'n pobl ifanc i ddeall eu taith bywyd a'u cefnogi i gael amser teuluol diogel gyda'r rhai sy'n bwysig iddynt.  

Rydym yn gweithio'n agos gyda'n tîm mewnol Maethu Cymru, Abertawe, y Tîm Teulu a Chyfeillion, asiantaethau maethu annibynnol a darparwyr preswyl i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael y gofal gorau ac yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau cyn iddynt ddod yn oedolion. 

Fel Arweinydd Ymarfer yn y Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio a chefnogi POD o uwch weithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol a swyddogion cymorth, bydd eich rôl yn cynnwys:

  • Gruchwylio Uwch Weithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol a Swyddogion Cymorth yn eich POD.
  • Rhoi cyfeiriad a chymorth i Uwch Weithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol a swyddogion cymorth yn eich POD.
  • Cadeirio cyfarfodydd megis cyfarfodydd strategaeth, cyfarfodydd rhwydwaith i deuluoedd, cyfarfodydd sefydlogrwydd lleoliadau.
  • Hyrwyddo datblygiad Uwch Weithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol a Swyddogion Cymorth o fewn y Tîm
  • Cynnal ac arwain ar ymchwiliadau amddiffyn plant
  • Cefnogi'r rheolwr tîm i ddatblygu'r tîm a rheoli o ddydd i ddydd 
  • Sicrhau Ansawdd gwaith achos i gynnwys Asesiadau, Cynlluniau Gofal a Chymorth, gwaith llys

Os ydych chi'n Uwch weithiwr cymdeithasol profiadol sy'n gobeithio symud ymlaen yn eu gyrfa ac yn angerddol am weithio gyda phlant a phobl ifanc, yna dyma'ch cyfle i wneud hynny mewn tîm cefnogol ac angerddol.  

Rydym yn hysbysebu am Arweinydd Ymarfer Parhaol yn ein tîm Plant sy'n Derbyn Gofal. I gael sgwrs anffurfiol am bopeth sydd gan Abertawe i'w gynnig, cysylltwch â Shahin Dorward yn Abertawe ar 01792 635180 neu drwy e-bost Shahin.Dorward@swansea.gov.uk

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Gorffenaf 2024