Swyddog Desg Gymorth TGCh (dyddiad cau: 18/07/24)
£29,777 - £33,024 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi yn yr adran Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid ar gyfer Swyddog Desg y Gwasanaeth TGCh. Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig, cryf ei gymhelliant, trefnus ac â'r cymwysterau priodol i ymgymryd â'r rôl hon, a fydd yn atebol i Reolwr Gweithrediadau Seilwaith y Gwasanaethau Digidol.
Teitl y swydd: Swyddog Desg Gymorth TGCh
Rhif y swydd: CS.65644
Salary: £29,777 - £33,024 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Swyddog Desg Gymorth TGCh (CS.65644) Disgrifiad swydd (PDF)
[233KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaeth Corfforaethol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.65644
Dyddiad cau: 11.59pm, 18 Gorffennaf 2024
Mwy o wybodaeth
Rydym yn chwilio am Swyddog Desg i'r Gwasanaeth TGCh a fydd yn rhan o dîm sy'n rhoi cymorth technegol aml-haen ac yn darparu cyngor ac arweiniad arbenigol a chymorth technegol ar lefel uchel i holl ddefnyddwyr y gwasanaethau digidol gan gynnwys ysgolion.
Byddwch yn bwynt cyswllt technegol unigol ar gyfer pob mater digidol mewn nifer o ddisgyblaethau technegol.
Bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd gymryd rhan weithredol mewn diwylliant sy'n rhoi pwyslais ar arloesi a mynd ati'n rhagweithiol i ganfod ac awgrymu lle gellir gwella'r Gwasanaethau Digidol a'r gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae brwdfrydedd ynghylch technolegau newydd a rhai sy'n cael eu datblygu a diddordeb yn y technolegau hynny yn allweddol i'r swydd hon.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol