Swyddog Gwasanaethau Byw'n Annibynnol x2 (dyddiad cau: 20/07/24)
£25,979 - £28,770 y flwyddyn. Swydd rheng flaen yw hon sy'n darparu cefnogaeth lefel isel i Bobl Hŷn sy'n byw yn un o Gynlluniau Byw'n Annibynnol y Gwasanaeth Tai i'w galluogi i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Teitl y swydd: Swyddog Gwasanaethau Byw'n Annibynnol x2
Rhif y swydd: PL.0193-V1
Cyflog: £25,979 - £28,770 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Swyddog Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (PL.0193-V1) Disgrifiad swydd (PDF)
[276KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0193-V1
Dyddiad cau: 11.59pm, 20 Gorffennaf 2024
Mwy o wybodaeth
Prif bwrpas rôl y Swyddog Gwasanaethau Byw'n Annibynnol yw ymweld â thenantiaid, cwblhau Cynlluniau Cymorth a chynnig cymorth sy'n gysylltiedig â thai. Bydd deiliad y swydd yn cysylltu ag aelodau o'r teulu ac asiantaethau eraill ar ran tenantiaid.
Mae gan ddeiliad y swydd hefyd gyfrifoldebau landlord ac mae'n rheolwr safle ar gyfer y safle, gan gyflawni dyletswyddau sy'n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch, gan gynnwys y rhai sy'n rhan o'r rheoliadau diogelwch tân.
Yn ogystal, efallai y bydd gofyn darparu cymorth lefel isel fel y bo'r angen i Bobl Hŷn sy'n byw yn y gymuned. Mae hwn yn gyfle delfrydol i'r rhai sydd â chefndir Tai, Cymorth neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n mwynhau gweithio gyda Phobl Hŷn.
Mae hon yn swydd amser llawn, fodd bynnag gellid ystyried oriau gwaith hyblyg/llai ar ôl cytuno ar batrwm gwaith sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol