Toglo gwelededd dewislen symudol

Seicolegydd Addysg Cynorthwyol (dyddiad cau: 20/07/24)

£35,228 - £37,828 y flwyddyn. Cyngor Abertawe yn disgwyl am seicolegydd addysg gynorthwyol ddynamig i helpu dosbarthu gwasanaethau seicolegol i deuluoedd, ysgolion, cymdeithasau lleol a gweithrediadau arall. Dros dro hyd at 31 Awst 2025.

Teitl y swydd: Seicolegydd Addysg Cynorthwyol
Rhif y swydd: ED.72783
Cyflog: £35,228 - £37,828 y flwyddyn (Soulbury Asssistant Educational Psychologist Spine. Point 2)
Disgrifiad swydd:  Seicolegydd Addysg Cynorthwyol (ED.72783) Disgrifiad swydd (PDF) [216KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.72783


Dyddiad cau: 11.59pm, 20 Gorffennaf 2024

Mwy o wybodaeth

Mae'r rôl yma yn bwriadu bod am geiswyr sydd yn ymgeisio i hyfforddi a gweithio fel seicolegydd addysg. Mae rhaid i geiswyr cael gradd israddedig neu/a gradd uwch sydd yn caniatáu 'graduate basis for chartered membership' (GBC) efo'r Gymdeithas Seicolegol Brydeinig (BPS). Mae disgwyliad bydd y ceiswyr llwyddiannus yn ymgeisio am le ar ddoethuriaeth gydnabyddedig mewn seicoleg addysg, sydd yn caniatáu cofrestriad efo'r HCPC (Health Care Proffesions Council) fel seicolegwyr ymarferol, a statws siartredig efo'r BPS.

Dylai geiswyr cael profiadau o weithio yn uniongyrchol efo plant a phobl ifanc, yn ddelfrydol, o fewn addysg. Mae statws dysgu amodol (Qualified Teacher Status) yn ddymunol ond ddim yn hanfodol. Bydd y ceiswyr llwyddiannus yn derbyn goruchwyliaeth broffesiynol efo seicolegwyr addysg, ond mae disgwyliad i'r ceiswyr weithio yn hyblyg, rheoli gwaith cymhleth, a chwrdd ag terfynau amser sydyn hefyd. Mae'r gwasanaeth seicoleg yn cynnig llawer o gyfleoedd am gymorth o gydweithwyr, ac mae ethos cryf o fewn y dim.

Bydd angen i geiswyr ddangos dealltwriaeth o'r cyfraniad unigryw gall seicolegwyr cyfrannu tuag at addysg a datblygiad plant. Dylai'r ceiswyr llwyddiannus gael dealltwriaeth o'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (2018) a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol am Gymru (2021).

Os cewch eich penodi, byddech yn atebol i'r Pennaeth a'r Uwch Seicolegydd Addysg, gan weithio ar gynlluniau strategaeth allweddol. Bydd y gwaith yn amrywio gan ganiatáu profiad o ddyletswyddau prif ffrwd.

Mae hyn yn adeg gyffroes i ymuno a Chyngor Abertawe, sydd yn defnyddio dulliau strategol a drawsffurfiol i ddosbarthu gwasanaethau i ddinasyddion Abertawe. Mae 'bwrdd addysg Cyngor Abertawe yn cael dyheadau uchelgeisiol am eu plant a phobl ifanc. Yn ôl Estyn (2022), 'mae lles ddisgyblion yn flaenoriaeth allweddol i'r awdurdod lleol. Mae'r ysgolion a'r swyddogion uwch efo ymrwymiad cryf tuag at gefnogi disgyblion bregus a disgyblion mewn perygl o ddadymafael'.

Gallai ymgeiswyr gysylltu â Hilary Bignell (Uwch Seicolegydd) hilary.bignell@swansea.gov.uk am sgwrs anffurfiol amdano'r swydd.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Gorffenaf 2024