Prif Swyddog Adfywio Economaidd (dyddiad cau: 04/08/24)
£38,223 - £42,403 y flwyddyn. Mae'r Tîm Adfywio Economaidd yn recriwtio Prif Swyddog Adfywio Economaidd a fydd yn arwain y gwaith o gynllunio a chyflawni prosiectau sy'n cefnogi uchelgais adfywio economaidd y Cyngor.
Teitl y swydd: Prif Swyddog Adfywio Economaidd
Rhif y swydd: PL.65821-V2
Cyflog: £38,223 - £42,403 y flwyddyn
Disgrifiad swydd:
Prif Swyddog Adfywio Economaidd (PL.65821-V2) Disgrifiad swydd (PDF)
[228KB]
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.65821-V2
Dyddiad cau: 11.59pm, 4 Awst 2024
Mwy o wybodaeth
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â maes gwasanaeth yng Nghyngor Abertawe sy'n chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o sbarduno Adfywiad Economaidd yn Abertawe a Rhanbarth Bae Abertawe.
Mae'r swydd hon wedi'i lleoli yn y Tîm Adfywio Economaidd, sy'n rhan o Is-adran Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Gan adrodd i'r Uwch Reolwr Adfywio Economaidd, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyflwyno rhaglen waith yn unol ag uchelgeisiau adfywio economaidd, blaenoriaethau corfforaethol a gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Abertawe a'r rhanbarth.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gynllunio a chyflawni camau adfywio economaidd sy'n cyd-fynd â strategaeth adfywio economaidd y Cyngor. Yn benodol, bydd hyn yn cynnwys gweithredu polisi buddion cymunedol y Cyngor, Y Tu Hwnt i Frics a Morter, i gwrdd â dangosyddion perfformiad corfforaethol. Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu polisi adfywio economaidd a chynnal ymchwil economaidd fel sail ar gyfer gweithgareddau adfywio economaidd. Dylai ymgeiswyr fod â chefndir mewn adfywio economaidd, a phrofiad o ymgysylltu ag ystod eang o sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i gyflawni camau adfywio economaidd.
Mae hon yn swydd ran-amser, 30 awr yr wythnos (4 diwrnod gwaith).
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Clare James trwy e-bostio clare.james2@swansea.gov.uk neu Paul Relf/ paul.relf@swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol