Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas - Gofalwr

Dyddiad cau: 31/08/24 (4pm). Cyflog - £11.98 yr awr O leiaf 12 awr yr wythnos. Oriau ychwanegol yn debygol o fod ar gael fel rhyddhad. Yn dechrau cyn gynted â phosib.

Mae Pennaeth a Chorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas am benodi dau berson cyfrifol a dibynadwy i weithio fel gofalwyr ar safle'r ysgol. Fel ysgol gymunedol weithgar lle mae llyfrgell gyhoeddus a gosodiadau cymunedol ac ar gyfer ymwelwyr iechyd ar y safle, mae'r ysgol ar agor y tu allan i oriau ysgol ac yn ystod gwyliau'r ysgol.

Bydd yn rhaid i chi:

  • fod yn hyblyg, gan y bydd oriau'n cynnwys cymysgedd o foreau, nosweithiau, penwythnosau a gwyliau ysgol.
  • bod yn gyfrifol am ddyletswyddau'r deiliad allweddi.
  • bod yn ymwybodol o faterion Iechyd a Diogelwch ac ymateb iddynt.
  • gallu cynorthwyo wrth gynnal a chadw a gwella golwg adeilad ein hysgol a'r amgylchedd awyr agored.
  • gallu defnyddio sgiliau DIY sylfaenol, e.e. peintio a mân atgyweiriadau.
  • bod yn frwdfrydig, yn hunangymhellol gyda'r gallu i ddefnyddio'ch menter eich hun i ddelio â materion wrth iddynt godi ar y safle.
  • meddu ar sgiliau cyfathrebu da. 
  • bod yn hawdd mynd atoch ac yn broffesiynol
  • bod yn barod i ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant angenrheidiol ar gyfer y rôl

Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad manwl gan y Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd. 

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe ceir egwyddor "Mae diogelu'n fusnes i bawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.

Rydym yn ymroddedig i ddiogelu lles plant ac yn disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn.Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae manylion pellach ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Dyddiad cau - 31 Awst 2024 (4pm)

Cyfweliadau - 2 Medi 2024

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc) [134KB]

Dylid dychwelyd ceisiadau i  Dwyerr1@hwbcymru.net a nodi eu bod i sylw Pennaeth.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Gorffenaf 2024