Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Dyfnant: Athro Parhaol gyda chyfrifoldebau arweinydd canol

Dyddiad cau: 02/09/2024, 12.30pm. Cyflog: Prif Raddfa Athrawon. Cytundeb: Nifer ar y gofrestr barhaol: 360 (3-11 oed).

Mae Ysgol Gynradd Dynfant yn ysgol fywiog, gynhwysol. Mae'r ysgol yn ymfalchïo yn ei hamrywiaeth a'i hethos cynhwysol. Rydym yn Ysgol Arfer Adferol ac yn Ysgol sy'n Parchu Hawliau. Mae'r corff llywodraethu yn awyddus i benodi athro rhagorol ac ysbrydoledig, i ymuno â'n tîm cyfnod Blwyddyn 5-6 yn hydref 2024 i ddechrau. Mae gan Ysgol Gynradd Dynfant enw rhagorol am ddatblygu athrawon i swyddi arweinyddiaeth ac mae hwn yn gyfle i rywun sydd â phrofiad cychwynnol o arweinyddiaeth ddatblygu'r sgiliau hyn ymhellach. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus naill ai arwain maes dysgu neu faes arall o gynllun datblygu'r ysgol. Bydd yr ymgeisydd cywir yn cael cynnig cyfleoedd i weithio ochr yn ochr â'n huwch dîm arwain.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:

  • Yn ymarferydd ystafell ddosbarth ardderchog gydag ystod o brofiadau ar draws y cyfnod oedran cynradd
  • Yn greadigol ac yn gallu ysbrydoli dysgu y tu hwnt i'r dosbarth
  • Yn rhywun sy'n gweithio'n dda iawn fel rhan o dîm
  • Yn meddu ar ddisgwyliadau uchel ar gyfer dysgu, ymddygiad a gofal pob disgybl
  • Yn rhywun sy'n ymroddgar, yn gweithio'n galed ac yn awyddus i gynnig i fywyd ehangach yr ysgol 
  • Yn meddu ar sgiliau trefniadol, cyfathrebu a rhyngbersonol da
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth glir o sut i ddatblygu llais dysgwyr, dysgu dan arweiniad disgyblion a gwella llesiant
  • Yn meddu ar sgiliau TGCh effeithiol ac yn gallu defnyddio'r rhain i wella dysgu

Gallwn gynnig i chi:

  • Gyfle i fod yn rhan o dîm staff hapus, brwdfrydig a chyfeillgar
  • Plant penigamp gydag agweddau gwych ac ymddygiad rhagorol
  • Cyfleoedd i gyfrannu at ddatblygu dull yr ysgol o ymdrin â mentrau newydd
  • Cyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol

Gwahoddir pob darpar ymgeisydd i archebu lle ar daith o amgylch yr ysgol. Bydd y rhain yn cael eu cynnal ddydd Llun 15 Gorffennaf am 1:30pm neu 4pm a dydd Mercher 17 Gorffennaf am 1:30pm a 4pm. Dim ond ar gyfer un mae'n rhaid i ymgeiswyr archebu!  Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael, felly rhaid archebu lle ymlaen llaw.   Gellir gwneud hyn drwy gysylltu â swyddfa'r ysgol ar 01792 207336.

Bydd gofyn i ymgeiswyr y rhestr fer ddangos eu haddysgu rhagorol trwy arsylwi eu gwers ar naill ai 10/11 Medi 2024. Bydd cyfweliadau ffurfiol yn cael eu cynnal ar 13 Medi. Dyddiadau dechrau i'w cytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus, ar ôl cael eu dewis.

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc) [120KB]
Swydd-ddisgrifiad Athro Dosbarth Prif Raddfa Gyflog (PDF) [146KB]

Dylid dychwelyd ffurflenni wedi eu cwblhau at Dunvant.primary@swansea-edunet.gov.uk at sylw'r pennaeth.  

Bydd unrhyw gynnig cyflogaeth yn amodol ar ddatgeliad manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).  Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau eu swydd.

O fewn Cyngor Abertawe ceir egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding

Mae angen gwiriad DBS manwl ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Taith o amgylch yr Ysgol:  Dydd Llun 15 Gorffennaf am 1:30pm neu 4pm a dydd Mercher 17 Gorffennaf am 1:30pm a 4pm

Dyddiad Cau: 02/09/2024, 12.30pm

Llunio rhestr fer:   06/09/2024

Arsylwi: 10/11 Medi 2024 (I'w drefnu gydag ymgeiswyr ar y rhestr fer)

Cyfweliadau: 13 Medi 2024

Dyddiad dechrau:   I'w gadarnhau gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Gorffenaf 2024