Cynorthwyydd Arddangosfeydd Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru (dyddiad cau: 15/07/24)
£24,294 - £25,119 y flwyddyn. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Arddangosfeydd i dîm yr Oriel. Fel un o brif orielau cyhoeddus Cymru, dyma gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm proffesiynol ac ymroddedig.
Teitl y swydd: Cynorthwyydd Arddangosfeydd Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru
Rhif y swydd: PL.73450
Cyflog: £24,294 - £25,119 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Cynorthwyydd Arddangosfeydd Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru (PL.73450) Disgrifiad swydd (PDF)
[230KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.73450
Dyddiad cau: 11.59pm, 21 Gorffennaf 2024
Mwy o wybodaeth
Swydd cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2024 yw hon ac felly'n cael ei hysbysebu'n fewnol ar gyfer staff presennol y cyngor yn unig.
Prif bwrpas y swydd hon yw cefnogi'r Swyddog Arddangosfeydd i gyflwyno
arddangosfeydd a chasgliadau creadigol ac arloesol. Mae angen sgiliau trefnu rhagorol a sgiliau gweinyddol a TG/ysgrifenyddol da, gyda'r gallu i gydlynu amserlen brysur a manwl. Mae sgiliau marchnata yn ddymunol iawn, yn ogystal â gradd yn y Celfyddydau Gweledol neu Weinyddu'r Celfyddydau, ynghyd â phrofiad o weithio mewn oriel/amgueddfa neu amgylcheddau creadigol eraill.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol