Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweinydd Grŵp - Mesur Meintiau ac Amcangyfrif (dyddiad cau: 22/07/24)

£53,653 - £58,089 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am Arweinydd profiadol a deinamig sy'n credu mewn ysgogi a grymuso eu gweithwyr.

Teitl y swydd: Arweinydd Grŵp - Mesur Meintiau ac Amcangyfrif  
Rhif y swydd: PL.64703-V1
Cyflog: £53,653 - £58,089 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:  Disgrifiad swydd - Arweinydd Grŵp – Mesur Meintiau ac Amcangyfrif PL.64703-V1 (PDF) [233KB]  
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.64703-V1

Dyddiad cau: 11.59pm, 22 Gorffennaf 2024 

Mwy o wybodaeth

Gan adrodd i'r Pennaeth Gwasanaethau Adeiladu, byddwch yn ymgymryd â rôl allweddol a chanolog lle byddwch yn monitro'n agos holl agweddau ariannol y prosiectau a gynhelir. 
Bydd angen i chi feddu ar brofiad sylweddol o reoli contractau ynghyd â gwybodaeth dechnegol gadarn. Bydd angen i chi hefyd gael dealltwriaeth dda o weithdrefnau Iechyd a Diogelwch, Caffael, Cynllunio a Rhaglennu a gallu dangos ymwybyddiaeth fasnachol ragorol yn y diwydiant adeiladu. 

Gan ddefnyddio eich sgiliau cyfathrebu a negodi cryf, byddwch yn gallu datrys problemau'n effeithiol ac yn meddu ar yr ysgogiad a'r uchelgais i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel yn llwyddiannus.  

Byddwch yn dangos awch i wneud y gwaith ac awydd cryf i lwyddo wrth weithio fel rhan o dîm deinamig sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. 

Rydym am i unigolion uchelgeisiol a dawnus wneud cais, sef unigolion sy'n angerddol am gyflawni amcanion unigol ac amcanion y cyngor yn ogystal â bod yn eithriadol o falch o ansawdd a phroffesiynoldeb eu gwaith. 

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir.
 

 


 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Gorffenaf 2024